Y diwrnod y dargyfeiriwyd y taf
Fel rhan o'r rhaglen Gwelliannau Caerdydd Canolog, teithiwn yn ôl trwy amser i archwilio gorffennol diddorol yr orsaf a'r dirwedd o'i chwmpas. Trwy blogiau, fideos a delweddau, byddwn yn dangos sut mae'r lle hwn wedi newid dros gannoedd o flynyddoedd.
Yn yr ail blog yma, rydym am gofio'r beirianneg ryfeddol a sefydlodd yr orsaf gyntaf trwy newid daearyddiaeth a thirwedd Caerdydd am byth.
Dewis y safle
Ar ddechrau'r 1840au, roedd Cwmni Rheilffordd De Cymru eisiau adeiladu rheilffordd o Gaerloyw i Abertawe, gan basio trwy Gaerdydd. Roedd hynny'n golygu y byddai angen prif orsaf ar Gaerdydd - ond nid oedd dod o hyd i'r lle iawn yn hawdd. Nid oedd y safle a ddewiswyd yn ddelfrydol; roedd yn isel, yn dioddef llifogydd yn aml, ac yn agos at lanw yr Afon Taf. Roedd adeiladu gorsaf yno yn teimlo'n amhosib.
Amser da felly am syniad arloesol.
Ym 1849, lluniodd y peiriannydd Isambard Kingdom Brunel - un o beirianwyr enwocaf ei oes - gynllun beiddgar. Yn hytrach na gweithio o amgylch yr afon, cynigiodd ei symud!
Dargyfeiriodd Brunel Afon Taf i'r gorllewin. Creodd hyn stribed sych, sefydlog o dir lle gellid adeiladu'r orsaf. Roedd hyn yn ei gwneud hi'n bosibl adeiladu gorsaf gyda thraciau o'r dwyrain i'r gorllewin - delfrydol ar gyfer rheilffordd. Roedd hefyd yn helpu i amddiffyn yr ardal rhag llifogydd, a oedd wedi bod yn broblem gyson. Yr hyn sydd hyd yn oed yn fwy trawiadol yw sut y gwnaethpwyd y gwaith hwn. Nid oedd yna beiriannau modern na modelau manwl sy'n seiliedig ar wyddoniaeth. Yn hytrach, roedd yn dibynnu ar brofiad, offer sylfaenol, llafur llaw ac offer stêm cynnar.
Er nad oedd y dargyfeiriad heb ei broblemau - roedd arogl hen lwybr segur yr afon yn un ohonynt - pe na bai'r gwaith hwn wedi'i wneud, efallai na fyddai Prif Reilffordd De Cymru, gorsaf reilffordd Caerdydd Canolog a llawer o ganol y ddinas y gwyddom heddiw yn bodoli.¹
Yr orsaf gyntaf yn agor (1850)
Agorodd yr orsaf ar 19 Mehefin 1850. Enwyd yn yr iaith fain - "Cardiff".²
Roedd yn rhan o linell Rheilffordd De Cymru rhwng Cas-gwent ac Abertawe, ac fe'i hadeiladwyd yn agos at Gamlas Morgannwg a'r dociau. Roedd y lleoliad hwn yn allweddol; roedd yn cysylltu'r rheilffordd â chludiant y môr, gan ei gwneud hi'n llawer haws symud nwyddau megis y glo byd-enwog o gymoedd de Cymru i longau yn y dociau. Ffurfiodd hyn rwydwaith trafnidiaeth pwerus a helpodd Caerdydd i dyfu i fod yn un o'r porthladdoedd prysuraf yn y byd.
1 'South Wales Railway', Morning Herald, 31 Awst 1849. Gweler, er enghraifft, Engineer with the stamp of genius ... the man who shaped the nation - Wales Online, Cardiff Central railway station - History Points, ac am wybodaeth fanwl a chefndir gweler, Stephen K. Jones, Brunel in South Wales, Volumes 2 a Volume 3, The History Press, 2006 a 2009.
2 Agorodd Prif Linell De Cymru ar y 18fed gyda threnau yn teithio drwy'r orsaf, ond y 19eg oedd y diwrnod cyntaf o wasanaeth i greu refeniw yn ôl Michael Quick, 'Railway Passenger Stations in Great Britain', Microsoft Word - MASTER WORD FILE for 5.05 u- WORKING FILE, tudalen 119.
Yn wreiddiol, nid oedd cyrraedd Llundain yn syml. Newidiodd hynny ym 1852, pan agorodd pont reilffordd yng Nghas-gwent i ganiatáu teithwyr i gysylltu â rhwydwaith ehangach Great Western Railway o Gaerdydd, gan wneud teithio'n gyflymach ac yn haws ar gyfer pellteroedd hir.³
Yn seiliedig ar y ffynonellau a'r disgrifiadau prin sydd ar gael, nid oedd yr orsaf ym 1850 yn edrych yn debyg i orsaf Caerdydd Canolog a welwn heddiw. Roedd yn syml ac yn ymarferol. Roedd llwyfannau sylfaenol gyda chanopïau, swyddfa docynnau fach, ystafelloedd aros ac ardaloedd ar gyfer trin nwyddau. Roedd ganddo bedwar trac trwy'r safle; sef dau gyda phlatfform, a bae trên i bob un.⁴
Cynlluniwyd yr orsaf ar gyfer ei gwaith - yn hytrach nag i greu argraff - fel y disgrifiodd erthygl yn The Cardiff Times:
"…in the continued existence of that inconvenient, dirty, mis-shapen, windy, cold-producing, and dangerous structure known as the Great Western Railway at Cardiff….Cardiff station is without a rival for the ugliness…"⁵
Serch hynny, roedd lleoliad yr gorsaf yn rhan enfawr yn nhrawsnewidiad Gaerdydd, a'r hyn oedd i ddod.
Trobwynt i Gaerdydd
Roedd agor yr orsaf yn foment bwysig yn hanes Caerdydd. Helpodd i droi'r ddinas yn ganolfan reilffordd bwysig, gan gefnogi diwydiant a masnach a gosod y lleoliad hwn fel prif ganolfan drafnidiaeth Caerdydd, yn union fel y mae heddiw.
Nid oedd Brunel wedi adeiladu gorsaf yn unig. Roedd wedi symud afon, creu tir newydd a helpu dinas i dyfu! Heddiw, mae'r afon yn parhau i ddilyn y trywydd a greodd Brunel.
Parhaodd Caerdydd i dyfu, ac yn fuan daeth i'r amlwg bod angen gorsaf fwy, un allai gysylltu â mwy o linellau a lleoedd.
Yn ein blog nesaf, byddwn yn archwilio sut y ehangodd ac esblygodd yr orsaf dros ddiwedd y 19eg ganrif ac i ddechrau'r 20fed ganrif ar ei thaith i'r Caerdydd Canolog yr ydym yn ei hadnabod heddiw...
Ymunwch â ni wrth i ni barhau â'r daith...
3 Mae pileri gwreiddiol Brunel yn parhau i gynnal y bont, er disodlwyd strwythurau'r rheilffordd yn 1962. Chepstow's Bridges - Chepstow Town Council
4 Map Arolwg Ordnans 1850 -1920, hygyrch via Ordnance Survey Maps Six-inch England and Wales, 1842-1952 - Map Images - National Library of Scotland. Gweler hefyd, 'The 1930s Rebuilding of Cardiff General Station' Journal of the Welsh Railways Research Circle, atodiad Tachwedd 2021: Welsh Railways Research Circle - Journal
5 'Cardiff Railway Station', The Cardiff Times, 21 Tachwedd 1874