Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Ebrill 2025
Cofnodion Bwrdd TrC
17 Ebrill 2025
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, a James Price, Louise Cheeseman, Vernon Everitt, Rhian Langham a Vinay Parmar.
Hefyd yn bresennol:
Ian Lucas (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol), Sam Hadley (TrC), Peter McDonald (Llywodraeth Cymru) a Stephen Morgan.
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ni nodwyd unrhyw ymddiheuriadau.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Cymeradwyodd y Bwrdd gofnodion 20 Mawrth 2025.
1e. Sylw i ddiogelwch
Trafododd y Bwrdd ddigwyddiad diweddar ger Willingham, lle’r oedd dau fws ac injan dân yn rhan o ddamwain traffig ar y ffordd a arweiniodd at gludo tri pherson i’r ysbyty, un gydag anafiadau difrifol. Cytunodd y Bwrdd fod hyn yn ein hatgoffa fod digwyddiadau’n gallu digwydd mewn unrhyw sefyllfa ac mae’n ddyletswydd ar TrC i fod yn wyliadwrus ac i liniaru risg lle bo hynny’n bosibl.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd allgau digidol ac anhawster cychwynnol aelod o deulu wrth gysylltu â’i ddarparwr teledu, ar ôl derbyn negeseuon e-bost yn bygwth adennill dyledion. Ar ôl ffonio’r adran gwasanaethau cwsmeriaid, cafodd ei gyfeirio i ddechrau drwy system awtomatig, a oedd yn mynd yn fwy ac yn fwy rhwystredig. Fodd bynnag, ar ôl cael ei gysylltu ag asiant, daeth y broses yn galonogol a gwelwyd enghraifft o ofal cwsmer rhagorol. Nododd y Bwrdd, er bod systemau awtomatig yn gallu bod yn ddefnyddiol, mae cael rhywun sy’n deall yn rhan bwysig o’r dasg o ddarparu profiad personol, a dylai egwyddorion dylunio sicrhau eu bod yn rhoi pwyslais ar bobl.
2. Perfformiad Diogelwch
Ymunodd Seamus Scallon â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ymweliad diweddar â TfL i ddeall y risgiau sy’n gysylltiedig â defnyddio bysiau hydrogen a’u mabwysiadu.
Trafododd y Bwrdd y cynllun Diogelwch hefyd, gan nodi bod cynlluniau wedi cael eu datblygu gyda pherchnogion a’u timau sydd i fod i gymryd cyfrifoldeb am gamau gweithredu. Nododd y Bwrdd fod damweiniau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu wedi gwella ers y cyfnod diwethaf, a bod ymosodiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu wedi gostwng 30% ers y cyfnod diwethaf. Gofynnodd y Bwrdd am gymhariaeth o un flwyddyn i’r llall, gan wneud cais i’r ystadegau gael eu normaleiddio i ystyried digwyddiadau afreolaidd er mwyn canfod a oes unrhyw dueddiadau sy'n gyrru digwyddiadau y tu hwnt i ddiwrnodau digwyddiadau [Gweithredu - Seamus Scallon]. Hysbyswyd y Bwrdd, er bod nifer y damweiniau sy’n ymwneud â’r gweithlu wedi gostwng, mae angen gwneud gwelliannau o hyd er mwyn lleihau achosion o ymosod, gan nodi bod y rhan fwyaf o ymosodiadau yr adroddir amdanynt yn ymwneud ag ymddygiad geiriol a gwrthgymdeithasol.
