Trafnidiaeth Cymru Cofnodion Cyfarfod y Bwrdd - 20 Mawrth 2025
Cofnodion Bwrdd TrC
20 Mawrth 2025
09:00 - 16:00
Lleoliad - Llys Cadwyn a Teams
Yn Bresennol:
Scott Waddington (Cadeirydd), Alun Bowen, Heather Clash, a James Price, Louise Cheeseman a Vinay Parmar.
Hefyd yn bresennol:
Ian Lucas (Cyfarwyddwr Anweithredol Cysylltiol), Stephen Morgan, Sam Hadley (TrC), Peter McDonald (Llywodraeth Cymru), Andrew Morgan (CLlLC) ac Alan McCarthy (Unite).
1a. Ymddiheuriadau am Absenoldeb
Nododd y Cadeirydd ymddiheuriadau gan Vernon Everitt a Rhian Langham.
1b. Hysbysiad ynghylch Cworwm
Gan fod cworwm yn bresennol, croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod a datgan bod y cyfarfod yn agored.
1c. Datgan Buddiant
Dim.
1d. Cofnodion a Chamau Gweithredu o’r Cyfarfod Blaenorol
Derbyniwyd cofnodion cyfarfod Bwrdd TrC ar 20 Chwefror 2025 yn gofnod gwir a chywir. Nodwyd y Log Camau Gweithredu.
1e. Sylw i ddiogelwch
TYNNWYD
1f. Sylw i Gwsmeriaid
Trafododd y Bwrdd daith ddiweddar lle defnyddiwyd gwasanaeth cais am daith poblogaidd, gan nodi bod y gyrrwr wedi ymateb yn ddi-flewyn-ar-dafod i ddechrau pan ofynnwyd iddo am y gyrchfan. Er bod y gwasanaeth wedi gwella ar ôl i’r daith ddechrau, roedd yr argraff gyntaf wedi achosi teimlad anesmwyth. Trafododd y Bwrdd sut y gall hyn effeithio ar argraffiadau cwsmeriaid a pharodrwydd posibl i ddefnyddio gwasanaeth, gan nodi y gall y pethau bychain roi argraffiadau gwahanol iawn.
2. Perfformiad Diogelwch
Nododd y Bwrdd ymweliad diweddar â Ffordd Fabian i asesu safle’r depo arfaethedig ar gyfer bysiau hydrogen. Nododd y Bwrdd fod bysiau hydrogen yn cael eu defnyddio ym Melffast, gyda dim ond dau ddepo ar gyfer aillenwi â thanwydd. Nodwyd bod TfL yn cynnal treialon gydag 20 bws hydrogen a chafwyd cynnig i drefnu ymweliad ar gyfer TrC i gael cyfle i ddeall mwy am gyflwyno bysiau hydrogen ar lwybrau [Gweithredu - Louise Cheeseman / Seamus Scallon].
Mae cynnydd cyffredinol wedi bod yn y digwyddiadau a’r ymosodiadau, sy’n digwydd fwyaf mewn gorsafoedd ac ar drenau. Nododd y Bwrdd gynnydd yn nifer yr ymosodiadau ar drenau ar ddiwrnodau digwyddiadau. Mae cynnydd hefyd yn nifer y digwyddiadau yn y gweithlu a briodolir i gydweithwyr trenau, a achosir gan gamgymeriadau a phethau’n tynnu sylw. Trafododd y Bwrdd ddau ddigwyddiad yn Pullman Rail, lle’r oedd llaw rhywun wedi cleisio ar ôl digwyddiad yn ymwneud â wagen fforch godi, a dywedwyd bod cyfarfod misol yn cael ei gynnal erbyn hyn gyda’r rheolwr Iechyd a Diogelwch i fonitro’r cynllun adfer a gweithio drwy ddatblygiadau. Trafododd y Bwrdd gyflwyno egwyddorion ‘dim niwed’ newydd, a gan ystyried y cynnydd diweddar yn nifer y digwyddiadau y rhoddir gwybod amdanynt, holodd ynghylch canran y cydweithwyr a oedd yn gwisgo camerâu ar y rhwydwaith. Dywedwyd wrth y Bwrdd fod prinder offer a bod nifer o systemau’n methu, sy’n golygu bod llai na 10% o gydweithwyr yn defnyddio offer. Nodwyd hefyd fod problemau wedi codi o ran cydweithwyr yn cofio rhoi camerâu sy’n cael eu gwisgo ar y corff ymlaen pan fydd digwyddiadau’n codi. Cytunodd y Bwrdd y dylid dadansoddi digwyddiadau yn erbyn y deunydd sydd ar gael [Gweithredu - Seamus Scallon] a dywedwyd wrth y Bwrdd fod asesiad o galedwedd newydd yn cael ei adolygu i wella argaeledd deunydd, gan nodi oni bai fod deunydd yn cael ei rannu â Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP), bod tystiolaeth yn cael ei cholli’n gyflym. Ystyriodd y Bwrdd rôl Deallusrwydd Artiffisial (AI) wrth ddefnyddio technoleg newydd ac anogodd y tîm Diogelwch i ystyried defnyddio’r dechnoleg AI sydd ar gael.
