Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 18 Gorffennaf 2024
Cofnodion Bwrdd TrC
18 Gorffennaf 2024
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Nicola Kemmery a James Price.
Hefyd yn bresennol:
Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Jeremy Morgan, Andrew Morgan, Alan McCarthy a Gareth Pembridge (Arsylwr, eitemau 1 i 11).
Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Ymddiheurodd Alison Noon-Jones.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Mehefin 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i Ddiogelwch
Atgoffwyd y Bwrdd o’r angen i baratoi a chynllunio cyn ymgymryd â thasgau a allai beri risg i iechyd a diogelwch, ac i warchod rhag bod yn hunanfodlon.
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Mae ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol yn awgrymu y gellid ei ddefnyddio’n effeithiol ar gyfer telewerthu ac ymholiadau cwsmeriaid a galluogi pobl i ganolbwyntio ar achosion mwy cymhleth.
2. Diogelwch
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Sefydlu gweithgor diogelwch seiber i wella diogelwch TrC a lliniaru risgiau ar draws y sefydliad.
- Coladu a chyflwyno’r Adroddiad Diogelwch Blynyddol i Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd. Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau'n dangos blwyddyn gadarnhaol ar draws amrywiaeth o weithgareddau.
- Cynnydd mewn damweiniau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu a’r angen i ganolbwyntio ar ymosodiadau a lefelau cynyddol o ymddygiad gwrthgymdeithasol. Roedd dwy ddamwain i’w hadrodd i RIDDOR yn ystod y cyfnod.
- Cymryd rhan mewn ymarfer pen bwrdd amlasiantaeth ar gyfer cadernid busnes er mwyn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod.
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf hefyd am weithgareddau gyda Pullman Rail a seilwaith/trawsnewid.
3. Rheoli risg yn strategol
Cynhaliwyd adolygiad llawn o’r Gofrestr Risg Genedlaethol i gyd-fynd â risgiau strategol TrC ac i neilltuo perchnogion a mesurau lliniaru.
Cynhaliwyd adolygiadau risg manwl o Linellau Craidd y Cymoedd a gwnaed gwelliannau i’r broses lle bo angen.
Nododd y Bwrdd fân newidiadau i risgiau ar lefel y Bwrdd.
Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Roedd perfformiad gweithredol rheilffyrdd yn dda ar y cyfan dros y mis diwethaf gyda lefelau boddhaol o ran yr amser mae teithwyr yn ei golli (PTL) a nifer y gwasanaethau sy’n cael eu canslo, ond mae gwaith yn mynd rhagddo i sicrhau gwasanaeth cyson a chadarn. Mae heriau’n parhau ar Linellau Craidd y Cymoedd o ganlyniad i’r amserlen newydd, ac mae hynny wedi arwain at fwy o filltiroedd a llai o gyfleoedd i adfer y gwasanaeth pan fydd heriau’n codi. Trafododd y Bwrdd yr angen am waith cynnal a chadw rhagweithiol ac adweithiol gwell yn ogystal â chynllun adfer gwasanaeth clir. Rheolir y risgiau sy’n gysylltiedig â chynnal y lefelau da presennol o ran yr amser mae teithwyr yn ei golli (PTL) ac maent yn cynnwys cadernid Class 150, cyflwyno unedau ETCS 197 a rheoli cyfnod yr Hydref heb durn yng Ngogledd Cymru.
- Mae’r gwaith o ddarparu’r rhwydwaith-T yn parhau, a gwelwyd cynnydd cryf o ran cynyddu tocynnau a chwsmeriaid dros y ddau fis diwethaf. TYNNWYD
- Penodwyd Pennaeth Trafnidiaeth Ranbarthol i arwain y gwaith o gynllunio trafnidiaeth ranbarthol a datblygu sylfaen dystiolaeth sylfaenol.
- TYNNWYD
- Mae gwaith yn parhau gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol ar gynlluniau i fasnachfreinio bysiau ac ar y broses o bontio i fasnachfraint. Dros y mis diwethaf, mae gwaith wedi cael ei wneud ar opsiynau polisi wedi’u costio i ddod â syniadau lefel uchel ynghylch bysiau i ben ac i symud ymlaen at gam cynllunio manylach. Fodd bynnag, mae’r gwaith presennol yn ceisio cyfyngu ar gyfres o opsiynau cyfun ar gyfer masnachfreinio sydd wedi’u cyfyngu gan y gyllideb. Mae opsiynau’n cael eu datblygu rhag ofn y bydd rhagor o gyllideb ar gael.
