Ewch i'r tabl cynnwys

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Gorffennaf 2025

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

17 Gorffennaf 2025

09:30 - 16:00

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Vinay Parmar, Louise Cheesman, Rhian Langham, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Ian Lucas; Gareth Evans (Llywodraeth Cymru); a Jeremy Morgan.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhan A - Cyfarfod Llawn y Bwrdd

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Andrew Morgan (CLlLC); ac Alan McCarthy (Unite).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC a gynhaliwyd ar 19 Mehefin 2025 fel cofnod gwir a chywir.

Nodwyd y log camau gweithredu.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Bu’r Bwrdd yn pwyso a mesur effaith y tywydd ar wasanaethau, a'r heriau rhwng darpariaeth weithredol ac iechyd a diogelwch.

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Ystyriodd y Bwrdd ganfyddiadau diweddar adroddiad ynghylch dewisiadau cwsmeriaid mewn gwahanol grwpiau demograffig.

 

3. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Seamus Scallon a Josh Hopkins â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad perfformiad diogelwch. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Adroddiad ar y Cyd Interim y Diwydiant ynghylch damwain Talerddig. Mae saith o'r argymhellion eisoes wedi cael sylw, neu mae gwaith yn mynd rhagddo i'w cyflawni. Gofynnodd y Bwrdd i fwrdd TfW Rail Ltd drafod y paratoadau ar gyfer yr Hydref, ac a fyddai modd rhannu’r cynllun Paratoi ar gyfer yr Hydref â'r Bwrdd ar adeg briodol [Cam Gweithredu Marie Daly]. Pwysleisiodd y Bwrdd hefyd yr angen i ystyried paratoadau ar gyfer yr Haf.
  • Mae dangosyddion y cyfnodau diwethaf yn dangos patrwm cadarnhaol, gyda gwelliannau i’w gweld o ran digwyddiadau Pasio Signalau Stop (SPAD), anafiadau i'r gweithlu, ac anafiadau nad ydynt yn ymwneud â'r gweithlu. Nododd y Bwrdd fod data'n cael ei gysoni'n barhaus.
  • Canolbwyntiwyd ar dresmasu yn ystod y chwarter diwethaf, gan edrych ar ymddygiad sylfaenol. Mae cynllun gweithredu yn cael ei ddatblygu sy'n cynnwys ystyriaethau ynghylch defnyddio technoleg i ddarganfod elfennau risg. Hysbyswyd y Bwrdd bod technoleg a phatrolau amlach yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd mewn mannau problemus, ac i greu cysylltiadau â'r gymuned leol.
  • Mae gwaith yn dal i fynd rhagddo i wella data un ffynhonnell gyda'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

 

4. Adroddiad Risgiau Strategol

Mae’r pwyslais diweddar wedi bod ar y risgiau sy’n sail i risgiau Haen 1 ar lefel Haen 2, gan gynnwys ystyried parodrwydd tymhorol.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

Gadawodd Seamus Scallon a Josh Hopkins y cyfarfod.

 

