Anghofiwch y straen o yrru rhwng Wolverhampton a Birmingham a mwynhewch daith bleserus ar y trên. P'un a yw hynny'n golygu cymudo di-straen neu ddechrau hamddenol i'ch diwrnod allan yn ail ddinas fwyaf y DU, ymddiriedwch ynom ni.

Gwybodaeth fyw am drenau sy’n gadael ac yn cyrraedd

Pa mor hir yw'r daith ar y trên o Wolverhampton i Birmingham?

Mae'n cymryd tua 33-47 munud. Mae'r gwasanaeth hwn yn cynnig cysylltiad cyfleus ac effeithlon, gan ei gwneud yn ddelfrydol p'un a ydych chi'n gymudwr neu, yn syml, yn edrych i archwilio ail ddinas fwyaf y DU. Os ydych chi am fwynhau cyfforddusrwydd a phrofiad o’r radd flaenaf, mae ein gwasanaeth Dosbarth Cyntaf ar gael ar drenau dethol. P'un a ydych chi'n teithio ar gyfer gwaith neu hamdden, mae'r gwasanaeth hwn yn sicrhau taith esmwyth a phleserus.

 

Pa mor aml mae trenau'n rhedeg o Wolverhampton i Birmingham?

Mae trenau'n rhedeg yn aml trwy gydol y dydd, felly p'un a ydych chi'n mynd i'r gwaith, yn cynllunio diwrnod o siopa neu'n mwynhau taith ddiwylliannol, fe welwch wasanaeth sy'n gweddu i'ch cynlluniau.

 

A oes trenau uniongyrchol o Wolverhampton i Birmingham?

Oes, mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn uniongyrchol a gallwch ddefnyddio ein Cynllunydd Teithiau i ddod o hyd i'r rhain.

 

Pam teithio o Wolverhampton i Birmingham ar y trên?

Mae Birmingham yn ddinas fywiog sy'n llawn pethau i'w gweld a'u gwneud. Cyrhaeddwch heb straen ar y trên ac ewch i archwilio:

  • Siopa yn y Bullring a Grand Central - Gyda dros 200 o siopau i bori drwyddynt, gan gynnwys y siop Selfridges eiconig, dyma'r gyrchfan berffaith i wneud ychydig o therapi siopa. Ar ôl i chi siopa wrth fodd eich calon, beth am adfer eich egni gyda thamaid i’w fwyta yn un o'r nifer o’r bwytai arbennig, sy'n cynnig popeth o sushi i fyrgyrs. Mae'r siopau boutique annibynnol yn y Custard Factory yn cynnig pob math o bethau rhyfedd ac unigryw os ydych chi’n chwilio am brofiad siopa mwy hamddenol.

  • Uchafbwyntiau Diwylliannol - Darganfyddwch arddangosfeydd ymgolli yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Birmingham, archwiliwch Amgueddfa Ddaeareg Lapworth ddiddorol neu ymunwch â thaith gerdded i ddysgu am dreftadaeth ddiwydiannol y ddinas a’r Peaky Blinders go iawn.

  • Canal Quarter - Ewch am dro hamddenol ar hyd rhwydwaith camlesi hanesyddol Birmingham, mwynhewch goffi mewn caffi ar lan y dŵr a gwyliwch gychod cul yn llywio trwy'r ardal heddychlon ond bywiog hon.

  • Gerddi Botaneg Birmingham - Beth am ddianc rhag prysurdeb y ddinas gydag ymweliad â'r mannau gwyrdd hyn sydd wedi’u cynnal a’u cadw’n hyfryd, sy’n gynnig encil tawel dafliad carreg o ganol y dref.

Gweler ein canllaw i ymweld â Birmingham am fwy o awgrymiadau.

 

Awgrymiadau gwych ar gyfer prynu eich tocynnau trên Wolverhampton i Birmingham

Arbedwch arian a theithiwch fel y mynnwch gyda'n hopsiynau tocynnau hyblyg:

  • Tocynnau Advance*: Prynwch yn gynnar i sicrhau ein prisiau isaf.

  • Cardiau Rheilffordd: Bachwch hyd at draean oddi ar eich taith gyda cherdyn rheilffordd.

  • Tocynnau Unrhyw Bryd: Teithiwch bryd bynnag sy'n addas i chi gyda'n dewisiadau hyblyg.

Beth am ddefnyddio ein ap? Mae'n caniatáu ichi weld ein holl fargeinion teithio sy'n gyfeillgar i'r gyllideb mewn un lle hawdd ei gyrraedd.

*Tocynnau Advance yw ein tocynnau sy'n cynnig y gwerth gorau am arian a gellir defnyddio gostyngiadau cerdyn rheilffordd wrth eu prynu. Ni allwn warantu argaeledd tocynnau Advance gan eu bod yn gyfyngedig o ran niferoedd ac maent ond ar werth hyd at 18:00 y diwrnod cyn i chi deithio. Byddwn yn argymell eich bod yn prynu'n gynnar er mwyn osgoi siom.