- Mae Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd ar agor ac yn gweithio, a chafwyd adborth cadarnhaol gan ddefnyddwyr hyd yma. Diolchodd y Bwrdd i bawb a fu’n ymwneud â’r gwaith o ddod â’r prosiect i ben ac am gyfnod agor llwyddiannus.
- Mae risgiau’n parhau o ran rhoi newid technolegol sylweddol ar waith ar y system Metro. Mae’r Grŵp Integreiddio Rheilffyrdd yn dod â materion i’r amlwg ac yn gweithio drwyddynt.
- Cynhaliwyd cyfarfod gyda Phrif Swyddog Gweithredol CAF yn Llundain ddiwedd mis Mehefin i gyflymu’r gwaith o ddarparu trenau newydd a gweithio drwy faterion masnachol cysylltiedig. Roedd y cyfarfod yn gadarnhaol a chytunwyd ar broses.
- Ymdriniwyd yn dda â’r digwyddiadau diweddar yn Stadiwm y Mileniwm a chafwyd adborth cadarnhaol gan gwsmeriaid.
- TYNNWYD
5. Cyllid
Cafodd y Bwrdd y prif negeseuon o Gyfrifon Rheoli mis Mehefin. TYNNWYD
Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.
TYNNWYD
6. Cyfarfodydd is-fyrddau
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar byrddau Ffeibr TrC a Rheilffyrdd TrC. Cymeradwyodd y Bwrdd Rheilffyrdd adroddiad blynyddol Rheilffyrdd TrC Cyf a chynhaliwyd archwiliadau dwfn i faterion masnachol a diogelwch.
TYNNWYD
7. Is-bwyllgorau
Roedd y Pwyllgor Archwilio a Risg wedi cwrdd y diwrnod ar ôl cyfarfod diwethaf y Bwrdd. Roedd y cyfarfod yn cynnwys y sesiwn ffurfiol gyntaf ar TG.
Roedd y Pwyllgor Prosiectau Mawr diweddar wedi adolygu amrywiaeth o brosiectau seilwaith parhaus.
Gadawodd Peter McDonald y cyfarfod.
8. Bwrdd Llywio
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am yr eitemau a drafodwyd yng nghyfarfod blaenorol y Bwrdd Llywio.
9. . Llinellau Craidd y Cymoedd
Ymunodd Dan Tipper â’r cyfarfod
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sylweddol sydd wedi cael ei wneud i ddod â’r gwaith adeiladu i ben a pharatoi ar gyfer gweithgareddau comisiynu mawr yn y dyfodol. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am y paratoadau ar gyfer y digwyddiad trydaneiddio nesaf a’r gwaith rheoli rhanddeiliaid cysylltiedig; y cynnydd da a wnaed gyda depo Ffynnon Taf; y profion EMC llwyddiannus ar gerbydau Class 756, a’r hyfforddiant gyrwyr cysylltiedig sy’n parhau i fod yn unol â'r targed; a chomisiynu Class 398.
TYNNWYD
Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith parhaus i dynhau’r broses rheoli newid, gan gynnwys defnyddio mwy o gontractau cost targed pris sefydlog.
Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.
10. Gwasanaethau Arloesi TrC
Ymunodd Geoff Ogden â’r cyfarfod.
Adolygodd y Bwrdd gynllun busnes Gwasanaethau Arloesi TrC Cyf a’i gymeradwyo, a chytunodd i Brif Swyddog Gweithredol TrC anfon llythyr cylch gwaith ar gyfer 2024/25.
Gadawodd Geoff Ogden y cyfarfod.
11. Corporate Reporting
Michael Pearce joined the meeting.
61% of quarter one business plan milestones were delivered, which was up from 55% over the same quarter last year. Two milestones are at risk of delivery around Pontypridd Station and first-class revenue. It was noted that the first-class revenue milestone and target is under review.
A quarter one corporate key performance indicator report has been produced but is not yet published. The Board discussed the need to ensure clear supporting narrative [Action Lewis Brencher].
Michael Pearce left the meeting.
12. Talent succession
Marie Daly joined the meeting.
The Board were updated on measures to develop TfW’s approach to talent management and succession planning. The Board noted the update which covered the current landscape; proposed talent management and succession planning principles; the benefits of developing a talent pipeline; a succession management plan and talent distribution and identification.
13. Confidential session
TYNNWYD
There being no further business, the Chair thanked all attendees for their contributions and closed the meeting.