Hysbyswyd y Bwrdd fod cynlluniau diogelwch teithio wedi cael eu cyflwyno ar Linellau Craidd y Cymoedd, gan ganolbwyntio’n benodol ar benwythnosau, a staff diogelwch ychwanegol yn cael eu darparu. Trafododd y Bwrdd ymgysylltu ag uwch reolwyr, gan gynnwys teithiau diogelwch a chynlluniau i fynd allan i’r rhwydwaith ac ymgysylltu â chydweithwyr er mwyn cael cyfle i ddeall pryderon diogelwch yn well. Holodd y Bwrdd a oedd data ar gael i ddangos argraffiadau cydweithwyr ynghylch diogelwch a sut maen nhw’n teimlo, gan nodi y byddai'n fuddiol gallu deall sut mae cydweithwyr a chwsmeriaid yn gweld diogelwch o’i gymharu ag adroddiadau traddodiadol, a gofynnodd a fyddai’n bosibl i’r data gael ei gynnwys yn y diweddariad diogelwch a gyflwynir i’r Bwrdd [Gweithredu - Seamus Scallon]. Trafododd y Bwrdd duedd cydweithwyr i roi gwybod am ddigwyddiadau a diffiniadau o ddamwain neu ymosodiad, gan nodi y gall adroddiadau amrywio, ac y gall y cyfryngau a ffactorau allanol eraill gael dylanwad.
Trafododd y Bwrdd chwythu’r chwiban a data allweddol a nodwyd ar iechyd a diogelwch, gan holi a yw chwythu’r chwiban yn rhoi ffocws ar ddiogelwch, gyda golwg ar ystod eang o bwyntiau data a allai adeiladu naratif ehangach y tu hwnt i chwythu’r chwiban yn unig. Hysbyswyd y Bwrdd fod data diogelwch yn cael ei wahanu oddi wrth adroddiadau chwythu’r chwiban, ond cytunwyd nad yw’n cyfrannu at bwyntiau data ehangach ar hyn o bryd. Ystyriodd y Bwrdd adolygu data chwythu’r chwiban i nodi themâu diwylliannol a allai roi cipolwg gwerthfawr ar ddiogelwch, gan nodi bod angen gwaith ar gyfathrebiadau sy’n ymwneud â chwythu’r chwiban i roi sicrwydd i gydweithwyr nad oes unrhyw gosb am wneud hynny [Gweithredu - Seamus Scallon].
Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am Pullman Rail a chafodd wybod, er nad oes unrhyw beth wedi cael ei ddweud yn adroddiad y Bwrdd, y bu heriau wrth sefydlu trefn ddiogelwch well a bod secondiad o TrC wedi cael ei roi ar waith i sicrhau arferion diogelwch gwell.
TYNNWYD
Gadawodd Seamus Scallon y cyfarfod.
3. Cofrestr risg
Ymunodd Josh Hopkins â’r cyfarfod.
Trafododd a nododd y Bwrdd yr adroddiad risg strategol ar gyfer mis Ebrill, a dywedwyd wrtho y bydd datganiad ar barodrwydd i dderbyn risg yn cael ei gyflwyno i’w drafod ym mis Mehefin.
Gadawodd Josh Hopkins y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Nododd y bwrdd yr her ddiwylliannol o symud i Rwydwaith T, gan gofio bod aelodau’r tîm â phrofiad uniongyrchol o un dull gweithredu yn hanesyddol. Serch hynny, mae gwaith datblygu’n parhau.
- Heriau i gynyddu gwasanaethau yng Ngogledd Cymru oherwydd cyfyngiadau croesfannau rheilffordd ac ymgysylltu â Network Rail i ddatrys cyfyngiadau.
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- Gofynnodd y Bwrdd am ddatblygu asesiad o’r effaith ar gwsmeriaid ar gyfer diwygio’r rheilffyrdd (cyn ac ar ôl hynny) [Gweithredu - James Price] a bod y ‘pecyn cyflwyno’ ar gyfer yr hyn y mae TrC ei eisiau allan o GBR yn cael ei ddosbarthu i aelodau’r Bwrdd [Gweithredu - James Price].
- Cynigion Rhwydwaith Gogledd Cymru a datblygu darlun clir o beth mae un amserlen, un tocyn yn ei olygu i gwsmeriaid i ddangos manteision Rhwydwaith T.
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- Trafododd y Bwrdd benderfyniadau rheng flaen a sut mae annog grymuso ar yr un pryd â chynnal rheolaethau diogelwch cryf, gan nodi y bydd hyn yn dod yn ôl i Fwrdd TrC i’w drafod ymhellach.
