Llwybr Arfordir Cymru

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn un o’r ychydig lwybrau yn y byd sy’n dilyn arfordir cenedl gyfan. Mae’n 870 milltir o hyd ond peidiwch â becso, does dim rhaid gwneud yr holl beth ar yr un pryd.

Crëwyd Llwybr Arfordir cyntaf Cymru yn ddiweddar, yn 2012. Dyma lwybr cyntaf y byd lle y gallwch gerdded o un ochr gwlad i’r llall. Ar y llwybr, gallwch brofi golygfeydd prydferth sy’n cynnwys traethau agored a choetiroedd anhygoel. Mae antur i bob rhan o Lwybr Arfordir Cymru.

Yn swyddogol, mae’r llwybr yn dechrau ar y ffin, yng Nghaer yn y Gogledd a Chas-gwent yn y De. Mae llwybrau arfordir Môn, Ceredigion a Sir Benfro yn rhan o Lwybr Arfordir Cymru ac mae digon o gyfleoedd felly i ehangu’ch llwybr ac archwilio mwy o Gymru.

Mae’r daith trwy dirweddau amrywiol Llwybr Arfordir Cymru yn syfrdanol. Gyda’i glogwyni uchel a’i draethau cudd bychain, mae prydferthwch garw Arfordir Sir Benfro, yn ogystal â thraethau swynol Môn, a chestyll hanesyddol ar hyd traethlin Harlech a Chaernarfon sef cartref Castell Caernarfon, yn rhai o uchafbwyntiau’r llwybr. Gellir cyrraedd Môn o orsaf Tŷ-croes.

Mae’r rheini sy’n dwlu ar natur wrth eu bodd yn gweld morloi, adar y môr, a dolffiniaid ar hyd y ffordd. Mae pentrefi pysgota fel Aberaeron a threfi pert fel Dinbych-y-pysgod yn lleoedd hyfryd i’w harchwilio ac mae’r llwybr hefyd yn mynd drwy ddinasoedd bywiog fel Caerdydd, lle y gallwch gael blas ar fywyd y ddinas. Ar bob cam o’r daith o 870 milltir, cewch brofi ddiwylliant a hanes cyffrous Cymru yn ogystal â golygfeydd naturiol.

Gallwch gerdded ar hyd Cymru gyfan os ydych yn cerdded ar hyd llwybr Arfordir Cymru a Llwybr Clawdd Offa - oddeutu 1,047 milltir o hyd. Gallwch hefyd orffwys ychydig ar hyd y ffordd drwy neidio ar un o’n trenau niferus er mwyn mynd o un llwybr i’r llall.

 

Seiclo ar Lwybr Arfordir Cymru

Os ydych wrth eich bodd yn seiclo, mae seiclo ar hyd Llwybr Arfordir Cymru yn ffordd wych o brofi’r golygfeydd. Yn ogystal, dyluniwyd ein trenau Trafnidiaeth Cymru er mwyn ichi allu neidio arnynt gyda’ch Beics. Gallwch ddewis y llwybr seiclo mwyaf addas ichi heb fecso am y pellter, felly.

Archwiliwch Lwybr Arfordir Cymru ar y Map Rhyngweithiol hwn a gwnewch y mwyaf o’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.