Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 17 Hydref 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
17 Hydref 2024
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Vinay Parmar, Rhian Langham, Alison Noon-Jones, James Price, Peter McDonald ac Alan McCarthy.
Hefyd yn bresennol:
Jeremy Morgan, Sam Hadley (TrC) a Peter McDonald (Llywodraeth Cymru).
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Cafwyd ymddiheuriad gan Andrew Morgan.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 19 Medi 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i ddiogelwch a chwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd frîff diweddar gan Ofcom ynghylch deddfwriaeth sy’n diogelu pobl ifanc ar-lein a’i bwerau i archwilio sefydliadau.
Trafododd y Bwrdd bwysigrwydd ystyriaethau diogelwch wrth gynllunio ar gyfer masnachfreinio bysiau a’r angen am ddata da ar sut mae gwasanaethau bysiau yn rhyngweithio â’r rhwydwaith ffyrdd i leihau gwrthdrawiadau a damweiniau. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i ddysgu gan weithredwyr gwasanaethau bysiau eraill.
2. Diogelwch
Ymunodd Josh Hopkins â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn
y pecyn.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Gosod neges ddiogelwch newydd ar badlau’r giatiau tocynnau yng Nghaer i hyrwyddo’r defnydd o’r rhodfa lydan a lleihau nifer damweiniau cwsmeriaid.
- Cefnogi’r gwaith masnachfreinio bysiau parhaus gan gynnwys cwblhau gweithdy ‘Rhwydwaith-T’ yn ddiweddar ar gyfer batris lithiwm-ïon a chydweithio â TfL ar gyfer arferion gweithio yn y dyfodol. Cafodd cyfleoedd eu hystyried hefyd ar gyfer gwaith ar y cyd â fflyd rheilffyrdd TrC i rannu’r hyn a ddysgwyd drwy asesiadau DSEAR.
- Mae damweiniau ac ymosodiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu wedi gostwng, ond mae damweiniau ymysg y gweithlu wedi cynyddu gan gynnwys dau ddigwyddiad i’w hadrodd i RIDDOR. Mae ymchwiliadau i’r digwyddiadau hyn yn parhau.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo gyda’r tîm caffael a’r goruchwylwyr i ddatblygu strategaeth camera corff. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd bod yr ymateb cychwynnol yn araf ac yn isel, sef oddeutu 20%. Mae hyn wedi codi o tua 9% y llynedd gyda goruchwylwyr yn dechrau gweld y manteision. Gofynnodd y Bwrdd am ffigurau gan sefydliadau eraill lle nad yw’n orfodol defnyddio camerâu corff [Gweithredu Josh Hopkins]. Cafwyd trafodaeth ynghylch y rhesymau dros beidio â defnyddio’r camerâu a’r camau lliniaru sy'n cael eu cymryd i fynd i’r afael â nhw.
- TYNNWYD
- Digwyddiad tresmasu diweddar a arweiniodd at unigolyn yn colli troed. Trafododd y Bwrdd y camau sy’n cael eu cymryd i rybuddio yn erbyn tresmasu ac i ofalu am griwiau trenau sy’n delio â digwyddiadau. Cytunwyd i adolygu’r cyfathrebiadau mewn gorsafoedd gan gynnwys defnyddio ffonau a larymau i sicrhau bod pob cydweithiwr yn gallu cael gafael ar yr un wybodaeth [Gweithredu Josh Hopkins].
3. Rheoli risg yn strategol
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad rheoli risg strategol. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am waith parhaus i wreiddio adroddiadau Llinellau Craidd y Cymoedd o fewn y strwythur rheoli risg strategol cyffredinol; archwiliadau dwfn i risgiau masnachfreinio bysiau; a datblygu dangosfwrdd Ffeibr TrC.
Mae prif risg wedi’i hychwanegu o amgylch rheoliadau caffael newydd sy’n dod i rym yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws y sefydliad i baratoi ar gyfer y newidiadau.
Gadawodd Josh Hopkins y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Parheir i ganolbwyntio ar wella perfformiad rheilffyrdd gweithredol i wasanaeth cyson ar draws y rhwydwaith. Mae’r perfformiad diweddar wedi sefydlogi ac mae angen y cerbydau newydd er mwyn gwneud cynnydd. Nododd y Bwrdd y methwyd y targed diwygiedig o ran yr amser mae teithwyr yn ei golli (PTL) ar gyfer Cymru a’r Gororau yng nghyfnod rheilffyrdd 7. Hyd yma, mae targedau diwygiedig yn cael eu cyflawni ar gyfer y cyfnod presennol.
