Cerdded ac olwynio
Cerdded neu feicio yw un o’r ffyrdd hawsaf o deithio o gwmpas. Gallwch wneud hyn pan fyddwch chi’n dymuno, ar eich cyflymder eich hun. Nid yw’n costio dim i chi. Gorau oll, mae’n eich helpu i fod yn fwy egnïol ac iach.
Mae nifer o’n gorsafoedd yn fannau cychwyn cerdded ar hyd llwybrau enwocaf Cymru. Llenwch eich sach deithio, rhowch eich esgidiau cerdded ymlaen a neidiwch ar un o’n trenau - teithiwch ar drên ac ar droed.