- Nododd y Bwrdd drafodaeth flaenorol ar weithio gydag asiantaeth ddiwylliant a gofynnodd am ddiweddariad. Hysbyswyd y Bwrdd fod yr ymgynghoriaeth a gyflogwyd yn flaenorol wedi cwblhau ei gwaith erbyn hyn, a bod gwaith bellach yn parhau'n fewnol.
- TYNNWYD
- Yn ddiweddar, aeth JP i’r Pwyllgor Pobl a thynnu sylw at y set ddata a gyflwynwyd yn y pecyn, gan ddweud y bydd data’n esblygu ac yn dod yn fwy defnyddiol wrth iddo ddatblygu.
- TYNNWYD
- Hysbyswyd y Bwrdd fod perfformiad rheilffyrdd yn dal yn dda, yn enwedig ar Linellau Craidd y Cymoedd, diolch i amserlenni datblygedig a diwylliant perfformiad sy’n golygu bod modd canolbwyntio ar rannau llai gweladwy o’r rhwydwaith a allai fod yn niweidiol i incwm a brand.
- Mae rhwystr ar lein Rhymni am chwe wythnos tra bo gwaith trydaneiddio’n cael ei wneud. Nodwyd nad oes unrhyw gwynion wedi dod i law gan y Prif Swyddog Gweithredol mewn perthynas â hyn.
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- TYNNWYD
- Diweddarwyd y Bwrdd am flaenoriaethau strategol y Bwrdd.
5. Cyllid
Hysbyswyd y Bwrdd fod archwilwyr allanol wrthi’n asesu prisiadau Llinellau Craidd y Cymoedd. Bydd datganiadau ariannol yn cael eu cwblhau erbyn diwedd mis Mehefin i’w cynnwys yn natganiadau ariannol 2024/25. TYNNWYD. Yn dilyn trafodaeth ynghylch CDEL gyda Llywodraeth Cymru, cytunwyd i reoli symudiadau diwedd y flwyddyn terfynol rhwng llinellau gwariant yn y gyllideb a’u defnyddio i leihau yn erbyn rheilffyrdd er mwyn helpu i reoli risg a bylchau cyllido yn y dyfodol. TYNNWYD.
TYNNWYD
5.2 Llythyrau Cysur
Cymeradwyodd y Bwrdd lythyrau cysur Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf a Pullman Rail Ltd.
6. Diweddariad ar ls-gwmni'au
6.1 Bwrdd Rheilffyrdd TrC
Rhoddwyd gwybodaeth i'r Bwrdd am drafodaethau ynghylch CAF, rhagolygon a thargedau perfformiad y cytunwyd arnynt ar gyfer y 12 mis nesaf, a thrafodaethau masnachol a marchnata.
6.2 Ffeibr TrC
TYNNWYD
7. Diweddariad ar ls-bwyllgorau
7.1 lechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd
Hysbyswyd y Bwrdd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal ynghylch trenau'n dod oddi ar y cledrau ar gyflymder araf yn Nhreganna a bod RSSB wedi cael sicrwydd bod ffactorau cyfrannol wedi cael eu hasesu, gyda chyfres o gamau gweithredu wedi cael eu sefydlu i liniaru achosion yn y dyfodol. Hysbyswyd y Bwrdd fod telemateg bysiau yn rheoli achosion o dorri terfynau cyflymder uchel. Trafododd y Pwyllgor hefyd y defnydd o gamerau corff a hyrwyddo manteision gwisgo'r offer ymhlith staff rheng flaen. Nododd y Bwrdd chwarter diogelwch cadarnhaol ar gyfer Pullman Rail.
7.2 Prosiectau Mawr
Hysbyswyd y Bwrdd fod bysiau, hydrogen, Caerdydd Canolog a Cledrau Croesi wedi cael eu trafod.
