Ewch i'r tabl cynnwys

Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 19 Mehefin 2025

Submitted by Content Publisher on

Cofnodion Bwrdd TrC

19 Mehefin 2025

09:30 - 16:00

 

Yn bresennol

Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Vinay Parmar, Louise Cheesman, Rhian Langham, a James Price.

Hefyd yn bresennol: Ian Lucas; Gareth Evans (Llywodraeth Cymru); a Jeremy Morgan.

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan y Cadeirydd.

 

Rhan A - Cyfarfod y Bwrdd Llawn

1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb

Andrew Morgan (CLlLC); ac Alan McCarthy (Unite).

 

1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm

Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datganodd fod y cyfarfod yn agored. Llongyfarchodd y Bwrdd Vernon Everitt ar fod yr ymgeisydd a oedd yn cael ei ffafrio ar gyfer rôl Cadeirydd TrC.

 

1c. Datgan Buddiant

Dim wedi’i ddatgan.

 

1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol

Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 15 Mai 2025 yn gofnod gwir a chywir.

Nodwyd y log camau gweithredu.

 

2a. Sylw i Ddiogelwch

Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud â thymheredd uchel ac effeithiau posibl ar darfu ar y rheilffyrdd.

Gofynnodd y Bwrdd am ragor o wybodaeth am y mesurau lliniaru sydd ar waith i ddelio â'r risgiau [Cam Gweithredu Seamus Scallon]. Hefyd, trafododd y Bwrdd yr angen i baratoi Datganiadau Bwrdd ynghylch sefyllfaoedd lle mae TrC yn mynd y tu hwnt i safonau'r diwydiant [Cam Gweithredu Seamus Scallon].

 

2b. Sylw i Gwsmeriaid

Tynnwyd sylw'r Bwrdd at grŵp a welwyd ddoe yn cerdded o amgylch Caerdydd Canolog yn tynnu lluniau. Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn cymryd camau gweithredu. Ystyriodd y Bwrdd hefyd negeseuon cwsmeriaid ynghylch oedi a chanslo trenau a gofynnodd am adolygiad [Cam Gweithredu Marie Daly].

 

3. Perfformiad diogelwch

Ymunodd Seamus Scallon a Josh Hopkins â’r cyfarfod.

Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad perfformiad diogelwch. Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:

  • Yr ymchwiliad sy'n parhau i'r digwyddiad ar groesfan sy'n cael ei gweithredu gan ddefnyddwyr yn Fferm Norden ar 22 Mai TYNNWYD. Trafododd y Bwrdd groesfannau sy'n cael eu gweithredu gan ddefnyddwyr.
  • Y ffocws presennol ar anafiadau nad ydynt yn ymwneud a'r gweithlu a deall meddylfryd y cwsmer o ran risgiau llithro, baglu a syrthio. Cytunodd y Bwrdd i adolygu yng nghyd-destun gwyddor ymddygiad barhaus ac i'w ystyried ymhellach yn y Pwyllgor Profiad a Thwf Cwsmeriaid [Cam Gweithredu Seamus Scallon, Lewis Brencher a James Gough].
  • Mae SPaDs yn cyd-fynd a rhagfynegiadau gyda gostyngiad yn y cyfartaledd blynyddol sy'n symud yng nghyfnod dau'r rheilffordd. Holodd y Bwrdd a oes cysylltiadau ag effeithiau gweithio shifftiau [Cam Gweithredu Seamus Scallon].
  • Mae'r Cynllun Strategol Teithio'n Saffach wedi cael ei ddatblygu i gyfuno sawl elfen o ddarpariaeth gyda'r pwslais ar wella'r gwaith o reoli trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol tuag at gwsmeriaid a chydweithwr.
  • TYNNWYD.

 

4. Adroddiad Risgiau Strategol

Nododd y Bwrdd fod trafodaethau wedi cael eu cynnal gyda holl aelodau'r Tim Arwain Gweithredol i fireinio'r disgrifiadau risg Haen 1 ymhellach a chytuno ar sgoriau risg a mesurau lliniaru.

