Ewch i'r tabl cynnwys

Data monitro cyflymder cerbydau: Gorffennaf 2023 i Medi 2025

Submitted by Content Publisher on

Crynodeb

Data monitro cyflymder cerbydau Gorffennaf 2023 i Medi 2025

Mae’r ystadegau hyn yn rhoi cipolwg ar gyflymder cerbydau a gafodd eu cofnodi mewn safleoedd monitro ar y prif ffyrdd trwodd ledled Cymru. Mae’r gwaith monitro wedi cael ei gynnal lle mae cyfyngiad cyflymder o 20mya nawr yn berthnasol. Mae’r data’n crynhoi cyflymder cerbydau yn erbyn y tri Dangosydd Perfformiad Allweddol (DPA) a amlinellir yn y fframwaith monitro 20mya cenedlaethol. Casglwyd y data ar gyfer haf 2025 o 38 safle monitro ar brif ffyrdd trwodd ar draws 10 ardal. Mae pob cyfnod monitro yn cynnwys dau gyfnod casglu data sy’n para pythefnos. Ym mhob cyfnod monitro, casglwyd data cyflymder ar gyfer tua 6 miliwn o gerbydau.

Gostyngodd nifer y safleoedd monitro 20mya o 43 i 38 ar ôl i bum safle yn Wrecsam ddychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya. Mae'r pum safle yma wedi cael eu heithrio o bob cyfnod dadansoddi Dangosyddion Perfformiad Allweddol. Mae’r data ar gyfer cyfnodau blaenorol wedi cael ei adolygu i roi cyfrif am yr eithriad hwn.

Nid yw eithrio'r safleoedd hyn yn effeithio'n sylweddol ar ddilysrwydd cyffredinol y canlyniadau gan fod y safleoedd sy'n weddill yn darparu sampl digon mawr. Yn gyffredinol, mae'r data'n parhau i fod yn asesiad cadarn o gyflymder cerbydau yn y mannau lle cynhaliwyd y gwaith monitro.

Mae pum safle monitro 20mya yn dal i fod yn Wrecsam. Dyma'r ardal sydd â'r nifer uchaf o gerbydau wedi'u cofnodi ar gyfer y set ddata hon o hyd, gyda chyflymderau 1.2 miliwn o gerbydau wedi'u cofnodi yn ystod haf 2025.

Ni ddylid ystyried bod y data’n cynrychioli cyflymderau ar bob ffordd sydd â chyfyngiad cyflymder o 20mya.

 

Tabl 1: Asesiad DPA

Cyfnod monitroCanran sy’n teithio ar 24mya neu’n arafachCyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya)Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya)
Haf 202322.6%32.828.5
Gaeaf 2023/2457.9%29.124.5
Haf 202452.3%29.825.1
Gaeaf 2024/2553.8%29.524.9
Haf 202551.5%3025.2

Mae cyflymder cerbydau wedi cynyddu ychydig ers gaeaf 2024/25 ond mae'n dal yn is na'r cyflymder cyn rhoi’r terfyn ar waith.

Yn ystod haf 2025, roedd 51.5% o’r cerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 24mya neu’n arafach. Mae hyn yn ostyngiad o 2.3 pwynt canran (pc) o’i gymharu â chyfnod monitro gaeaf 2024/5. Dyma'r ganran isaf o gerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 24mya neu’n arafach ers gweithredu'r terfyn cyflymder diofyn o 20mya. Cyn newid y terfyn cyflymder, cofnodwyd 22.6% o gerbydau’n teithio ar 24mya neu’n arafach.

Cyflymder yr 85ed ganradd, wedi’i bwysoli yn ôl cyfanswm y cerbydau, oedd 30.0mya yn ystod haf 2025. Mae hyn 0.5mya yn gyflymach na’r cyflymderau a gofnodwyd yn ystod gaeaf 2024/25 (29.8mya), a 2.8mya yn arafach na chyn newid y terfyn cyflymder i 20mya.

Y cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli a gofnodwyd yn ystod haf 2024/2025 oedd 25.2mya. Mae hyn 3.3mya yn arafach na chyn newid y terfyn cyflymder i 20mya (28.5mya), a 0.3mya yn gyflymach arafach na’r cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli a gofnodwyd yn ystod gaeaf 2024/25 (24.9mya).

 

Mae Tabl 2 yn dangos sut mae cyflymder wedi newid rhwng y cyfnodau ac ers cyflwyno’r terfyn cyflymder diofyn o 20mya.

Mae data haf 2025 yn dangos bod cyflymderau, fel y’u diffinnir gan ddefnyddio’r tri mesur DPA, wedi cynyddu rywfaint o’u cymharu â gaeaf 2024/25. Cyflymderau haf 2025 oedd y rhai cyflymaf a gofnodwyd ers gweithredu'r terfyn cyflymder 20mya diofyn. Mae’r newidiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Fodd bynnag, mae pob DPA yn dangos bod cyflymderau yn ystod haf 2025 yn arafach na’r cyflymderau a gofnodwyd cyn newid y terfyn cyflymder. Mae’r gostyngiadau hyn yn arwyddocaol yn ystadegol.

