Prynwch docynnau trên o Amwythig i Gaergybi gyda ni heddiw. Prynwch ar ein gwefan neu ap i ddod o hyd i’n tocynnau rhataf heb ffioedd archebu.

 

Faint o amser mae’r trên o Amwythig i Gaergybi yn ei gymryd?

Mae’n cymryd tua thair awr a hanner i deithio o Amwythig i Gaergybi yn uniongyrchol, sy’n golygu y gallwch chi gyrraedd y dref arfordirol boblogaidd yn hawdd ar yr un diwrnod. Mae’r daith yn 88 milltir i gyd, a gallwch chi ei mwynhau o gysur eich sedd.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pam teithio o Amwythig i Gaergybi ar y trên?

Mae Caergybi yn borth Cymreig i Iwerddon, gyda’r orsaf fferi yn yr un adeilad â’r orsaf drenau. Ond, os nad ydych chi’n bwriadu mentro dros y dŵr, mae gan Gaergybi ei hun lawer o bethau i’w gwneud i’r teulu cyfan. O amgueddfeydd i anturiaethau awyr agored, mae rhywbeth at ddant pawb.

Mae ein dewisiadau teithio gwych i grwpiau yn eich galluogi i fod â mwy o arian ar gyfer eich antur. Os ydych chi'n mynd gyda’ch teulu, ystyriwch y cerdyn rheilffordd i deuluoedd.

 

  • Oes Wi-Fi am ddim ar y trenau?
    • Manteisiwch i’r eithaf ar eich amser teithio a defnyddiwch ein Wi-Fi i wneud ychydig o waith, neu fynd ar eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

  • Beth yw’r ffyrdd o brynu eich tocyn o Amwythig i Gaergybi?
    • Mae sawl ffordd gyfleus o brynu eich tocyn trên neu’ch cerdyn rheilffordd.

      • Ffôn

      • Ar-lein

      • Ap symudol

      • Swyddfa’r orsaf neu beiriant tocynnau

      • Trên

    • Dyma’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i brynu eich tocyn.

  • Pa gyrchfannau eraill sydd gan TrC?
    • Mae ein trenau’n rhedeg ar bob rhan o rwydwaith rheilffyrdd Cymru yn ogystal â’r Gororau yn Lloegr, Canolbarth Lloegr a Gogledd-orllewin Lloegr. Maen nhw’n pasio drwy beth o gefn gwlad mwyaf godidog y DU. Gallwch chi ymlacio a mwynhau’r golygfeydd neu gysylltu â’n Wi-Fi am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am ein gwasanaethau ar gael yma.

 

Trenau o Amwythig

Amwythig i orsaf Caerdydd Canolog

Amwythig i Fanceinion

Amwythig i Birmingham

 

Trenau i Gaergybi

Caer i Gaergybi

Bangor i Gaergybi

Llundain Euston i Gaergybi