Nododd y Bwrdd yr adroddiad.

Gadawodd Seamus Scallon a Josh Hopkins y cyfarfod.

 

5. Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol

Cafodd y Bwrdd drosolwg o Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:

  • Cytunodd aelodau'r Bwrdd i helpu gyda'r broses recriwtio ar gyfer Cyfarwyddwr Diogelwch newydd [Cam Gweithredu JP].
  • Cynhaliwyd yr Uwchgynhadledd Trafnidiaeth yn Wrecsam fis diwethaf, lie lansiwyd Rhwydwaith Gogledd Cymru. Nododd y Bwrdd y newid ym mhwyslais Rhwydwaith Gogledd Cymru o gynllunio i gyflawni.
  • Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am nifer o drafodaethau diweddar ar Ddiwygio'r Rheilffyrdd.
  • Mae ymchwiliadau i ddigwyddiad Talerddig yn parhau gydag ymdrechion yn parhau i ddeall achos y digwyddiad ac i ddysgu gwersi.
  • Mae gwaith yn parhau gyda Llywodraeth Cymru i gefnogi cyllid seilwaith rheilffyrdd gan ganolbwyntio ar Rwydwaith Gogledd Cymru. Cytunodd y Bwrdd fod angen parhau a'r ymdrechion i ddenu buddsoddiad ac i gefnogi hyn, cynyddu'r gwaith o hyrwyddo cyflawniadau TrC.
  • Trafododd y Bwrdd gynllunio ar gyfer olyniaeth a rheoli talent gyda'r angen am drafodaeth fanylach yn y dyfodol agos.
  • Mae perfformiad rheilffyrdd gweithredol yn parhau i fod yn mynd yn dda ond mae digwyddiadau seilwaith wedi effeithio arno, yn enwedig ar ran Cymru a'r Gororau o'r rhwydwaith. Mae gwaith yn parhau i ddod o hyd i ateb. Trafododd y Bwrdd yr amser i adfer a chytunodd y dylid ystyried hyn yn y Bwrdd Rheilffyrdd.
  • Trafodwyd diffyg mewn cyllid ar gyfer 2025/26 a thrafodaethau parhaus i gau'r bwlch.
  • Ar ol lansio Rhwydwaith Gogledd Cymru yn ffurfiol ym mis Mai, mae'r ddarpariaeth yn canolbwyntio ar amserlen ddiwygiedig, cyflwyno cynllun Talu wrth Fynd a chynyddu gwasanaethau rhwng Wrecsam a Chaer. Croesawodd y Bwrdd gael cynllun cyflawni, atebolrwydd a strwythurau dir.
  • Trafododd y Bwrdd faterion yn ymwneud a cherbydau rheilffyrdd, gan ganolbwyntio ar ganlyniadau posibl cadw unedau Dosbarth 153 am gyfnod hwy na'r disgwyl, ac ymdrechion parhaus i ddod o hyd i ateb i sicrhau bod gwasanaethau ychwanegol yn cael eu darparu. Trafododd y Bwrdd gyllid cerbydau rheilffyrdd a'r angen am adolygiad TYNNWYD.
  • TYNNWYD. Atgoffwyd y Bwrdd, wrth nesau at ddiwedd rhaglen Llinellau Craidd y Cymoedd, ei bod yn dal yn anoddach bod yn fanwl gywir ynghylch yr union ffigurau alldro.
  • TYNNWYD.
  • TYNNWYD 398 i'r gwasanaeth a thrafodaethau parhaus ynghylch data.

 

6. Cyllid

Nododd y Bwrdd y cyfrifon rheoli ariannol ar gyfer mis Mai 2024 a chyfrifon rheoli Rheilffyrdd TrC Cyf ar gyfer cyfnod dau y rheilffyrdd.

TYNNWYD

Nododd y Bwrdd gynnwys yr Adroddiad Blynyddol a'r Datganiadau Ariannol ar gyfer 2024/25 a derbyniodd argymhelliad y Pwyllgor Archwilio a Risg i gymeradwyo'r adroddiad i'w gyhoeddi.

