Alison Noon-Jones

Cyfarwyddwr Anweithredol

Mae gan Alison Noon-Jones dros 35 mlynedd o brofiad ym maes Adnoddau Dynol, 25 mlynedd ar lefel bwrdd cenedlaethol a rhyngwladol, o fewn ystod o sefydliadau proffil uchel o’r radd flaenaf, gan gynnwys Invacare Corporation, General Motors Acceptance Corporation ac Airbus Defence and Security. Mae hi wedi gweithio ar draws Ewrop ac yn y Dwyrain Canol.

Ar hyn o bryd, Alison yw Is-lywydd Pobl a Diwylliant Leidos UK and Ewrop. Mae hi’n gyfrifol am arwain tîm o 25 o weithwyr proffesiynol, sy’n darparu gwasanaethau adnoddau dynol i gefnogi busnes gwerth $500m sy’n cynnwys 1,400 o weithwyr a chontractwyr ar 11 o safleoedd ar draws y DU ac Ewrop. Ymunodd Alison â Leidos yn 2016 a chyn ymgymryd â’r rôl hon, hi oedd Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol y rhaglen LCST, rhaglen logisteg amddiffyn gwerth £8bn ar gyfer y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae Alison wedi treulio llawer iawn o’i gyrfa ym maes trawsnewid a rhaglenni newid strategol ar raddfa fawr yn y maes adnoddau dynol, ac mae’n ffynnu ar feithrin timau i sicrhau’r perfformiad a’r ddarpariaeth orau bosib. Mae hi’n gydweithredol ac yn meithrin partneriaethau cryf ar draws rhaglenni a busnesau.

Mae gan Alison radd mewn ieithoedd modern o Brifysgol Abertawe, mae’n Gymrawd o’r CIPD ac mae’n Fentor ac yn Hyfforddwr Gweithredol cymwys.