Cynllun Teithiau Bws £1 i Blant a Phobl Ifanc

O 1 Medi 2025 ymlaen, cyflwynodd Llywodraeth Cymru docynnau bws rhatach i bobl 16 - 21 oed gyda cherdyn fyngherdynteithio yng Nghymru ac ar rai gwasanaethau trawsffiniol.

O 3 Tachwedd 2025, bydd y cynllun tocyn sengl am £1 a tocyn diwrnod am £3 yn cael ei ehangu i gynnwys plant 5 - 15 oed yng Nghymru a rhai gwasanaethau trawsffiniol. Nid oes angen fyngherdynteithio ar blant 5 - 15 oed i fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn.

 

Tocynnau bws

Bydd tocynnau ar gael am y prisiau canlynol:

  • Taith Sengl (Unffordd) - £1.00
  • Tocyn Cymru (Tocyn Dydd) - £3.00 (teithio diderfyn ar wasanaethau bws sy'n rhan o'r cynllun)

Bydd y tocynnau ar gael i brynu a’i ddefnyddio ar wasanaethau bws cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun.

Gwelwch fwy a gwnewch gais am fyngherdynteithio

 

Telerau ac amodau

  • Mae prisiau gostyngol ar gael i blant 5 i 15 oed heb yr angen am fyngherdynteithio.
  • Ar gael i bobl 16-21 oed sydd â fyngherdynteithio dilys. Mae angen dangos y cerdyn fyngherdynteithio i'r gyrrwr wrth i chi fynd ar y bws neu wrth brynu'ch tocyn.
  • Ar gael gyda gweithredwyr bws sy’n cymryd rhan.
  • Mae tocynnau ar gael ar gyfer siwrnai sy’n dechrau neu'n gorffen yng Nghymru. Ar gyfer siwrnai sy’n croesi rhwng Cymru a Lloegr gallwch deithio hyd at ac o'r safle bws cyntaf yn Lloegr, neu ar rai gwasanaethau hyd at ddiwedd y llwybr.
  • Ar gael am siwrnai bws yn unig.
  • Rhaid defnyddio tocynnau sengl gyda’r gweithredwr y cawsant eu prynu gyda.
  • Ddim ar gael gyda Tap Ymlaen, Tap Ymadael ar y foment.
  • Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus, Flix Bus, bysiau nos pris premiwm a bysiau City Sightseeing.
  • Mae’r cynllun yma yn cael ei ariannu am 1 flwyddyn.

 

Pwy yw’r gweithredwyr bysiau sy’n cymryd rhan?

Mae mwyafrif y gweithredwyr bysiau ledled Cymru yn rhan o'r cynllun newydd hwn.

Ni fydd gwasanaethau fel bysiau nos pris premiwm a bysiau City Sightseeing yn cynnig y prisiau gostyngol nac yn derbyn Tocynnau Diwrnod. Nid yw'r prisiau gostyngedig ar gael ar wasanaethau coets a weithredir gan National Express, Megabus na Flix Bus.

Bydd y gweithredwyr bysiau canlynol yn cymryd rhan yn y Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc:

  • Adventure Travel
  • Arriva Cymru
  • Berwyn Coaches
  • Caelloi
  • Cardiff Bus
  • Celtic Travel
  • Clynnog and Trefor
  • Connect2
  • Dansa
  • Davies Coaches
  • Denbighshire County Council
  • Dilwyn's Coaches
  • Edwards
  • Eifion’s Coaches
  • Evans Coaches, Tregaron
  • First Cymru
  • Forge Travel
  • Goodsir Coaches
  • Gwynfor Coaches
  • Harris Coaches
  • Jones Login
  • K&P Coaches
  • Keepings Coaches
  • Lewis Y Lan
  • Llew Jones
  • Lloyds Coaches
  • M&H Coaches
  • Mid Wales Travel
  • Morris Travel
  • Nefyn Coaches
  • Newport Transport
  • Ddrws I ddrws
  • OR Jones
  • Oswestry Community Action
  • Owens Travelmaster
  • P&O Lloyds
  • Pats Coaches
  • Pembrokeshire County Council
  • Pembrokeshire Voluntary Transport
  • Peyton Travel
  • Phil Anslow
  • R. Williams Services
  • Richard Brothers
  • Ridgeway
  • Select Coaches
  • Sergeant Bros
  • Simon Price Cars
  • South Wales Transport
  • Stagecoach South Wales
  • Taf Valley
  • Tanat Valley
  • Thomas of Rhondda
  • TrawsCymru
  • Valentines Travel
  • Wilkins Travel
  • Williams Coaches (Brecon)

Mae'r rhestr hon yn destun newid a bydd yn cael ei diweddaru'n rheolaidd.

