Submitted by content-admin on
  • Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad ifanc sy’n datblygu ac ar daith gyffrous. Rydym yn tyfu ac yn ceisio gwella’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid, y cyhoedd a chymunedau lleol
    • Mae Trafnidiaeth Cymru yn sefydliad ifanc sy’n datblygu ac ar daith gyffrous. Rydym yn tyfu ac yn ceisio gwella’r ffordd rydym yn ymgysylltu â’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid, y cyhoedd a chymunedau lleol. Rydym eisiau i’n cwsmeriaid, rhanddeiliaid, y cyhoedd a chymunedau lleol fod yn rhan o’r daith hon, felly fe’ch anogwn i gysylltu ac ymgysylltu â nhw.

      Bydd ein Rheolwyr Rhanddeiliaid Rhanbarthol sydd newydd eu penodi yn arwain a rheoli cysylltiadau lleol gyda’r nod o ddod o hyd i ffyrdd o gynyddu effaith ein gwaith a deall anghenion pobl leol yn well i ddod â’r rheilffyrdd yn nes at gymunedau.  
      Rydym wrthi hefyd yn sefydlu Bwrdd Cymuned a Rhanddeiliaid Cymru a’r Gororau, ynghyd â phedwar is-grŵp – fforymau cymuned a rhanddeiliaid rhanbarthol – gydag aelodaeth amrywiol yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Network Rail, Heddlu Trafnidiaeth Prydain, awdurdodau lleol, grwpiau busnes ac ati. Bydd y Bwrdd a’i is-grwpiau yn gwella’r cydweithredu rhwng rhanddeiliaid, gan greu’r cyfle i drafod ein perfformiad a’n cynnydd, ynghyd â darparu adborth gwerthfawr a fydd yn ein galluogi i barhau i wella a llywio ein cynlluniau.  
      Yn ystod ein gwaith i weddnewid trafnidiaeth ledled Cymru a’r Gororau, rydym wedi rhoi ffocws clir ar weithio gyda’n cymunedau i adeiladu rheilffyrdd sy’n addas i’r dyfodol, ac wedi diffinio hyn yn ein Strategaeth Rheilffyrdd Cymunedol. Rydym yn buddsoddi’n gryf mewn rheilffyrdd cymunedol, a byddwn yn:

      • Mwy na dyblu nifer y Partneriaethau Rheilffyrdd Cymunedol (CRPs) i gwmpasu’r rhwydwaith cyfan. Byddwn hefyd yn ehangu ein cynllun mabwysiadu gorsafoedd i gwmpasu 90% o’n gorsafoedd dros y pedair blynedd nesaf.
      • Darparu cronfeydd sylweddol yn flynyddol (dros £660,000 y flwyddyn erbyn 2021-22 wedi’i rannu rhwng pob partneriaeth) ar gyfer CRPs i hyrwyddo ac annog y defnydd o reilffyrdd yn eu cymunedau. 
      • Cyflogi hyd at 22 o lysgenhadon cymunedol a fydd yn gweithio gyda sefydliadau gwirfoddol, ysgolion a byrddau iechyd lleol i’n galluogi ni i ddatblygu cysylltiadau agosach â rhanddeiliaid lleol. 
      • Cyflwyno dwy swydd farchnata newydd i weithio gyda CRPs i’w helpu i ddatblygu a darparu cynlluniau marchnata penodol. 
      • Ymgysylltu â sefydliadau twristiaeth rhanbarthol i ddatblygu strategaeth rheilffyrdd a thwristiaeth integredig yn unol â strategaeth “Ffordd Cymru” Croeso Cymru. 
      • Buddsoddi i wella amgylcheddau gorsafoedd, gan gynnwys gweddnewid hyd at 40 o safleoedd i fod yn gyfleusterau cymunedol cyfoes. Byddwn yn ymgynghori â chymunedau a rhanddeiliaid lleol i ddeall eu barn am sut i wneud y defnydd gorau o’r gofod hwn. Byddwn hefyd yn annog busnesau lleol bach i ddefnyddio gofod segur mewn gorsafoedd i hyrwyddo gwasanaethau a chynhyrchion lleol.