2.1 Diweddariad ar ddigwyddiad Margam TrC
Nododd a thrafododd y Bwrdd bapur diweddariad ar ddigwyddiad Margam, a ddarparwyd mewn ymateb i ganfyddiadau ymchwiliadau’r ORR a ryddhawyd yn ddiweddar.
3. Cofrestr risg
Derbyniodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am risgiau Haen Un a Haen Dau ac fe’i cynghorwyd bod sesiwn i drafod fformat newydd y gofrestr risg wedi'i threfnu yn y Tîm Arwain Gweithredol. Hysbyswyd y Bwrdd fod y Pwyllgor Archwilio a Risg wedi cymeradwyo’r strategaeth risg ac y bydd angen i’r Bwrdd gael sesiwn ar y datganiad parodrwydd i dderbyn risg [Gweithredu - Stephen Morgan / Jeremy Morgan]. Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygu pobl o fewn risg a chafodd wybod bod rhywun a oedd wedi bod yn brentis am ddwy flynedd bellach wedi cael ei wneud yn aelod llawn amser o’r tîm. Roedd y Bwrdd yn falch o longyfarch y tîm ar y llwyddiant hwn.
4. Adroddiad a diweddariad y Prif Swyddog Gweithredol
Cafodd y Bwrdd drosolwg o Adroddiad y Prif Swyddog Gweithredol a thrafodwyd y canlynol:
- Datblygu Metro Gogledd Cymru a chamau cyflym ymlaen o bosibl gyda Network Rail i gyflwyno gwasanaethau yng Ngogledd Cymru.
- Y cerbydau sydd ar gael i wasanaethu Gogledd Cymru a’r angen i weithio drwy’r gyllideb sydd ar gael i gyflawni hyn, gan nodi prinder cerbydau yn y DU a manteision defnyddio trenau Dosbarth 153 ac 158 yng Ngogledd Cymru.
- Cynnal a chadw trenau Dosbarth 153 o Glandŵr er mwyn gallu adleoli trenau Dosbarth 197 yng Ngogledd Cymru gyda fflyd fach o drenau Dosbarth 158 yn rhedeg allan o Crewe.
- Capasiti cerbydau a’r angen i drafod twf ar y rheilffordd yn y dyfodol gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod capasiti’n tyfu gyda’r galw, gan nodi’r angen i ddarparu niferoedd tymor hir ar sail cymhorthdal net [Gweithredu - Heather Clash, James Price, a Sam Hadley].
- TYNNWYD
- Integreiddio cydweithwyr yn niwylliant TrC drwy gydol y gwaith o ddatblygu’r rhaglen masnachfreinio bysiau, a gellid etifeddu’r gwahaniaethau diwylliannol gan weithredwyr bysiau presennol a’r atebolrwydd a fydd ganddynt.
- TYNNWYD
- Cydbwyso’r gwaith o weithredu’r prosesau masnachfreinio bysiau a chyflwyno bysiau hydrogen.
