P’un a ydych chi’n teithio o’r Rhyl i Landudno ar gyfer busnes neu’n mwynhau diwrnod allan gyda’r teulu, mae’n hawdd mynd ar y trên. Dim ond 30 munud mae’r daith yn ei gymryd, ac mae’n golygu y byddwch chi’n cyrraedd yn teimlo’n hamddenol ac yn barod i grwydro.

Mae gwasanaethau rheolaidd yn rhedeg drwy gydol y dydd, a gallwch chi fanteisio ar ein bargeinion ar docynnau, gan gynnwys ein dewis Advance, Unrhyw Bryd a Chyfnodau Tawelach er mwyn arbed arian ar eich diwrnod allan.

Heddiw, mae Llandudno yn enwog am ei thraethau godidog. Datblygodd y dref dros y canrifoedd o aneddiadau o Oes y Cerrig i fod yn dref gosmopolitan fywiog.

Mae llawer o atyniadau addas i deuluoedd a digon o bethau i’w gwneud yn Llandudno.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Trên o’r Rhyl i Landudno

Edrychwch ar amseroedd trenau a phrynu eich tocynnau i Landudno drwy fynd ar yr ap y gellir ei lawrlwytho. Hefyd, gallwch chi ddefnyddio’r ap i gael gwybod sut y mae modd arbed arian ar eich tocynnau a chael yr wybodaeth ddiweddaraf amser real am deithiau. Byddwch hefyd yn cael Wi-fi am ddim ar y trên.

Prynwch eich tocynnau ar-lein heddiw, ac ewch i grwydro’r dref glan môr hyfryd hon.