Tabl 2: Cymharu DPA â chyflymderau cyn rhoi’r terfyn ar waith

 Canran sy’n teithio ar 24mya neu’n arafachNewid rhwng cyfnodauCyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya)Newid rhwng cyfnodauCyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya)Newid rhwng cyfnodau
Gaeaf 2023/24+35.4pp--3.7--4.1 
Haf 2024+29.8pp-5.6pp-3.0+0.7-3.4+0.6
Gaeaf 2024/25+31.2pp+1.5pp-3.3-0.3-3.6-0.2
Haf 2025+29.0pp-2.3pp-2.9+0.4-3.3+0.3

Dangosir dosbarthiad o gyflymder cerbydau ar gyfer pob cyfnod monitro yn Ffigur 1. Yn ystod haf 2025, lle’r oedd 51.5% o gerbydau’n teithio ar 24mya neu’n arafach, roedd 15.2% o gerbydau yn teithio ar 19mya neu’n arafach. Mae hyn wedi gostwng o’i gymharu â 15.7% yn ystod gaeaf 2024/25.

Fodd bynnag, cyn cyflwyno’r newid i’r terfyn cyflymder, cofnodwyd bod 36.1% o gerbydau’n teithio ar 30mya neu’n gyflymach. Mewn cymhariaeth, dim ond 17.3% o gerbydau a gofnodwyd yn teithio ar 30mya neu’n gyflymach yn ystod haf 2025.

Ffigur 1: Dosbarthiad cyflymder yn ôl cyfnod monitro

Ffigur 1: Dosbarthiad cyflymder yn ôl cyfnod monitro

 

Safleoedd sy'n dychwelyd i derfyn cyflymder o 30mya

Rhwng y cyfnodau monitro yn ystod haf 2025, newidiodd y terfyn cyflymder mewn pum safle monitro yn ardal Wrecsam i 30mya. Dim ond pythefnos o ddata monitro (Medi 2025) sydd ar gael gyda'r terfyn cyflymder newydd o 30mya yn y safleoedd hyn. Cyflwynir y data hwn yn Nhabl 3.

Dylid bod yn ofalus wrth ddadansoddi effaith newid y terfyn cyflymder yn ôl i 30mya yn y safleoedd hyn. Dim ond y safleoedd sy'n cael eu monitro y mae'r data'n eu cynrychioli ac ni ddylid eu defnyddio i gynrychioli'r newid disgwyliedig mewn ymddygiad gyrwyr yn sgil newid y terfyn cyflymder o 20mya i 30mya.

Tabl 3: Monitro cyflymder yn y pum safle yn Wrecsam lle mae'r terfyn cyflymder wedi cael ei newid yn ôl i 30mya yn 2025

Cyfnod monitroCanran sy’n teithio ar 24mya neu’n arafachCyflymder yr 85ed ganradd wedi’i bwysoli (mya)Cyflymder cymedrig wedi’i bwysoli (mya)Nifer y cerbydau a gofnodwydTerfyn cyflymder
Haf 202310.3%33.429.6959,90230mya
Gaeaf 2023/2463.2%28.724.01,020,20420mya
Haf 202455.0%29.524.91,047,94620mya
Gaeaf 2024/2555.2%29.324.91,028,75220mya
Gorffennaf 2025¹49.9%30.425.5526,53020mya
Medi 2025²22.7%31.827.9533,76730mya

¹ Mae'r data a gofnodwyd ym mis Gorffennaf a mis Medi 2025 yn cwmpasu pythefnos o fonitro cyflymder yn y naill fis a’r llall. Cofnodwyd cyfanswm o 1,060,117 o gerbydau yn ystod haf 2025.

² Cafodd y data a gofnodwyd ym mis Medi 2025 ei gofnodi ar ôl i’r terfyn cyflymder ddychwelyd i 30mya.


 

Gwybodaeth gefndir

Mae’r datganiad hwn yn crynhoi data cyflymder cerbydau o safleoedd monitro ar hyd a lled Cymru. Roedd gan bob ffordd a gafodd ei monitro derfyn cyflymder o 30mya cyn 17 Medi 2023 a therfyn cyflymder o 20mya o 17 Medi 2023 ymlaen. Adeg y monitro, roedd pob ffordd yn rhydd i raddau helaeth o rwystrau neu gyfyngiadau ffisegol neu rwystrau sy’n lleihau cyflymder traffig.

Mae’r dadansoddiad yn seiliedig ar fonitro cyflymder am gyfanswm o 20 wythnos yn ystod:

  • Haf 2023 - pedair wythnos o ddata cyn cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.
  • Gaeaf 2023/4 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Tachwedd a phythefnos ym mis Ionawr.
  • Haf 2024 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.
  • Gaeaf 2024/5 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Tachwedd a phythefnos ym mis Ionawr.
  • Haf 2025 - pedair wythnos o ddata ar ôl cyflwyno’r terfyn cyflymder, sy’n cwmpasu pythefnos ym mis Gorffennaf a phythefnos ym mis Medi.

Mae data haf 2023, haf 2024, a haf 2025 yn cymharu cyfnodau tebyg am debyg cyn ac ar ôl cyflwyno’r polisi terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.

Mae data gaeaf 2023/24 a gaeaf 2024/25 yn ein galluogi ni i gymharu cyfnodau tebyg am debyg ar ôl cyflwyno’r polisi terfyn cyflymder 20mya diofyn ar ffyrdd cyfyngedig.

Mae awdurdodau lleol wedi bod yn adolygu adborth gan bobl, busnesau a chymunedau fel rhan o'r Rhaglen Wrando Genedlaethol. Mae'r rhaglen hon wedi dod i ben mewn sawl ardal, ond disgwylir rhai newidiadau i derfynau cyflymder ar ffyrdd unigol o hyd.  Fel y nodir uchod, mae newidiadau eisoes wedi digwydd yn Wrecsam. Gall hyn effeithio ar safleoedd monitro mewn ardaloedd eraill wrth i awdurdodau lleol gyflwyno newidiadau. O ganlyniad i hyn, efallai y bydd yn rhaid diwygio data monitro cyflymder 20mya yn y dyfodol.