Yr Edau sy’n Clymu Cymru

Yr Edau sy'n Clymu Cymru

Yr Edau sy'n Clymu Cymru yw ein hymgyrch hysbysebu ddiweddaraf, sy'n dathlu'r teithiau bob dydd sy'n cysylltu pobl ledled Cymru a'r Gororau.

Efallai eich bod wedi'i gweld ar y teledu, ar-lein, neu allan o gwmpas y lle. Mae'r ymgyrch yn canolbwyntio ar yr eiliadau bach, cyfarwydd sy'n digwydd ar drafnidiaeth gyhoeddus bob dydd - wrth deithio adref ar ôl noson allan, wrth fynd i'r gwaith neu wrth wneud eich ffordd yn ôl at y bobl a’r lleoedd sy'n bwysig i chi.

 

Straeon wedi'u hysbrydoli gan deithiau go iawn

Mae pob ffilm yn y gyfres yn seiliedig ar brofiadau adnabyddadwy o bob rhan o'n rhwydwaith. Mae'r stori gyntaf, Y Parti Plu, yn dilyn teithiwr sy’n mynd adref ar ôl parti plu hwyliog - yn flinedig, yn fyfyriol ac yn ddiolchgar o fod ar drên dibynadwy yn ôl.

Bydd straeon eraill yn y dyfodol yn parhau i ganolbwyntio ar deithiau bob dydd fel y rhain, wedi'u hadrodd trwy'r un byd gweledol arbennig hwn ac wedi'u hysbrydoli gan fywyd go iawn ledled Cymru.

 

Byd sy'n teimlo'n gyfarwydd

Mae'r ymgyrch yn defnyddio arddull weledol wedi'i chrefftio â llaw, lle mae tirweddau a gweadau wedi'u gwau yn eistedd ochr yn ochr â threnau a gorsafoedd go iawn. Mae wedi'i gynllunio i deimlo'n gynnes, yn groesawgar ac yn ddigamsyniol Gymreig, gan adlewyrchu'r rôl y mae trafnidiaeth gyhoeddus yn ei chwarae ym mywyd bob dydd.

Fe welwch chi’r ymgyrch yn y Gymraeg a’r Saesneg, gyda cherddoriaeth a sain wedi’u hysbrydoli gan leisiau a diwylliant o bob cwr o’r wlad.