Nod ein cynllun 'Mabwysiadu Gorsaf' yw helpu i wella ein cysylltiadau â chymunedau lleol a chwsmeriaid sy'n byw ger gorsafoedd rheilffyrdd sydd heb staff.

Mae gan y cynllun amcanion tebyg i'r cynllun 'Gwarchod Cymdogaeth' lle mae pobl leol yn ein helpu ni trwy gadw llygad ar eu gorsaf reilffordd.

Rydym am gadw ein gorsafoedd yn lân ac yn ddymunol, felly mae'r cynllun hwn wedi'i gynllunio i annog adborth rheolaidd am y cyfleusterau sydd ar gael. Bydd hyn yn ein helpu i sicrhau eu bod yn cyrraedd y safonau uchel a ddisgwylir gennych chi, ein cwsmeriaid.

 

Felly beth mae mabwysiadwyr yr orsaf yn ei wneud?

Fel mabwysiadwr, y gofyniad sylfaenol yw cwblhau o leiaf ddau adroddiad y mis ynglŷn â chyflwr yr orsaf. Gellir gwneud hyn drwy ddefnyddio ein ffurflen adrodd electronig neu drwy gyflwyno adroddiad drwy'r post. Byddwn yn gofyn ichi adrodd ar faterion megis sbwriel, graffiti, fandaliaeth, goleuo, pwyntiau cymorth gwybodaeth ac amserlenni. Os oes unrhyw faterion y gallai fod angen sylw arnynt, bydd Rheolwr yr Orsaf yn sicrhau bod ein gweithredwyr cynnal a chadw yn ymwybodol fel y gellir ei thrwsio.

Mewn rhai gorsafoedd, mae’n bosib y bydd modd gofalu am arddangosfeydd blodau neu ardd yr orsaf. Mae gennym lawer o enghreifftiau gwych lle mae gwirfoddolwyr yn cynnal eu gerddi i safon uchel iawn, gyda llawer yn cael eu cydnabod gan ennill gwobrau cenedlaethol.

Nid oes ymrwymiad ariannol i chi fel mabwysiadwr ac nid oes gofyn i chi ymgymryd ag unrhyw faterion glanhau neu gynnal a chadw gan fod y rhain yn cael eu gwneud yn wythnosol gan ein staff ni. Gallwch fabwysiadu orsaf fel unigolyn neu fel rhan o grŵp.

I gydnabod eich cefnogaeth, mae mabwysiadwyr yn derbyn dwy daleb teithio yn flynyddol y gellir eu defnyddio ar unrhyw ran o rwydwaith reilffordd Trafnidiaeth Cymru.

Fe'ch gwahoddir hefyd i un o bum cynhadledd ranbarthol flynyddol a gynhelir yn y Gwanwyn o gwmpas ein rhwydwaith; lle gallwch gwrdd â mabwysiadwyr eraill a chlywed am y newyddion diweddaraf ynglŷn â’r busnes.

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae mabwysiadu gorsaf, cysylltwch â’n tîm Cysylltiadau Cwsmeriaid ar 03333 211 202 neu anfonwch e-bost i community@tfw.wales