P’un ai ar gyfer busnes neu bleser, mae mynd ar y trên o Henffordd i Gaerdydd yn golygu y byddwch chi’n cyrraedd yn teimlo’n braf ac yn barod i grwydro prifddinas Cymru.
Faint o amser mae’r trên o Henffordd i Gaerdydd yn ei gymryd?
Mae’r trên o Henffordd i orsaf Caerdydd Canolog yn cymryd ychydig dros awr, sy’n golygu ei fod yn ddelfrydol ar gyfer taith undydd. Mae hyblygrwydd ein Tocynnau unrhyw bryd hefyd yn golygu y gallwch chi newid eich meddwl os penderfynwch aros yn hirach.
-
Wi-Fi am ddim
-
Pwyntiau gwefru
-
Uniongyrchol
Pam teithio o Henffordd i Gaerdydd ar y trên?
Mae Caerdydd yn lle cyfoethog a bywiog o safbwynt diwylliannol, gydag amrywiaeth lliwgar yn deillio o fyfyrwyr prifysgol rhyngwladol, y busnesau lewyrchus a'r siopau prysur. Mae orielau celf, amgueddfeydd a theatrau yn arddangos treftadaeth ddiwylliannol ochr yn ochr â syniadau arloesol newydd. Gallwch chi fwynhau pob un ohonyn nhw mewn un lle. Dewch i ddarganfod yr holl bethau sy’n cael eu hargymell yng Nghanol Dinas Caerdydd a gwneud diwrnod llawn o’r daith fer hon.
Pa un ai gwaith ynteu pleser sy’n dod â chi yma, mae mynd ar y trên o Henffordd i Gaerdydd yn ffordd wych o deithio. Cadwch olwg ar ein ap hawdd ei ddefnyddio a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am deithio.
Trenau o Henffordd
Trenau i orsaf Caerdydd Canolog
Abertawe i orsaf Caerdydd Canolog
-
Y pum peth gwych gorau i'w gwneud yn y Rhyl Dewch i ddarganfod The top five brill things to do in Rhyl
-
Y llefydd gorau i fynd yn Llanelli - y tri phrif atyniad Dewch i ddarganfod The best places to go in Llanelli - top three attractions
-
Eglwys Newydd Dewch i ddarganfod Visiting Whitchurch
-