5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Mae digwyddiadau uchel eu proffil yng Nghaerdydd dros yr wythnosau diwethaf wedi cael eu rheoli'n dda iawn, ond mae risgiau'n parhau o ran blinder staff. Croesawodd y Bwrdd ran TrC yn llwyddiant y digwyddiadau hyn. Gofynnodd y Bwrdd a oes gan TrC lais yn y broses o amserlennu digwyddiadau, a chafodd wybod ei fod yn cyfrannu at wahanol fforymau ond bod angen cael mwy o ddylanwad ar y broses o wneud penderfyniadau. Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â threfniadau tocynnau y lleoliadau sy’n cynnal y digwyddiadau a'r effaith ar deithwyr nad ydynt yn mynd i'r digwyddiad, a gofynnodd i'r Pwyllgor Twf a Phrofiad Cwsmeriaid drafod hyn yn fanylach [Cam Gweithredu Vinay Parmar]. Nododd y Bwrdd fod TrC yn gwneud colled ar y digwyddiadau hyn, a bod hynny wedi cael ei ystyried fel rhan o gyllidebau 2026/27.
  • Mae mwy o eglurder ynghylch cyllid seilwaith rheilffyrdd a gyhoeddwyd fel rhan o'r adolygiad diweddar o wariant, a beth mae hyn yn ei olygu i Gymru. Nododd y Bwrdd y bwriad i ddefnyddio'r cyllid ychwanegol a roddwyd, ond bod gofyniad parhaus i wneud cais ar y cyd am gyllid ychwanegol yng nghyd-destun sbarduno twf economaidd a chydlyniant cymdeithasol.
  • Roedd y gwres tymhorol wedi achosi nifer o ddigwyddiadau ar y cledrau a'r trenau yn ddiweddar. Dywedodd y Bwrdd mai dyma'r normal newydd o bosibl o ganlyniad i newid hinsawdd, a bod gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau bod cynlluniau yn eu lle’n briodol ar draws y busnes cyfan i fynd i'r afael â hyn.
  • Mae’n ymddangos bod y rheolaethau ariannol ychwanegol ar ddyluniad ac adeiladwaith Llinellau Craidd y Cymoedd yn dal i gael effaith gadarnhaol. Fodd bynnag, mae bwlch cyllid o £15m ar gyfer 2025/26, ac mae gwaith wrthi’n cael ei wneud i ddod o hyd i fesurau lliniaru posibl. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael gwybod y diweddaraf am y sefyllfa bresennol.
  • Mae angen Strategaeth Pobl glir ar gyfer Bysiau, mewn partneriaeth â'r Undebau Llafur allweddol. Mae cyfarfodydd wedi dechrau cael eu cynnal er mwyn cychwyn y broses. Mae llythyr yn cael ei ddrafftio gan Lywodraeth Cymru a TrC sy'n egluro bwriad polisi TrC o ran masnachfreinio, ar gyfer y rheini a fydd yn gweithio i weithredwyr.
  • Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod perfformiad CAF wedi gwella yn y depo yng Nghaer, ond mae risgiau'n parhau ac yn cael eu rheoli TYNNWYD.
  • Yn gyffredinol, mae perfformiad gweithredol wedi parhau i wella o ran cyrraedd targedau PTL ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd a Chymru a’r Goroau. Fodd bynnag, mae angen mynd ati’n ofalus i ddelio â’r bwlch rhwng Cymru a’r Gororau a’r perfformiad gwell ar Linellau Craidd y Cymoedd.
  • Mae gwaith yn parhau i wneud cais am gyllid Rhwydwaith Gogledd Cymru ar gyfer 2026/27. Mae'r holl ymrwymiadau ar gyfer 2025/26 ar y trywydd iawn i gael eu cyflawni. Serch hynny mae risgiau'n parhau o ran gwella amserlenni Gogledd Cymru, gan fod hynny’n dibynnu ar gefnogaeth awdurdodau lleol i gau croesfannau rheilffordd. Mae’r trafodaethau’n parhau.
  • Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i wella diogelwch a gwydnwch Technoleg Gwybodaeth TrC. Gofynnodd y Bwrdd am sicrwydd ynghylch gwydnwch y busnes a seiberddiogelwch, gan gynnwys adroddiadau rheolaidd a chymryd camau gweithredu penodol i reoli risgiau [Cam Gweithredu Heather Clash]

Cafodd y Bwrdd hefyd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymarfer mewnol parhaus ynghylch symleiddio'r busnes, arolygon diwylliant, a recriwtio Cyfarwyddwr Diogelwch.

 

6. Cyllid

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ariannol ar gyfer mis Mehefin 2024, a chyfrifon rheoli TfW Rail Ltd ar gyfer cyfnod rheilffyrdd tri.

Cafodd y Bwrdd wybodaeth am y sefyllfa refeniw a chyfalaf ar gyfer mis Mehefin 2024 a'r flwyddyn hyd yma. Nododd y Bwrdd danwariant yn achos refeniw a chyfalaf, ac ni fydd y naill na'r llall yn effeithio ar y sefyllfa alldro, oherwydd bod y sefyllfa gyfalaf yn cael ei hailgyfeirio (rephase) TYNNWYD.

Dywedodd y Bwrdd y bydd yr Adroddiad Blynyddol a’r Datganiadau Ariannol yn cael eu cyhoeddi'r wythnos nesaf.

Trosglwyddodd Scott Waddington y gwaith o gadeirio'r cyfarfod a TrC i Vernon Everitt. Diolchodd y cadeirydd newydd i Scott Waddington am ei gyfraniad sylweddol i TrC dros y chwe blynedd a hanner diwethaf, a oedd wedi gosod sylfaen ar gyfer popeth sydd wedi cael ei gyflawni dros y cyfnod hwnnw drwy weithio ochr yn ochr â'r Prif Swyddog Gweithredol a gweddill y tîm - yn enwedig wrth ddelio â'r problemau'n ymwneud â Covid, ymgymryd â'r rheilffyrdd, ac adfer Llinellau Craidd y Cymoedd ar ôl Covid. Diolchodd y cadeirydd hefyd i Scott Waddington am greu amgylchedd cyfforddus ac effeithiol ar gyfer y Bwrdd.

