Yr Edau sy'n Clymu Cymru'r Nadolig hwn

Mae'r Nadolig yn amser i ni ddod ynghyd. Byddwn yn teithio ar y trên i weld ffrindiau, teithio adref ar ôl parti Nadolig neu fynd â phartner adref i gyfarfod â'r teulu am y tro cyntaf efallai. Dyma'r adegau sy'n gwneud eich Nadolig yn arbennig, ac mae ein gwasanaethau yn gysylltiedig â chymaint ohonynt.

Mae'r Edau sy'n Clymu Cymru yn dathlu'r rôl ry'n ni'n ei chwarae yn cysylltu pobl, lleoedd a chymunedau ledled Cymru a'r Gororau. Y Nadolig hwn, byddwn yn darlledu’r bennod nesaf yn ein hymgyrch gyda’n hysbyseb newydd, Argraff Dda | Good Impression. Mae'n dilyn cwpl sy’n teithio adref ar ôl treulio’r Nadolig gyda theulu, lle cafodd Steve, y cariad newydd, gwrdd â theulu ei gariad am y tro cyntaf.

Mae hon yn stori Nadoligaidd gyfarwydd y gallwn oll uniaethu â hi - argraffiadau cyntaf, treulio amser gyda’r teulu a chyfleoedd lle gallwn ddod ynghyd.  Caiff ei berfformio yn Gymraeg a Saesneg gan bypedau wedi'u gwau â llaw.