- Nododd y Bwrdd berfformiad rheilffyrdd gweithredol cryf ar draws y rhwydwaith ar gyfer cyfnod 12 y rheilffyrdd, gan gynnwys y rhwydwaith trawsffiniol a Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae amserlenni’n gweithio’n dda, a nodwyd pan fydd seilwaith yn gweithredu yn ôl y bwriad ei bod yn bosibl cyflawni amserlenni gwasanaethau. Nodwyd hefyd bod NR yn gyfrifol am staff ar gyfer blychau signalau yr un fath â TrC yn sicrhau bod gyrwyr ar gael i weithredu llwybrau.
- Mae achosion o ganslo wedi haneru, yn rhannol oherwydd bod Dosbarth 756 yn perfformio’n dda ar Linellau Craidd y Cymoedd.
- Gwell allbwn CAF o ddepo Caer, gan nodi bod gwelliannau wedi cyd-fynd â’r cynllun gwella a weithredwyd.
- Nodwyd bod perfformiad llinell Coryton yn wael ers rhoi’r amserlen newydd ar waith, a bod cynllun ar gyfer amserlen ddiwygiedig i ddatrys problemau.
- TYNNWYD
- Papur Gwyn GBR - trafododd y Bwrdd ffyrdd o weithio rhwng TrC, Llywodraeth Cymru a Network Rail, eithriadau o’r ffyrdd presennol o weithio sy’n cael eu rheoleiddio’n drwm o ran yr elfen cystadleuaeth, a dod â’r cledrau a’r trenau'n nes at ei gilydd gyda’r potensial ar gyfer cynllun ar y cyd â NR.
- Prisiau - trafododd y Bwrdd y potensial i ostwng prisiau tocynnau ar lwybrau penodol yn ystod cyfnodau tawel er mwyn annog mwy o ddefnyddwyr, gan nodi mai un o’r prif resymau dros hyn yw lleihau cymhorthdal drwy ddefnyddio mwy ar y rhwydwaith. Trafodwyd hefyd system deg tebyg i un cwmnïau hedfan wrth lenwi llwybrau i Ogledd Cymru.
5. Cyllid (Cyfrifon Rheoli)
Nododd y Bwrdd gyfrifon rheoli TrC ar gyfer mis Chwefror 2024. Hysbyswyd y Bwrdd fod y sefyllfa gyllido’n cael ei chadarnhau gyda Llywodraeth Cymru, a rhagwelir y bydd y llyfrau’n gytbwys ar gyfer diwedd y flwyddyn. TYNNWYD.
TYNNWYD
5.1 Cyllid Rheilffyrdd TrC
Trafododd y Bwrdd gerbydau ac IFRS16, a dywedwyd fod y diffyg IFRS16, TYNNWYD.
Trafododd y Bwrdd fylchau cyllido ar gyfer 2025-2026, gan nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dwyn gwariant cyfalaf ymlaen i’r flwyddyn hon, sef £30m, i Linellau Craidd y Cymoedd. Mae hyn yn lleihau’r pwysau ar fwlch cyllido’r flwyddyn nesaf TYNNWYD.
5.2 Twf Refeniw a Ysgogir gan Gapasiti
Cafodd y Bwrdd wybod mai ffactor twf TrC ar gyfer 2025-2026 yw 15% yn erbyn cyfartaledd y diwydiant o 5%, gyda’r nifer cyfartalog o deithwyr mewn cerbydau yn 16.8%. Nodwyd bod cyfle i dyfu o ran cael nifer uwch o deithwyr a chapasiti cludo uchel. Trafododd y Bwrdd ddau safbwynt gwahanol ar dwf, un wedi’i sbarduno gan hanes a diwydiant ac un arall sy’n dangos beth mae TrC wedi’i wneud ac eisiau ei gyflawni. Cytunodd y Bwrdd y byddai’n fuddiol cael dadansoddiad ôl-weithredol sy’n plotio naratif y diwydiant yn erbyn yr hyn mae TrC wedi’i wneud er mwyn darparu dadansoddiad o’r bylchau, sydd wedyn yn plotio camau ar gyfer twf yn y dyfodol [Gweithredu - Heather Clash]. Trafododd y Bwrdd effaith twf mewn capasiti ar leihau cymhorthdal Llywodraeth Cymru a newidiadau posibl ym mholisi Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Trafododd y Bwrdd gyfleoedd creadigol, gan gynnwys defnyddio tanwariant ar ddiwedd y flwyddyn i gynnal ymgyrchoedd amgen i sbarduno twf refeniw ymhellach.