Cymeradwyodd y Bwrdd Peter Strachan i ymuno â'r Bwrdd fel cyfarwyddwr anweithredol fis nesaf.

Cyflwynwyd y Bwrdd i fersiwn 1 y gyllideb ar gyfer 2026/27, a fydd yn cael ei thrafod gyda Llywodraeth Cymru.

 

7. Diweddariad Pullman Rail

Ymunodd Jon Bridge â'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau yn Pullman Rail. TYNNWYD.

TYNNWYD

 

8. Adrodd corfforaethol

Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd wybodaeth am gynlluniau i gyflawni Cynllun Busnes 2026/27.

Darparwyd diweddariad ar y Dangosyddion Perfformiad Allweddol chwarterol, gan gynnwys newidiadau a wnaed i roi mwy o ffocws, yr angen am fwy o dargedau, a'r angen i adolygu'r mesur Iaith Gymraeg [Cam Gweithredu Zoe Smith-Doe]. Cytunwyd i beidio â chynnwys targed ar gyfer canslo ymlaen llaw gan nad yw TrC yn defnyddio “p-code”, ond bydd hyn yn cael ei fonitro'n ofalus. Bydd metrig ar gymorth i deithwyr yn cael ei gynnwys.

 

9. Seiberddiogelwch

Ymunodd Mandy Garrett a Stuart Elliot â'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyflawni rhaglen waith i bennu llinell sylfaen a gwella mesurau diogelu, gwella prosesau llywodraethu, a gwreiddio seibergadernid ar draws y sefydliad. Cafwyd trafodaeth ar gyflawni Cyber Essentials Plus; cyflwyno rheolaethau seiberddiogelwch, addysg seiber ar draws y sefydliad, cynlluniau ymateb i ddigwyddiadau seiber, a defnyddio ymarferion bwrdd gwaith.

Roedd y Bwrdd yn falch bod partner seiberddiogelwch wedi cael ei gaffael, a phwysleisiodd yr angen i wneud gwaith ar gadernid y busnes ac i ddeall rolau a chyfrifoldebau. Cytunwyd y dylai'r Bwrdd gael adroddiadau ar gadernid y busnes fel rhan o'r weithrediaeth, a fyddai’n sicrhau'r Bwrdd bod y rheolaethau cywir ac effeithiol ar waith.

Ymunodd Mandy Garrett a Stuart Elliot â'r cyfarfod.

 

10. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y cyflawniadau allweddol dros y mis diwethaf, gan gynnwys cymeradwyaeth Swyddfa'r Rheilffyrdd a'r Ffyrdd ar gyfer llinell Coryton i Gaerffili er mwyn gallu cyflwyno Class 756 ar y llwybr yr wythnos nesaf, mesurau parhaus i reoli'r gyllideb, problem ddiweddar gyda’r cledrau a oedd wedi tarfu ar y gwasanaeth dros y penwythnos, cynnydd gyda phont groestoriad Caerdydd a thrydaneiddio.

Nododd y Bwrdd y gwaith sy'n cael ei wneud i ddarparu toiledau oherwydd nad oes cyfleusterau ar y trenau Cl 398, ac i gynyddu’r ddarpariaeth mewn gorsafoedd. Mae'r problemau'n ymwneud â dechrau cyflwyno Cl 398 wrthi’n cael eu datrys.

Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod.

 

11. Diweddariad gan Is-gwmnïau

Nododd y Bwrdd ddiweddariadau o gyfarfodydd Bwrdd diweddar TfW Rail, TfW Fibre a Pullman Rail.

 

12. Diweddariad ar yr is-bwyllgorau

Rhoddodd cadeiryddion yr is-bwyllgorau'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd am gyfarfodydd diweddar y pwyllgorau Iechyd a Diogelwch, Pobl, Prosiectau Mawr, a Phrofiad Cwsmeriaid a Thwf.

 

13. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod diweddar y Bwrdd Llywio yn canolbwyntio ar drywydd prosiect Crossrail, adroddiad Prif Swyddog Gweithredol TrC, Pullman Rail, CAF, perfformiad rheilffyrdd, Rhwydwaith Gogledd Cymru, y prosiect effeithlonrwydd costau, cynnydd o ran penodi cyfarwyddwr diogelwch, seiberddiogelwch, digwyddiadau mawr, cyllid a statws TrC yn y dyfodol.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau, a daeth y cyfarfod i ben.