Mae eich diogelwch yn bwysig i ni.
Wrth i ni ddechrau gweithio ar y Metro, gofynnwn i chi fod yn ymwybodol pan fyddwch yn agos i Linellau Craidd y Cymoedd. Mae ein rhwydwaith rheilffyrdd yn ddiogel ond yn anffodus, mae damweiniau'n bosib o hyd.
Rydyn ni'n gweithio'n galed i gyflawni'r Metro - o drydaneiddio 170km o drac i uwchraddio cyfleusterau, ac adeiladu gorsafoedd newydd sbon. Mae contractwyr a pheirianwyr arbenigol yn ein helpu i drawsnewid y system trafnidiaeth, ond mae'n hanfodol eich bod yn cadw draw o'r safleoedd a'r unedau lle byddwn yn gweithio.
Trydaneiddio Llinellau Uwchben
Cymerwch ofal wrth i ni drydaneiddio ein rheilffyrdd. Bydd angen trydan foltedd uchel i bweru ein trenau tram newydd. Mae tresmasu ar y rheilffordd yn beryglus ac yn anghyfreithlon. Bydd ein gwasanaethau yn gyflymach, yn dawelach ac yn amlach nag erioed o'r blaen, felly mae'n bwysig cadw'n ddiogel a chadw oddi ar y rheilffordd.
Croesfannau rheilffordd
Byddwch yn ofalus gyda chroesfannau rheilffordd (lle mae'r ffyrdd a'r rheilffyrdd yn cwrdd) boed chi ar droed, ar feic, neu mewn car. Talwch sylw i unrhyw larymau, signalau rhybudd neu oleuadau, ac os yw'r groesfan reilffordd wedi cau'n barhaol, dylech byth geisio croesi.
Rhagor o wybodaeth
Am ragor o wybodaeth am aros yn ddiogel gallwch:
Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon cysylltwch â ' i tîm Services rheilffyrdd