6. Sesiwn Gyfrinachol
TYNNWYD
7. Sesiwn Diweddaru Gweithredol
7.1 Diweddariad ar Linellau Craidd y Cymoedd
Derbyniodd y Bwrdd ddiweddariad a thrafodwyd y canlynol:
- Y Trydaneiddio o Gaerffili i Gaerdydd, sy’n dechrau ym mis Ebrill, gan nodi bod materion daearu wedi cael eu datrys.
- Disgwylir ail hanner seilwaith gwefru a chyflenwadau wrth gefn Treganna ar gyfer Llinellau Craidd y Cymoedd ym mis Awst.
- Adolygiad o signalau ac ail-ddilyniannu yn sgil hynny i leihau’r risgiau pan fydd problemau’n codi..
- £0.5m o arbedion ar gostau targed ac effeithlonrwydd corfforaethol.
- Gwelliannau ar faterion darllen goleuadau Dosbarth 756, gan nodi un enghraifft o fethiant ym mis Mawrth ac opsiynau ar gyfer datrysiadau parhaol.
- Cynlluniau EIS ar gyfer Coryton a Chaerffili.
- Profion Dosbarth 398 yn RIDC a chwblhau’r gwaith homologeiddio gan nodi 1,750 milltir o brofion heb ganfod unrhyw nam.
TYNNWYD
8. Diweddariad yr Is-gwmnïau
Rheilffyrdd TrC - roedd y cyfarfod blaenorol yn canolbwyntio ar berfformiad, llinellau sydd ddim yn perfformio cystal a gwaith parhaus i wella gwasanaethau, marchnata, Talu wrth Fynd (PAYG) ac ymestyn ymhellach i’r de ac i’r gogledd, gan nodi gwaith i ymestyn tapio ar y dechrau a’r diwedd cyn belled ag Abertawe. Trafododd y Bwrdd hefyd gynigion i gynyddu ffioedd tocynnau cosb o £20 i hyd at £100, sydd bellach yn cael ei adolygu gan Lywodraeth Cymru.
Ffeibr TrC - roedd prif ffocws y cyfarfod diweddar ar y llinell werthu a ffocws ar ddatblygu partneriaethau craidd.
9. Diweddariad ar Is-bwyllgorau
9.1 Y Pwyllgor Archwilio a Risg
Cafodd y Bwrdd drosolwg o’r trafodaethau yng nghyfarfod diweddar y Pwyllgor Archwilio a Risg, gan nodi diweddariad gan archwilwyr allanol a strategaeth gwrth-dwyll ddiwygiedig a fydd yn dychwelyd i Fwrdd TrC ym mis Mehefin/Gorffennaf.
10. Diweddariad y Panel Cynghori
Cafodd y Bwrdd y wybodaeth ddiweddaraf am y drafodaeth yn y panel Cynghori. Nodwyd bod y drafodaeth yn canolbwyntio ar ymchwiliadau trafnidiaeth, a strategaethau i leihau nifer y bobl sy’n osgoi talu am docynnau, gan gynnwys cwmnïau trydydd parti sy’n rhoi dirwyon rhwydwaith TrC. [Gweithredu - James Price, Lewis Brencher a Sam Hadley i adolygu gwaith y panel].
11. Sesiwn Gyfrinachol 2
TYNNWYD
12. Unrhyw Fater Arall
Hysbyswyd y Bwrdd fod Llywodraeth Cymru wedi dechrau chwilio am Gadeirydd newydd TrC gan y bydd Scott Waddington yn rhoi’r gorau i’w swydd yn nes ymlaen eleni. Mae’n debygol y bydd y Cadeirydd newydd wedi'i benodi erbyn mis Medi 2025.
Gan nad oedd unrhyw fater arall, diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyfraniadau a datgan bod y cyfarfod wedi dod i ben.