
Dewch i ni ddychwelyd i archwilio lleoedd newydd. Yn gartref i barciau cenedlaethol byd-enwog, cestyll mawreddog, traethau arobryn, siopau di-ri, mae gan Gymru’r cyfan a gall ein trenau fynd â chi yno.
Y Bermo
Gyda'r orsaf yng nghanol y dref, does dim esgus i beidio a mynd i archwilio. Saif ar arfordir gorllewinol Gogledd Cymru rhwng y mynyddoedd ac aber Afon Mawddach. O Forfa Mawddach byddwch yn croesi traphont bren hiraf Cymru.

Caerfyrddin
Un o drefi hynaf Cymru. Dim ond 10 munud ar droed i ganol y dref. Ymwelwch â’r farchnad dan do sy'n gwerthu popeth o gelf a chrefft i fwyd a diod lleol.

Llandudno
Ar lan arfordir hardd Gogledd Cymru. Dim ond 4 munud o'r orsaf, mae promenâd ysgubol sy’n arwain yn uniongyrchol at dywod meddal glân. Dyma gyrchfan ddelfrydol i ddianc iddi.

Machynlleth
Tref farchnad wedi’i lleoli ar gwr aber Afon Dyfi, sy’n ddelfryfol i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn celf, natur a chomedi. Dim ond 5 munud ar droed i'r dref o’r orsaf.
