A view of the Llandudno landscape on a sunny day

Teithio ar drên i Landudno

Gyda’i glan y môr hir, y Gogarth a’r pier mawr, Llandudno yw fersiwn Cymru o Dde Ffrainc.

Mae glan y môr Fictoraidd wedi ei gadw mewn cyflwr perffaith, gyda’i westai lliw pastel a phensaernïaeth driw i’r cyfnod, yn ei helpu i sefyll allan fel un o’r llefydd gorau i ymweld ag ef yng ngogledd Cymru. Gallwch fynd ar daith 200 metr uwchben y môr i ben y Gogarth, sy’n dirnod arfordirol anhygoel sy’n cynnig golygfeydd godidog.

Mae’n debyg y byddwch chi’n gweld ambell afr ddigywilydd hefyd. Mae cymaint o bethau i’w gwneud yn Llandudno, mae’n werth treulio penwythnos cyfan yn archwilio.

Rydyn ni’n rhedeg trenau i orsaf drenau Llandudno a gorsaf drenau Cyffordd Llandudno. Os ydych chi’n ymweld â glan y môr, ewch ar y trên i Landudno. Gallwch gyrraedd glan y môr drwy deithio ymlaen o Gyffordd Llandudno. Cynlluniwch eich ymweliad gyda’n Cynlluniwr Teithiau.

 

Teithio i Landudno ar drên

Mae teithio i Landudno ar drên yn hawdd. Mae gwasanaethau’n cyrraedd o bob cwr o Gymru a’r Deyrnas Unedig. Mae rhai o’n llwybrau mwyaf poblogaidd yn cynnwys:

 

Teithio Dosbarth Cyntaf i Landudno

Rydyn ni’n galw yng Nghyffordd Llandudno ar ein Gwasanaeth Premier rhwng Caerdydd a Chaergybi. Mae tocynnau Dosbarth Cyntaf ar gael rhwng Cyffordd Llandudno a rhai lleoliadau. Cliciwch yma i weld a yw’r rhain ar gael ar gyfer eich taith.

Beth am roi gwledd i chi eich hun ar eich taith i Llandudno? Mae ein gwasanaeth bwyd Dosbarth Cyntaf yn cynnwys prydau clasurol sy’n cael eu gweini gan ein staff cyfeillgar a chroesawgar.

Gallwch brynu tocyn Dosbarth Cyntaf ar ein ap a’n gwefan, o swyddfa docynnau eich gorsaf neu o beiriannau tocynnau.