- Mae tymor yr hydref wedi bod yn rhesymol hyd yma, ond mae cyfyngiadau turn amlwg a gafodd eu gwaethygu gyda methiant turn Canton ddwywaith. Fodd bynnag, mae’r gwaith paratoi rhagweithiol drwy roi’r gwaith o droi olwynion ar gontract allanol wedi bod yn effeithiol hyd yma.
- Yn gyffredinol, mae’r 12 mis diwethaf wedi gweld cynnydd yn nifer y teithwyr a boddhad cwsmeriaid yn sgil canolbwyntio ar gerbydau, gwasanaeth i gwsmeriaid, criwiau a phrisiau tocynnau. Fodd bynnag, rydym yn dal i geisio sicrhau gwelliannau ar draws yr holl feysydd hyn ac mae gwaith yn mynd rhagddo i gynnal tuedd gadarnhaol.
- Mae cynnydd da’n cael ei wneud o ran cynllunio rhanbarthol a bysiau drwy weithio’n effeithiol gydag awdurdodau lleol gyda phwyslais ar sicrhau bod canlyniadau’n seiliedig ar dystiolaeth.
- Dangosodd cyfarfodydd diweddar gyda’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet aliniad cadarnhaol o ran blaenoriaethau ar draws rheilffyrdd, bysiau a dod â nhw at ei gilydd yn amodol ar y cyllidebau sydd ar gael.
- Mae cyllidebau dros y blynyddoedd nesaf yn debygol o fod yn dynn iawn. Pwysleisiwyd yr angen i leihau’r cymhorthdal gymaint â phosibl. Hysbyswyd y Bwrdd y bydd y cap o £2 ar docynnau bws yn debygol o gynyddu yn Lloegr.
- Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gerbydau a chynlluniau ar gyfer cyflwyno trenau Class 756 ar wasanaethau TAM, rhoi’r gorau i ddefnyddio Class 150, a chyflwyno unedau Class 197 ETCS a Class 398. Mae unedau Class 197 ETCS yn cael eu derbyn i’w defnyddio ar y rhwydwaith nad yw’n rhan o ETCS i ddarparu mwy o hyblygrwydd yn y fflyd. TYNNWYD
- Mae Llinellau Craidd y Cymoedd yn parhau i wneud cynnydd gyda’r Bwrdd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cynllunio diwygiedig ynghylch cyflwyno pedwar trên yr awr ar adran TreherbertAberdâr-Merthyr a’r camau ar gyfer cwblhau’r rhaglen, gan gynnwys gwaith Heol y Frenhines.
5. Cyllid
Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ar gyfer TrC ym mis Medi 2024/25 a Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig yng nghyfnod rheilffyrdd 6.
TYNNWYD
Mae gwaith wedi dechrau ar gynllun busnes 2025/26 a chytunwyd y byddai trafodaeth fanwl ar gyllidebau'r dyfodol yn cael ei chynnal mewn cyfarfod sydd ar y gweill.
TYNNWYD
6. Polisi gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio
Cymeradwyodd y Bwrdd Bolisi diwygiedig TrC ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn ymwneud ag archwilio er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn deddfwriaeth.
7. Byrddau is-gwmnïau
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar byrddau Rheilffyrdd TrC Cyf, Ffeibr TrC a Pullman Ltd. TYNNWYD
8. Sesiwn gyfrinachol
TYNNWYD
Gadawodd Peter Mc Donald y cyfarfod
9. Adrodd corfforaethol
Ymunodd Zoe Smith-Doe â’r cyfarfod
Erbyn diwedd Ch2, mae 26% o gerrig milltir y cynllun busnes ar gyfer 2024/25 wedi cael eu cyflawni. Bydd cerrig milltir sydd â risg cyflawni yn cael eu trafod gyda Llywodraeth Cymru.
Nododd y Bwrdd yr adroddiad dangosyddion perfformiad allweddol ar gyfer Ch2 2025/26. Yr unig feysydd pryder oedd ‘cydweithwyr heb ddigwyddiad diogelwch’ a ‘digwyddiadau diogelwch am bob 100k o deithiau.’ Mae’r targedau ar gyfer y ddau ddangosydd hyn yn cael eu hadolygu. Rhoddwyd gwybod i'r Bwrdd hefyd fod y ffigurau ar gyfer ‘cwynion am bob 100k o deithiau’ yn cael eu dilysu.
