A view of the Abergavenny landscape on a sunny day

Teithio i’r Fenni ar y trên

Y Fenni; tref farchnad hudolus yng nghanol Sir Fynwy, y lle perffaith i ddianc i gefn gwlad.

Caiff y Fenni ei hybu fel y porth i Gymru yn aml, ac mae’n hawdd gweld pam. Mae’r Mynyddoedd Duon, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a Llwybr Clawdd Offa i gyd gerllaw. Ychwanegwch ŵyl fwyd fendigedig a Gŵyl y Dyn Gwyrdd yng Nglan-wysg, Crucywel, ac mae gennych chi’r lle perffaith i fwynhau cefn gwlad.

 

Teithio i’r Fenni ar drên

Mae’n haws nag erioed ymweld â’r Fenni ar y trên, gyda gwasanaethau rheolaidd yn cyrraedd o bob cwr o Gymru, y gororau a Gogledd-orllewin Lloegr. Mae gorsaf drenau’r Fenni wedi cael ei moderneiddio’n ddiweddar i’w gwneud yn fwy hygyrch i’n cwsmeriaid.

Gallwch deithio i’r Fenni ar y llwybrau canlynol, sy’n cysylltu Cymru’n dda:

 

Pam ymweld â’r Fenni?

Mae gan y Fenni ddigon i’w gynnig i’w hymwelwyr. P’un a ydych chi’n teithio ar eich pen eich hun, gyda theulu neu ffrindiau neu gyda rhywun annwyl, mae rhywbeth at ddant pawb.

O’r ŵyl fwyd anhygoel i ŵyl y Dyn Gwyrdd, dewch i weld beth yw rhai o atyniadau mwyaf cyffrous y Fenni ar ein tudalen ‘Pethau i’w gwneud yn y Fenni’.