
Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru
Sefydlwyd Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru yng Ngwanwyn 2020.
Mae'r Panel Cynghori yn cynnwys cynrychiolwyr cwsmeriaid, llywodraeth, diwydiant, a phobl â nodweddion gwarchodedig. Mae'r Panel Cynghori yn sicrhau bod TrC yn gwneud y peth iawn ac yn herio penderfyniadau TrC yn agored drwy wrando, ymgysylltu ac yn derbyn arweiniad yn uniongyrchol gan grwpiau defnyddwyr a chymunedau ledled Cymru a'r Gororau.
Nod y Panel Cynghori yw darparu adborth, craffu a chyngor i TrC ar ystod eang o bynciau a materion, gan gynnwys gwasanaethau, gwaith trawsnewid, Diwygio Bysiau a llais cwsmeriaid. Bydd y Panel Cynghori yn cynghori TrC wrth iddo gyflwyno'r Rhwydwaith T - system drafnidiaeth integredig, amlfoddol yng Nghymru.
Mae'r Panel Cynghori yn cael ei gadeirio'n annibynnol gan Leah Morantz, Pennaeth Cyfathrebu, Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mae'r Panel Cynghori yn cyfarfod bob chwarter. Rhwng Gwanwyn 2020 a Rhagfyr 2024, cadeiriwyd y Panel Cynghori gan David Beer, Transport Focus.
Gair o groeso gan Leah Morantz, Cadeirydd
Mae trafnidiaeth gyhoeddus sy'n gweithio i'r cyhoedd yn hanfodol i ddinasyddion, cymunedau a'r economi ffynnu.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TrC) yn gweithio’n galed i sicrhau system drafnidiaeth wirioneddol integredig, amlfoddol sy'n gynhwysol ac yn hygyrch i'r cymunedau ledled Cymru a'r Gororau.
Mae'r Panel Cynghori yn sicrhau bod TrC yn gwrando ar ystod eang o grwpiau cynrychioliadol i sicrhau bod lleisiau ein cymunedau'n cael eu clywed.
Fel Cadeirydd Panel Cynghori Trafnidiaeth Cymru, rwyf am wneud yn siŵr ein bod yn meithrin trafodaeth dreiddgar a chyfoethog sy'n helpu i lunio ein gwasanaethau trafnidiaeth, nawr ac i'r dyfodol.
Mae ymrwymiad aelodau newydd a phresennol i wneud hynny wedi creu argraff arnaf eisoes. Mae natur agored arweinyddiaeth TrC i glywed adborth a gweithredu arno, hefyd wedi creu argraff arnai.
Mae staff ar draws TrC gyfan yn gweithio'n galed i wella'r rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru a'r Gororau ac mae TrC eisoes wedi cyflawni gwelliannau sylweddol i'r seilwaith.
Wrth i TrC droi ei ffocws ar ddarparu'r Rhwydwaith T, a fydd yn gwneud teithio yn symlach, yn ddoethach ac yn fwy cynaliadwy, bydd profiad a safbwyntiau cyfunol y Panel Cynghori yn hanfodol.
Ein nod yw i'r Panel Cynghori fod yn rym ar gyfer newid cadarnhaol, gan ddarparu arweiniad a chyngor i TrC drwy gyfnod deinamig o newid ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a'r Gororau.
Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelodau'r Panel a ThrC i gefnogi’r genhadaeth ac i sicrhau bod llais teithwyr wrth wraidd y penderfyniadau.

Fforymau Rhanddeiliaid Rhanbarthol
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi sefydlu pedwar Fforwm Rhanddeiliaid Rhanbarthol, pob un yn cynrychioli ardaloedd o rwydweithiau trafnidiaeth Cymru a'r Gororau. Mae gan bob Fforwm gynrychiolaeth ranbarthol sy'n cynnwys awdurdodau lleol, partneriaid busnes a thwristiaeth, cyrff addysg, partneriaid awdurdodau trafnidiaeth rhanbarthol, cyrff gwarchod trafnidiaeth a sefydliadau'r trydydd sector. Mae'r Fforymau Rhanbarthol yn cael eu cadeirio gan y Rheolwr Rhanddeiliaid ar gyfer pob rhanbarth ac maent yn cynnig y wybodaeth ddiweddaraf am ein gwaith yn genedlaethol ac yn rhanbarthol yn ogystal â chyfle i gymryd rhan mewn llunio dyfodol teithio. Mae'r fforymau rhanbarthol yn dod ynghyd ddwywaith y flwyddyn i gyfarfod fel un grŵp mawr; sy'n cynnwys fforwm rhanddeiliaid cenedlaethol dan gadeiryddiaeth y Pennaeth Ymgysylltu.
Y rhanbarthau yw:
- Gogledd Cymru
- Cymru a'r Gororau
- De-ddwyrain Cymru
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Os ydych chi'n randdeiliad trafnidiaeth sydd â diddordeb mewn ymuno â'n fforwm, cysylltwch â ni drwy ymgysylltu@trc.cymru.