Ewch i'r tabl cynnwys

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Medi 2024

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

19 Medi 2024

09:00 - 16:00

Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams

 

Yn Bresennol:

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Sarah Howells, Vinay Parmar, Rhian Langham, Alison Noon-Jones a James Price.

 

Hefyd yn bresennol:

Jeremy Morgan ac Alan McCarthy.

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod ynghyd â Rhian Langham a Vinay Parmar fel aelodau newydd y Bwrdd.

 

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Ymddiheurodd Peter MacDonald ac Andrew Morgan.

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 18 Gorffennaf 2024 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.

 

1e. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd oblygiadau diogelwch sefydlogi targed lle mae unigolyn yn canolbwyntio cymaint ar wrthrych mae’n ei weld, boed yn darged neu’n berygl, nes ei fod yn cynyddu ei risg o daro yn erbyn y gwrthrych yn anfwriadol.

 

1f. Sylw i Gwsmeriaid

Cafwyd trafodaeth am gyfyngiadau deallusrwydd artiffisial a digideiddio a’r angen i ddal gafael ar ymyriadau dynol ar gyfer materion fel cymorth i deithwyr.

 

2. Diogelwch

Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Cynhaliwyd cyfarfod cyswllt Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd (ORR) ac adolygiad diwedd blwyddyn yn ddiweddar. Mae’r adolygiadau’n dangos gwelliant o un flwyddyn i’r llall a groesewir yng nghyd-destun lefel bresennol y gwaith seilwaith.
  • Roedd cyfarfod diweddar y Grŵp Gweithredol Diogelwch Rheilffyrdd wedi cynnal archwiliad dwfn i ystadegau lle mae potensial am effaith yn y tymor hwy. 
  • Dysgir gwersi o ymosodiad seiber diweddar Transport for London (TfL) gan gynnwys gweithio gyda thimau TG TfL a Trc i roi’r gwersi a ddysgwyd ar waith. Nododd y Bwrdd y gwaith sydd eisoes ar y gweill o dan brosiect SIM. Tynnwyd sylw’r Bwrdd hefyd at y ffaith bod yr ymosodiad ar TfL nid yn unig wedi cael effaith ar unwaith ond hefyd wedi cael effaith sylweddol ar ôl hynny. Hysbyswyd y Bwrdd bod newid mewn staff diogelwch TG yn gyfle i adolygu galluoedd a chymwyseddau TrC. Anogodd y Bwrdd y defnydd o brofion hacio dyddiol [Gweithredu Heather Clash]. Mae ymarfer cadernid TG bwrdd gwaith yn cael ei ystyried. Cytunwyd y byddai’r Bwrdd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf tua diwedd y flwyddyn [Gweithredu Heather Clash]

Ymunodd Alan McCarthy â’r cyfarfod.

  • Mae nifer y digwyddiadau tresmasu sy’n gysylltiedig â hunanladdiad yn cynyddu. Trafododd y Bwrdd yr angen i nodi arferion da ledled y byd a chael eglurder ynghylch cyfrifoldebau TrC. Rhoddwyd gwybod i’r Bwrdd am y gwaith a wnaed o ran hyfforddiant, addysg, rôl yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig a’r contract gyda’r Samariaid.

 

2a. Cylch Gorchwyl wedi’i ddiweddaru ar gyfer y Pwyllgor Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd

TYNNWYD

 

2b. Cyfarfod Iechyd, Diogelwch a Chynaliadwyedd 2 Medi 2024

Roedd yr aelodau wedi diolch i’r cadeirydd a oedd yn gadael am ei hamser yn gwasanaethu’r is-bwyllgor. Ystyriodd yr is-bwyllgor fetrigau diogelwch ar draws gweithgareddau TrC a chynhaliwyd archwiliad dwfn i Pullman Rail.

 

3. Rheoli risg yn strategol

Mae nifer y risgiau’n parhau i ostwng. Mae gwaith yn parhau gyda’r tîm Twyll Corfforaethol i ganfod a mynegi risgiau twyll, llwgrwobrwyo a llygredd.

Nodwyd mân newidiadau i’r gofrestr risg.

Gadawodd Leyton Powell y cyfarfod.

