Sarah Howells

Cyfarwyddwr Anweithredol

Wedi’i magu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Sarah yw prif swyddog cwsmeriaid Jurassic Fibre Limited, y prif ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd sy’n gwasanaethu De Orllewin Lloegr.

Mae’n gyfrifol am arwain yr adrannau marchnata, gwerthu, gosod a gweithrediadau cwsmeriaid wrth iddynt gyflwyno rhyngrwyd ffeibr llawn i gymunedau lleol.

Mae gan Sarah dros 20 mlynedd o brofiad ym maes gwasanaeth cwsmeriaid ar mewn amrywiaeth o ddiwydiannau. Mae hi wedi cael sawl swydd uwch mewn sefydliadau mawr ac adnabyddus yn y DU ac yn Seland Newydd, gan gynnwys Virgin Media, Vodafone, Les Mills Clothing and Merchandising, a 2 Degrees Mobile. Bu hefyd yn arwain tîm o dros 1,000 o bobl i ddarparu cymorth gwasanaeth pan roedd hi’n Bennaeth Gwasanaethau Cwsmeriaid i Tesco.

Mae gan Sarah enw da am ddatblygu pobl, gwella gallu digidol a sicrhau newid trawsnewidiol.