Pwy all ddefnyddio'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc?

Mae'r cynllun ar agor i bawb rhwng 5 a 21 oed.

Mae pob person 16 i 21 oed yn gymwys ar gyfer prisiau'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc, ond rhaid i chi gael fyngherdynteithio i brofi eich oedran i yrrwr y bws wrth brynu tocyn.

Os nad oes gennych chi fyngherdynteithio eisoes, gallwch wneud cais am gerdyn yma.

Os ydych chi neu'ch plentyn rhwng 5 a 15 oed, nid oes angen fyngherdynteithio arnyn nhw i elwa o'r cynllun.

Ble alla i brynu tocynnau bws i Blant a Phobl Ifanc am brisiau gostyngol?

Gellir prynu tocynnau bws i Blant a Phobl Ifanc am brisiau gostyngol:

  • ar y bws gan y gyrrwr wrth fynd ar y bws
  • drwy apiau tocynnau ar eich ffôn symudo lle bo’n briodol

Ni allwch ddefnyddio Tap Ymlaen/Tap Ymadael na’r system taliadau wedi'u capio ar hyn o bryd, er ein bod yn gobeithio cyflwyno hyn yn y dyfodol wrth i ni ddatblygu'r cynllun ymhellach.

Os ydych chi'n defnyddio ap ar eich ffôn i brynu tocyn, efallai y bydd angen i chi gofrestru eich fyngherdynteithio cyn y gallwch chi brynu tocynnau am brisiau gostyngol a bydd angen i chi gyflwyno'r fyngherdynteithio i'r gyrrwr pan fyddwch chi'n mynd ar y bws.

Mae yna hefyd rai cyfyngiadau ar ddefnyddio tocynnau unffordd a brynir trwy apiau ffôn symudol gan mai dim ond ar wasanaethau sy'n cael eu gweithredu gan y cwmni bysiau a werthodd y tocyn unffordd i chi y gellir defnyddio'r rhain. Nid yw'r cyfyngiad hwn yn berthnasol i Docynnau Diwrnod a brynwyd ar ap ac y gellir eu defnyddio ar unrhyw wasanaeth bws yng Nghymru sy'n cymryd rhan.

A allaf gael gostyngiad i Blant a Phobl Ifanc ar wasanaethau bws y tu allan i Gymru?

Gallwch, cyn belled â bod eich taith fws yn dechrau neu'n gorffen yng Nghymru, byddwch wedi'ch cynnwys yn y cynllun hyd at ac o'r safle bws cyntaf yn Lloegr neu ar rai gwasanaethau hyd at ddiwedd y llwybr.

Mae gen i fyngherdynteithio yn barod

Os ydych chi rhwng 16 a 21 oed ac mae gennych chi fyngherdynteithio eisoes, rydych chi'n barod i elwa o'r Cynllun Teithiau Bws i Bobl Ifanc newydd ac nid oes angen i chi wneud dim byd pellach.

Os ydych chi neu'ch plentyn rhwng 5 a 15 oed, nid oes angen fyngherdynteithio arnyn nhw i elwa o'r cynllun.

Oes gostyngiad ar docynnau trên?

Dim ond i deithio ar fysiau yng Nghymru y mae'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc yn berthnasol.

Gall plant dan 11 oed deithio am ddim ar ein gwasanaethau rheilffordd a gall plant 11 - 15 oed deithio am ddim ar ein trenau yn ystod cyfnodau y tu allan i oriau brig, cyn belled â bod oedolyn sy'n talu am docyn yn teithio gyda nhw yn y ddau achos.

Gallwch gael gwybod mwy yma: Plant i gael teithio am ddim ar ein trenau

Nid oes unrhyw ostyngiadau i ddefnyddwyr fyngherdynteithio ar ein gwasanaethau rheilffordd, dim ond i deithiau bws yng Nghymru y mae'r Cynllun Teithiau Bws i Blant a Phobl Ifanc yn berthnasol. I gael gwybodaeth am ostyngiadau gyda cherdyn rheilffordd, ewch i: Cardiau rheilffordd