 

4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Roedd perfformiad gweithredol rheilffyrdd ar gyfer y cyfnod blaenorol wedi dal gafael ar ei safle uwch gyda gwell ffigurau o ran yr amser mae teithwyr yn ei golli (PTL), gwelliant graddol yn nifer yr unedau newydd a gafodd eu derbyn at ddibenion gweithredu, a gwelliant o ran dibynadwyedd ac argaeledd MKIV.
  • Croesawodd y Bwrdd y newyddion bod canlyniad refeniw Cyfnod 05 y Rheilffyrdd yr uchaf erioed i gael ei gyflawni ar rwydwaith Cymru a’r Gororau. 
  • Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu’r rhwydwaith-T. Mae’r Prif Weinidog newydd yn gefnogol ac roedd wedi ailadrodd ei bwysigrwydd yn ddiweddar. Mae’r rhwydwaith-T yn cael ei gynnwys mwy yn isbwyllgorau’r Bwrdd.
  • TYNNWYD. Trafododd y Bwrdd y risgiau prosiect presennol a’r mesurau lliniaru arfaethedig, gan gynnwys cost a mynediad i’r gwasanaeth. Croesawodd y Bwrdd y ffaith bod y gwaith adeiladu’n parhau’n dda.
  • Mae gwaith paratoi’r rheilffyrdd at yr hydref yn mynd rhagddo gan gynnwys troi rhagor o olwynion a throsi turn Treganna i alluogi troi olwynion Class 197. Mae diffyg turn yng Ngogledd Cymru'n cael ei deimlo.
  • O ran bysiau, mae gwaith agos gyda gweithredwyr ac awdurdodau lleol yn parhau ar gynlluniau i fasnachfreinio yn y dyfodol ac ar y broses o bontio i fasnachfraint. Ystyriodd y Bwrdd dri mater yn ymwneud â modelu ariannol a masnachfreinio bysiau, TYNNWYD mae premiwm Bysiau Dim Allyriadau yn dod i’r diwydiant yn y tymor canolig i’r tymor hir TYNNWYD ac mae cost chwyddiant yn y system.
  • TYNNWYD

Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.

 

5. Adroddiad archwilio

Cafodd y Bwrdd wybod am adroddiad Archwilio Cymru a gyhoeddwyd heddiw ynghylch trefniadau Teithio Llesol Llywodraeth Cymru. Roedd yr adroddiad yn cynnwys canfyddiadau ac argymhellion sy’n berthnasol i TrC. Cyflwynwyd y Bwrdd i’r broses a’r camau nesaf posibl.

 

6. Cyllid

Nodwyd y cyfrifon rheoli ar gyfer mis Awst 2024. Cynhaliodd y Bwrdd adolygiad manwl o’r rhagolygon ariannol ar gyfer gweddill 2024/25 a’r gyllideb ddrafft ar gyfer 2025/26.

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd gostau gwasanaethau canolog a gofynnodd am fwy o wybodaeth yn y cyfarfod nesaf [Gweithredu Heather Clash].

 

7. Dyfodol Rheoli Seilwaith Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Phil Rawlings, Becky Owen a Leena Patel â'r cyfarfod.

TYNNWYD

Gadawodd Phil Rawlings, Becky Owen a Leena Patel y cyfarfoр.

 

9. Llinellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper â'r cyfarfod.

Cwblhawyd llawer iawn o waith adeiladu dros y cyfnod diwethaf yn ogystal â chanolbwyntio ar yr opsiynau ar gyfer cau'r rhaglen ac ail-alinio'r gadwyn gyflenwi.

Mae Depo Ffynnon Taf yn weithredol a bydd y cledrau a'r llinellau uwchben yn cael eu trosglwyddo i Rheilffyrdd TrC ym mis Hydref.

Mae cerbydau Class 756 wedi’u rhaglennu i ymuno â’r gwasanaeth ym mis Tachwedd. Mae mynediad cerbydau Class 398 i’r gwasanaeth yn parhau i fod ar y rhaglen. 

TYNNWYD

Trafododd y Bwrdd gam nesaf y rhaglen a chafodd wybod bod mynediad i’r gwasanaeth a chymeradwyaeth Swyddfa’r Rheilffyrdd a’r Ffyrdd erbyn diwedd mis Hydref yn allweddol. Wrth edrych tua 2025, wrth i’r rhaglen ddod i ben, bydd angen rheoli’r gwaith o ryddhau staff a dadsefydlogi’r gadwyn gyflenwi yn ofalus.

TYNNWYD

Gadawodd Dan Tipper y cyfarfod.

 

Cyfarfodydd is-fyrddau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfodydd diweddar byrddau Ffeibr TrC a Rheilffyrdd TrC. Nododd y Bwrdd fod benthyciad Llywodraeth Cymru ar gyfer Ffeibr TrC eto i’w gwblhau. Mae Guy Reiffer wedi ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Anweithredol a bydd yn dechrau yn ei swydd fel Rheolwr-gyfarwyddwr Dros Dro tan fis Chwefror 2025.

 

7. Is-bwyllgorau

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am gyfarfod diweddar yr is-bwyllgor Profiad Cwsmeriaid a Chyfathrebu.

 

8. Sesiwn gyfrinachol

Gan nad oedd unrhyw fater pellach, diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn bresennol am eu cyfraniadau a daeth y cyfarfod i ben.