7.3 Pwyllgor Pobl
Adolygwyd gofynion data a dadansoddi. Hysbyswyd y Bwrdd fod y pwyllgor yn symud tuag at ddealltwriaeth a chamau gweithredu, gan nodi bod angen sefydlu canlyniadau. Adolygodd y Pwyllgor bolisi'r menopos, cynllunio cydraddoldeb strategol, y bwlch cyflog rhwng y rhywiau a sut mae'n cael ei adrodd, gan nodi bod angen adrodd yn 6l erbyn 5 Eb rill.
7.4 Masnachol a Phrofiad y Cwsmer
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad a thrafododd ail-lunio'r is-bwyllgor Masnachol a Phrofiad y Cwsmer. Hysbyswyd y Bwrdd fod sgyrsiau'n esblygu i ddull gweithredu mwy strategol. Roedd y cyfarfod diweddar yn canolbwyntio ar argraffiadau o ran brand, gwerthiant, partneriaethau masnachol a chyflawni. Bydd agendau'r dyfodol yn canolbwyntio ar berfformiad a dangosyddion perfformiad allweddol.
7.5 Diweddariad y Bwrdd Llywio
Hysbyswyd y Bwrdd fod trafodaeth wedi'i chynnal ynghylch GBR a nodwyd y Bwrdd Diwygio Bysiau newydd a fydd yn adrodd yn 6l i'r Bwrdd Llywio. Rhoddwyd diweddariadau ar ddiwedd y flwyddyn, llythyrau cyllido a chynnydd mewn Yswiriant Gwladol.
8. Sesiwn Diweddaru Gweithredol
8.1 Diweddariad ar CVL
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad a thrafodwyd y canlynol:
- Mae’r rhaglen drydaneiddio a fydd yn nodi rhediadau cyntaf yr unedau Dosbarth 756 wedi cwblhau chwech allan o wyth noson o brofion, gydag elfennau EMT a darllen goleuadau yn perfformio yn ôl y disgwyl.
- Mae mater ceblau trydanol newydd o dan bontydd yn tripio wedi cael ei ddatrys, gan nodi bod hyn wedi achosi tua wyth achos o dripio.
- Mae’r uned Dosbarth 398 gyntaf wedi bod yn cael ei phrofi ar rwydwaith TAM yn ystod y dydd. Cynhaliwyd profion hefyd drwy sawl noson, a nodwyd rhai mân broblemau cychwynnol. Mae cyfanswm o 5,000 o filltiroedd o brofion wedi cael eu cwblhau.
- Gosodwyd 120 o sylfeini llinellau uwchben ar linell Rhymni, o flaen amserlenni’r rhaglen.
- Cwblhau’r gwaith o drydaneiddio Caerffili erbyn mis Awst 2025.
- Aros o fewn y gyllideb ar gyfer 2025/26.
- Cerbydau newydd yn cyflawni 92.3% ar amser, gan ragori ar y cerbydau presennol.
Llongyfarchodd y Bwrdd Dan Tipper a’r tîm ar y llwyddiannau a’r hyn a gyflawnwyd hyd yma.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
8.2 Rhaglen Bysiau Hydrogen
Ymunodd Lee Robinson â’r cyfarfod.
TYNNWYD
9. Unrhyw Fater Arall
Nododd y Bwrdd werthiant tocynnau ar gyfer uwchgynhadledd trafnidiaeth mis Mai, a thrafodwyd ymgysylltu a hyrwyddo’r digwyddiad. Gofynnwyd i aelodau’r Bwrdd hyrwyddo’r Uwchgynhadledd drafnidiaeth drwy eu cyfrifon LinkedIn. Cytunodd y Bwrdd i annog cynulleidfa amrywiol i fod yn bresennol.
10. Papur i’w nodi
10.1
Nododd y Bwrdd y Papur Amcanion Llesiant.
11. Sesiwn Gyfrinachol
Cafodd y Bwrdd sesiwn gyfrinachol.
TYNNWYD
Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a datgan bod y cyfarfod wedi dod i ben.