Gadawodd Zoe Smith-Doe y cyfarfod
10. Yr wybodaeth ddiweddaraf am y cerbydau rheilffyrdd
Ymunodd Alexia Course a Rob Hale â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd wybod beth yw statws presennol fflyd rheilffyrdd TrC a mynediad i’r gwasanaeth. TYNNWYD
Gadawodd Alexia Course a Rob Hale y cyfarfod.
11. Adroddiad teithio llesol
Ymunodd Geoff Ogden a Matthew Gilbert â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ymateb TrC i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar deithio llesol a nododd y bydd yn ymateb ar y cyd â Llywodraeth Cymru. Croesawodd y Bwrdd y cyfle i adeiladu ar argymhellion yr adroddiad ac i ddangos yn gliriach sut mae’r cyllid a’r prosiectau’n cefnogi canlyniadau polisi ehangach.
Gadawodd James Price y cyfarfod.
12. Diogelu Refeniw
Ymunodd Marie Daly a James Gough â’r cyfarfod
Rhoddwyd ystyriaeth i’r cynigion - darpariaeth diogelu refeniw gweithredol TrC a’r opsiynau sydd ar gael pan fydd y contract allanol presennol yn dod i ben ym mis Ebrill 2025. Roedd y cynnig yn canolbwyntio ar ddod â’r tîm presennol yn gwbl fewnol a’i ddatblygu’n weithrediad amlsgiliau ac aml-ddull. Byddir yn canolbwyntio ar ddiogelu refeniw gyda phrofiad y cwsmer yn ganolog i’r cyfan, ac i wneud defnydd gwell o’r model Addysgu, Esbonio, Annog a Gorfodi i sbarduno newid diwylliannol hirdymor drwy wella ymddygiad cwsmeriaid o ran talu am docynnau, a hynny drwy addysg well a chydweithwyr sydd wedi’u hyfforddi a’u harfogi’n dda.
TYNNWYD
Gadawodd Marie Daly a James Gough y cyfarfod
13. Y diweddaraf am yr Iaith Gymraeg
Ymunodd Lowri Joyce â’r cyfarfod
Cyhoeddwyd y Strategaeth Gymraeg ddiwrnod cyn yr Eisteddfod, ac mae'r adborth wedi bod yn gadarnhaol. Roedd cyfraniad TrC i’r Eisteddfod yn llwyddiannus ac fe’i croesawyd gan y Bwrdd a diolchwyd i bawb a gymerodd ran. Mae’r gwaith cynllunio wedi dechrau ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf yn Wrecsam.
Gadawodd Lowri Joyce y cyfarfod
14. Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod
Yn ystod y mis diwethaf fe welwyd cyfnod dwys o weithgarwch gyda llawer o waith ffisegol ynghyd â heriau o ran Sicrwydd Cyfarpar Llinellau Uwchben a Mynediad i’r Gwasanaeth yn ogystal â gwaith paratoi ar gyfer y gweithgareddau comisiynu hanfodol sydd ar y gweill. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am fynediad Class 756 a Class 198 i’r gwasanaeth, symleiddio rhaglenni, adolygu’r elfennau sydd ar ôl i’w cyflawni yn 2024/25, a signalau. Trafododd y Bwrdd heriau’r rhaglen gyfredol.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
15. Diweddariadau’r is-bwyllgorau
Rhannwyd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar y pwyllgor Archwilio a Risg, pwyllgor rhwydwaith-T, y pwyllgor Prosiectau Mawr, a’r pwyllgor Pobl.
16. Y Bwrdd Llywio
Cafodd y Bwrdd wybodaeth am gyfarfod diweddar Bwrdd Llywio TrC a oedd yn canolbwyntio ar flaenoriaethau’r Prif Weinidog, cynnydd Llinellau Craidd y Cymoedd; masnachfreinio bysiau; cyfarwyddwyr anweithredol newydd TrC, cyllid, risg a dangosyddion perfformiad allweddol.
Diolchodd y Cadeirydd i Sarah Howells ac Alison Noon-Jones am eu hamser ar y Bwrdd ac am gefnogi’r busnes ehangach, gan ddymuno’r gorau iddynt yn y dyfodol.