Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Chwefror 2025
Cofnodion Bwrdd TrC
20 Chwefror 2025
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, Vernon Everitt, Rhian Langham, a James Price.
Hefyd yn bresennol:
Ian Lucas (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol), Jeremy Morgan, Stephen Morgan, Sam Hadley (TrC), Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Andrew Morgan (CLlLC) ac Alan McCarthy (Unite).
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod, yn enwedig Ian Lucas, a oedd wedi ymuno â’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol.
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Louise Cheeseman a Vinay Parmar.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd bod cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 16 Ionawr 2025 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i ddiogelwch
Ymunodd Seamus Scallon â’r cyfarfod.
Trafododd y Bwrdd adroddiad a ryddhawyd yn ddiweddar i ymchwiliad ac erlyniad Network Rail gan y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd (ORR) mewn cysylltiad â digwyddiad rheilffordd Margam ym mis Gorffennaf 2019. Bydd canfyddiadau’r adroddiad yn cael eu dadansoddi a’u rhannu â’r Bwrdd [Gweithredu - Seamus Scallon].
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Rhannodd y Prif Swyddog Gweithredol ei brofiad diweddar o weithio gyda’r tîm glanhau ar y trenau. Roedd yr ymrwymiad a’r agwedd gadarnhaol tuag at weithio i TrC, a’r cymorth a roddir i gydweithwyr a chwsmeriaid eraill, wedi cael cryn argraff ar y Prif Swyddog Gweithredol.
2. Diweddariad ar Ddiogelwch
Ymunodd Josh Hopkins â’r cyfarfod.
Derbyniodd a nododd y Bwrdd drosolwg o’r adroddiad Iechyd, Diogelwch a Chadernid a oedd wedi’i gynnwys yn y pecyn.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol:
- Gwaith parhaus ar fysiau hydrogen, masnachfreinio bysiau ac archwiliadau iechyd a diogelwch.
- Amrywiol fetrigau gan gynnwys digwyddiadau nad ydynt yn ymwneud â’r gweithlu a digwyddiadau’n ymwneud â’r gweithlu ac ymosodiadau, sydd i gyd yn dangos bod y sefyllfa’n gwella. Mae cyfres o nodiadau atgoffa am ddiogelwch wedi’u cynllunio i annog pobl i fynegi eu pryderon.
- Cyfarfod wythnos nesaf gyda Heddlu Trafnidiaeth Prydain ynghylch diogelwch i fenywod a merched.
- Pullman Rail Ltd. Cynhaliwyd ymweliad safle’n ddiweddar ac argymhellwyd nifer o gamau gweithredu i’w cyflwyno, gan gynnwys cyflwyno cynllun gweithredu.
- Gwersi a ddysgwyd o dymor y gaeaf o ran gwytnwch ac adolygu newidiadau posibl i’r proffil risg ar gyfer y gaeaf nesaf o safbwynt systemau tywydd oer [Gweithredu - Seamus Scallon]. Argymhellodd y Bwrdd sicrwydd annibynnol ynghylch unrhyw broffil risg diwygiedig [Gweithredu - Seamus Scallon].
3. Rheoli risg yn strategol
Nododd y Bwrdd gynnwys yr adroddiad rheoli risg strategol.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithdy diweddar a gynhaliwyd gyda’r Tîm Arwain Gweithredol i adolygu’r broses rheoli risg. Cytunodd y Bwrdd i’r Pwyllgor Archwilio a Risg adolygu’r broses rheoli risg a’r parodrwydd i dderbyn risg [Gweithredu - Alun Bowen].
Gadawodd Seamus Scallon a Josh Hopkins y cyfarfod.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol:
- Croesawodd y Bwrdd benodiad Marie Daly yn Brif Swyddog Gweithrediadau. Nododd y Bwrdd y newidiadau arfaethedig i rôl Jan Chaudhry Van de Velde o 1 Ebrill ymlaen.
- Mae perfformiad gweithredol y rheilffyrdd wedi parhau ar drywydd gwell. Roedd ffigurau Cymru a’r Gororau unwaith eto’n llawn effeithiau stormydd a thywydd garw, ac mae angen gwneud mwy o waith gyda Network Rail i wella perfformiad cyffredinol ar draws y rhan yma o’r rhwydwaith. Nododd a chroesawodd y Bwrdd gadernid parhaus Llinellau Craidd y Cymoedd yn ystod y cyfnod, yn rhannol oherwydd y ffocws cynyddol ar reoli llystyfiant.
- Mae’r cyfathrebu parhaus gydag awdurdodau lleol ynghylch yr agenda bysiau yn parhau i fod yn gadarnhaol. Yn fewnol, mae gwaith yn parhau ar gynyddu masnachadwyedd, strategaeth ddiogelwch, perchnogaeth a rheolaeth fflyd a chynlluniau ar gyfer ymgysylltu â chwmnïau bysiau sy'n eiddo i gynghorau.
- Mae’n ymddangos bod y rheolaethau ariannol llymach a roddwyd ar waith ar Linellau Craidd y Cymoedd wedi bod yn ymyriad cadarnhaol, ac mae mwy o hyder y bydd y flwyddyn ariannol yn dod i ben yn unol â disgwyliadau. Nododd y Bwrdd y cafeat, wrth i’r rhaglen nesau tua’r diwedd, ei bod yn dod yn fwy anodd bod yn fanwl iawn am yr union ffigurau alldro, a hynny oherwydd llai o gyfleoedd peirianneg gwerth.
- Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu’r Rhwydwaith T. Bydd mwy o ffocws ar y rhaglen dros y misoedd nesaf drwy gyfres o ymyriadau rhagweithiol.
- Mae trafodaethau parhaus gyda CAF ynghylch gwella allbwn yn darparu canlyniadau cadarnhaol y bydd angen eu cynnal. Mae gwaith yn parhau i gytuno ar broses raddol ddiogel i gyflwyno unedau CAF i reilffordd y Cambrian cyn mis Medi 2026.
- Mae trafodaethau'n parhau gyda Llywodraeth Cymru, Network Rail a GBRTT ar sut bydd Great British Railways yn edrych yng Nghymru a sut bydd Llywodraeth Cymru a TrC yn gweithio gyda’r endid newydd. Pwysleisiodd y Bwrdd yr angen i Lywodraeth Cymru gael glasbrint clir ar yr hyn a fydd yn gweithio yng Nghymru.
- Cafodd dau ymddangosiad ym mhwyllgorau craffu’r Senedd a chyfweliad â’r BBC eu croesawu'n fawr.
Gadawodd Alan McCarthy y cyfarfod.
5. Cyllid
Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli TrC ar gyfer mis Ionawr 2025 a Rheilffyrdd TrC Cyfyngedig ar gyfer cyfnodau 10 ac 11 y rheilffyrdd. Nododd y Bwrdd amrywiadau isel yn erbyn y gyllideb; ffigurau refeniw teithwyr rheilffyrdd; cau’r bwlch cyllido cyn diwedd y flwyddyn; TYNNWYD ; y sefyllfa o ran Grantiau Teithio Llesol; derbyn Dosbarth 398 a Dosbarth 197 i’r gwasanaeth; a’r diweddaraf ar ddatblygu cyllideb 2025/26.
Trafododd y Bwrdd gyllid rhanbarthol a rhyngweithio â Chyd-bwyllgorau Corfforedig ynghyd â’r angen am drafodaeth Weithredol ynghylch risg tocynnau bws [Gweithredu - James Price]. Yng nghyd-destun y cynllun ariannol tymor canolig, gofynnodd y Bwrdd am ragor o wybodaeth ac eglurhad ynghylch twf refeniw sy’n cael ei yrru gan gapasiti [Gweithredu - Heather Clash].
6. Diweddariad ar Ffeibr TrC
Ymunodd Dave Happy ac Alexia Course â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am statws y cwmni a gweithgareddau posibl yn y dyfodol. TYNNWYD.
Gofynnodd y Bwrdd am ddiweddariad pellach ar y busnes Ffeibr yng nghyfarfod mis Ebrill.
Gadawodd Rhian Langham, Dave Happy ac Alexia Course y cyfarfod.
7. Prosiect Deacon
Ymunodd Jan Chaudhry Van de Velde â’r cyfarfod.
Trafododd y Bwrdd wasanaethau bysiau yn lle trenau. TYNNWYD.
Gadawodd Jan Chaudhry Van der Velde y cyfarfod.
8. Diweddariad ar y Strategaeth TG
Ymunodd Mandy Garrett â’r cyfarfod.
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am weithredu’r Strategaeth Gwasanaethau Digidol a TG. Nododd y Bwrdd ddiweddariadau ynghylch effeithiau digidol a thechnoleg ar y busnes; y pum amcan arweiniol ar gyfer TG a gwasanaethau digidol; a’r camau nesaf. Cafwyd trafodaeth ynghylch cynyddu gwerth data a’r angen i gynhyrchu crynodeb un dudalen ar ganiatâd data [Gweithredu - Mandy Garrett].
Gadawodd Mandy Garrett y cyfarfod.
9. Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd diweddar ar raglen Llinellau Craidd y Cymoedd, gan nodi’r cynnydd o ran trydaneiddio, ateb dros dro i’r mater yn ymwneud â goleuadau a drafodwyd fis diwethaf, ac ymdrechion i gyflymu cynllun Dosbarth 398.
Cymeradwyodd y Bwrdd argymhelliad i fwrw ymlaen â setliad cyfrif interim arfaethedig gydag AIW. TYNNWYD.
TYNNWYD
10. Is-bwyllgorau’r Bwrdd
Cymeradwyodd y Bwrdd gylch gorchwyl diweddaredig y Pwyllgor Archwilio a Risg, a chafodd ddiweddariad ar gyfarfod diweddar y Pwyllgor Prosiectau Mawr.
11. Is-fyrddau
Roedd Bwrdd Rheilffyrdd blaenorol TrC yn canolbwyntio ar wasanaethau'r Cambrian, ymestyn prydlesi, perfformiad rheilffyrdd, diogelwch, ac elfennau masnachol a marchnata.
12. Y Bwrdd Llywio
Roedd Bwrdd Llywio TrC ym mis Ionawr yn canolbwyntio ar gyllid, llywodraethu, y wybodaeth ddiweddaraf gan CSNWT, Llinellau Craidd y Cymoedd, Pullman Rail, ac adroddiad Prif Swyddog Gweithredol TrC.
13. Sesiwn gyfrinachol
Cafodd y Bwrdd sesiwn gyfrinachol.
Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu presenoldeb a’u cyfraniadau a daeth â’r cyfarfod i ben.