Arolwg Teithwyr Rheilffordd Cenedlaethol

Mae Transport Focus yn ymgynghori â mwy na 50,000 o deithwyr bob blwyddyn i gynhyrchu’r Arolwg Teithwyr Rheilffordd Cenedlaethol (NRPS) – darlun ar draws y rhwydwaith o fodlonrwydd pobl sy’n teithio ar y rheilffyrdd.

Cesglir barn teithwyr am wasanaethau trên ddwywaith y flwyddyn o sampl gynrychiadol o deithiau.

Felly, dros amser, bydd modd cymharu bodlonrwydd cyffredinol teithwyr a’u bodlonrwydd â 30 agwedd penodol ar wasanaethau.

NRPS yw’r arolwg mwyaf o fodlonrwydd teithwyr rheilffordd a gyhoeddir yn y byd. Mae’n darparu ystadegau swyddogol sy’n cael eu defnyddio fel dangosydd perfformiad allweddol. Rydym wedi cyhoeddi ciplun o ganlyniadau’r Gwanwyn yn y cyflwyniad isod.

Mae cyflwyniad llawn yn ogystal â’r arolygon hanesyddol llawn ar gael yma.

Arolwg Teithwyr Rheilffordd Cenedlaethol Hydref 2019 | Agor ar ffurf PDF