Cymeradwyodd y Bwrdd gynnwys Llythyr Sylwadau i sylw archwilwyr allanol TrC bod y sylwadau y mae'n eu gwneud yn y llythyr yn cyd-fynd a'r diffiniadau a nadir yn yr Atodiad i'r llythyr.

Nododd y Bwrdd lythyr gan Lywodraeth Cymru yn cadarnhau y bydd yn darparu cyllid i Trafnidiaeth Cymru i gyflawni ei ymrwymiadau ar gyfer 2025-26, ar yr amod bod yr ymrwymiadau hynny wedi cael eu gwneud yn unol a'r Cytundeb Rheoli, llythyrau cylch gwaith tymor y llywodraeth a'r costau ar gyfer 2025-26 a nadir yng Nghynllun Busnes TrC.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau diweddar ym maes seiberddiogelwch dros y 12 mis diwethaf, gan gynnwys profion hacio a strategaethau adfer. Bydd dull gweithredu strategol TrC yn cael ei rannu a'r bwrdd ym mis Gorffennaf.

 

Rhan B - Sesiwn diweddariad gweithredol

7. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd

Ymunodd Dan Tipper o'r cyfarfod.

Cafodd y Bwrdd yr wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiannau allweddol yn ystod y mis diwethaf, gan gynnwys y canlynol:

  • Llwyddodd cyflenwad pŵer i is-orsaf Parc Ninian gan Network Rail i gyflawni'r cyntaf o bedwar digwyddiad trydaneiddio sy'n dibynnu ar ryngwynebau Network Rail.
  • Llwyddwyd i drosglwyddo rhwystr sylweddol ar reilffordd y Bae yn ôl ar ôl cwblhau'r holl waith sifil, symud cledrau a signalau oedd eu hangen i drosglwyddo gwasanaethau teithwyr i Blatfform 2, sydd newydd gael ei ailadeiladu, ym Mae Caerdydd.
  • Mae'r gwaith o gyflwyno unedau Dosbarth 756 ar reilffyrdd Coryton a Chaerffili yn dal ar y gweill ar gyfer canol mis Gorffennaf, gyda'r treialon wedi'u trefnu ddiwedd mis Mehefin i efelychu patrwm y gwasanaeth.
  • Mae adroddiadau diweddar am dwyll ar y rhaglen HS2 wedi cael eu nodi.

 

8. Diweddariad gan Is-gwmnïau

Nododd y Bwrdd ddiweddariadau o gyfarfodydd Bwrdd diweddar Ffeibr TrC Cyf, Rheilffyrdd TrC a Pullman Rail.

 

9. Is-bwyllgorau

Nododd y Bwrdd femorandwm gan Gadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn tynnu sylw'r Bwrdd at nifer o faterion yn yr Adroddiad Blynyddol drafft yr oedd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn canolbwyntio arnynt, a oedd yn gyson â chyfrifoldebau'r pwyllgor. Nododd y Bwrdd ddiweddariadau hefyd ar weithredu'r Polisi Archwilio a Sicrwydd; a pharhad busnes, cadernid a seiberddiogelwch.

 

10. Y Bwrdd Llywio

Roedd cyfarfod blaenorol y Bwrdd Llywio yn canolbwyntio ar Rwydwaith Gogledd Cymru, yr Uwchgynhadledd Drafnidiaeth ddiweddar, adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol, llythyr cysur, adroddiad risg, Project UNO, a dangosyddion perfformiad allweddol corfforaethol.

 

11. Strategaeth Gwrth-dwyll

Cymeradwyodd y Bwrdd y Strategaeth Gwrth-dwyll, Llwgrwobrwyo a Llygredd ar gyfer 2025-2027, gan nodi'r pwyslais ar atal twyll a chydymffurfio â Deddf Troseddau Economaidd a Thryloywder (2023).

 

12. Unrhyw Fater Arall

Llongyfarchwyd Louise Cheeseman a gafodd OBE yn ddiweddar.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb a oedd yn  bresennol am eu cyfraniadau, a daeth y cyfarfod i ben.