Plan your train journey

Atyniadau

Borth & Ynyslas Golf Club

Clwb Golff Borth ac Ynyslas

Gorsafoedd agosaf: Aberystwyth a Borth

Cynnig: Cynnig: Tocyn arbennig Dydd Gwener llinell y Cambrian - £50

Mwynhewch groeso cynnes yn un o gyrsiau golff glan môr mwyaf golygfaol Gorllewin Cymru. Gall ymwelwyr sy'n cyrraedd ar y trên fanteisio ar becyn arbennig ar gyfer dydd Gwener sy'n cynnwys te neu goffi, rholyn brecwast a phrif bryd, gydag amseroedd tee ar gael drwy gydol y dydd. Mae bygis hefyd ar gael (£25).

Dysgwch fwy - Archebwch eich tocyn arbennig Dydd Gwener: https://borthynyslas.hub.clubv1.com/Visitors/TeeSheet?date=2026-01-02&courseid=13509

TfW train passing infront of a Cadw castle

Safleoedd Hanesyddol Cadw

Gorsafoedd agosaf: Conwy, CriciethHarlech

Cynnig: 2 docyn am bris 1

Gyda thocyn trên dilys, gallwch gael dau docyn mynediad am bris un pan fyddwch yn ymweld â rhai o dirnodau mwyaf adnabyddus Cymru.

Dysgwch fwy > 2 docyn am bris 1 i Dirnodau Hanesyddol Cymru.

Llandrindod lakeside

Lakeside Boathouse

Gorsaf agosaf: Llandrindod

Cynnig: 30 munud ychwanegol YN RHAD AC AM DDIM pan fyddwch chi'n llogi caiac, canŵ neu badlfwrdd (SUP) am 30 munud.

Mae caiac, canŵ / padlfwrdd ar gael i'w llogi bob dydd (os yw'r tywydd yn caniatáu).

Sut i fanteisio? Ffoniwch 01597 824 604 a defnyddiwch y cod LAKETRAIN.

Penderyn Llandudno Lloyd St. Distillery

Distyllfa Penderyn Llandudno Lloyd St.

Gorsaf agosaf: Llandudno

Cynnig: 2 am 1 ar deithiau distyllfa

Cynnig: 20% oddi ar ddosbarth meistr wisgi

Cael 2 am 1 ar deithiau distyllfa neu 20% oddi ar ddosbarth wisgi yn unrhyw un o Ganolfannau Ymwelwyr Distyllfa Penderyn (Bannau Brycheiniog, Llandudno neu Abertawe).

Sut i fanteisio? Nodwch TFWR241T wrth y ddesg dalu ar gyfer teithiau distyllfa a chod TFWR20M ar gyfer y dosbarth meistr.

 

Telerau ac amodau
  • Rhaid i gwsmeriaid ddangos tocyn trên ‘yr un diwrnod’ dilys ar ôl cyrraedd Distyllfa Penderyn i adbrynu'r cynnig.
  • Cynnig yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2026.

Talyllyn Railway

Rheilffordd Talyllyn

Gorsaf agosaf: Tywyn

Cynnig: gostyngiad o 20%

Archwiliwch hanes diddorol Rheilffordd Talyllyn, trên stem sy'n symud ers 1865 a dyma'r rheilffordd gyntaf yn y byd i gael ei 'diogelu'. Darganfyddwch y cysylltiadau a'r chwarel lechi ym Mryneglwys a phentref Abergynolwyn. Diwrnod gwych boed law neu hindda.

Sut i fanteisio? Dangoswch eich tocyn trên dilys ar ôl cyrraedd y sw.

Telerau ac amodau
  • Cynnig yn ddilys tan 01 Ionawr 2027.
  • Nid yw'n ddilys ar ddiwrnodau Gala na digwyddiadau arbennig.
  • Mae'r gostyngiad yn berthnasol i docynnau Crwydro Diwrnod i Oedolyn yn unig.

Welsh Mountain Zoo

Sw Mynydd Cymru

Gorsaf agosaf: Bae Colwyn

Cynnig: 30% oddi ar bris tocynnau a brynir ar y diwrnod

Wedi’i leoli uwch ben Bae Colwyn yng ngogledd Cymru, mae Sw Mynydd Cymru yn eistedd o fewn 37 erw o dir gwledig syfrdanol gyda golygfeydd panoramig rhyfeddol o’r draethlin a mynyddoedd Carneddau.

Sut i gael y cynnig? Dangoswch eich tocyn trên TrC pan fyddwch yn cyrraedd.

Telerau ac amodau
  • Yn amodol ar delerau ac amodau cyffredinol y Sw.
  • Mae’r cynnig ar gael i ymwelwyr sy’n cyrraedd ar drên Trafnidiaeth Cymru yn unig.
  • Mae’n rhaid i bob grŵp sy’n ymweld â’r sw gyflwyno tocyn trên Trafnidiaeth Cymru dilys sydd â’r un dyddiad â’r ymweliad.
  • Ni ellir defnyddio’r cynnig hwn gydag unrhyw ostyngiad arall ac nid yw’n ddilys ar docynnau sydd eisoes â gostyngiad, gan gynnwys y tocyn ‘Grŵp 4’.
  • Mae’r cynnig hwn ar gael ar ddiwrnod yr ymweliad yn unig ac mae’n rhaid ei ddefnyddio wrth gatiau mynediad y sw.
  • Mae gan Sw Mynydd Cymru'r hawl i dynnu neu newid y cynnig hwn ar unrhyw adeg, heb rybudd ymlaen llaw.