Allwch chi fynd â beiciau ar drenau TrC?

Gallwch, mae croeso i feiciau ar ein trenau. Efallai na fyddwn ni bob amser yn gallu eu cario yn ystod cyfnodau prysur iawn fel yr awr frys neu yn ystod digwyddiadau.

Mae teithio ar y trên yn ffordd wych o fynd â'ch beic ar deithiau hirach. P'un a ydych chi'n teithio i'r gwaith neu'n cychwyn ar antur feicio, mae'r trên yn ddiogel, yn gyfleus ac yn gyflym.

Mae hefyd modd i chi gadw lle ar gyfer beiciau ar rai o'n gwasanaethau i helpu i gael gwared ar yr helynt pan fyddwch chi ar eich taith.

 

Rheolau ar gyfer beiciau ar drenau

Dyma'r rheolau ar gyfer mynd â'ch beic ar y trên:

  • Cadwch le os gallwch chi.
  • Efallai na fydd gennym le i'ch beic yn ystod cyfnodau prysur iawn.
  • Ni allwch deithio gyda beiciau tandem, beiciau modur, sgwteri trydan na beiciau tair olwyn am resymau diogelwch.
  • Mae beiciau'n mynd am ddim ar ein trenau.
  • Gwiriwch eich llwybr cyn teithio.
  • Peidiwch â rhwystro drysau na choridorau.
  • Caiff beiciau eu cymryd ar y trên ar eich risg eich hun.

 

Sut ydw i'n cadw lle ar gyfer beic?

Wrth archebu eich tocyn, nodwch eich bod am gadw lle ar feic. Os yw ar gael, byddwch yn cael lle wedi'i gadw, sef caniatâd i fynd â'ch beic ar y trên.

Os na wnewch hyn, gallwch hefyd gysylltu â ni i ofyn le ar gyfer eich beic.

 

Manteision mynd â'ch beic ar y trên

Mae beicio yn dod yn weithgaredd hamdden fwyfwy poblogaidd, ac mae miliynau yn y DU yn ei fwynhau. O ran mynd â'ch beic ar y trên, mae cymaint o fanteision:

  • Gallwch archwilio ymhellach drwy gychwyn ymhellach o gartref.
  • Fel arfer mae'n gyflymach na gyrru.
  • Does dim rhaid i chi gludo'ch beic mewn car.
  • Mae'n ecogyfeillgar.
  • Gallwch gadw lle i’ch beic ar y trên.

 

Awgrymiadau ar gyfer teithio gyda beic ar y trên

Dyma ein prif awgrymiadau ar gyfer mynd â'ch beic ar y trên gyda ni.

  • Cadwch le os gallwch chi.
  • Cyrhaeddwch 15 munud yn gynnar i fynd ar y trên.
  • Casglwch eich archeb ar gyfer lle i feic os oes angen.
  • Gwiriwch ble mae eich lle wedi’i gadw ar y trên.
  • Byddwch yn barod i fynd ar y trên mewn da bryd.
  • Cadwch lygad barcud ar eich beic.

 

Llwybrau beicio gorau yng Nghymru

Mae Cymru yn un o'r lleoedd gorau i feicwyr yn y DU, boed eich bod yn chwilio am lwybr byr hamddenol neu ymarfer corff traws gwlad dwys. Dyma rai o'n hoff leoedd beicio yng Nghymru. Bwriwch olwg ar ein canllaw i lwybrau beicio gorau Cymru i gael gwybod mwy.

  • Llwybr Mawddach - wedi'i leoli yn Eryri, mae'r llwybr 9.5 milltir hwn yn ddelfrydol ar gyfer beicwyr ac mae'n agos at y cledrau rheilffordd.
  • Llwybr Taf - Yn ymestyn o Aberhonddu i Gaerdydd, gellir gwneud y llwybr 55 milltir hwn yn gyfan gwbl neu mewn rhannau i weddu i bob beiciwr sy'n caru cefn gwlad.
  • Parc Arfordirol y Mileniwm - Wedi'i leoli yn Sir Benfro, mae gan y llwybr beicio hwn olygfeydd godidog o lan y môr, sy'n berffaith i deuluoedd.
  • Lôn Eifion - llwybr beicio delfrydol o Gaernarfon a phentref Bryncir.

 

Cwestiynau cyffredin

A allaf fynd â'm beic ar wasanaeth bws yn lle trên?

Bydd yn dibynnu ar y bws penodol a pha mor brysur yw'r gwasanaeth. Fel arfer, byddwch chi'n gallu mynd â beic ar y bws, serch hynny.

Sut ydw i'n gwneud archeb beic?

Wrth brynu eich tocyn, cadwch eich lle drwy ddewis yr opsiwn sy’n dweud bod gennych feic.

Ydy hi'n rhad ac am ddim mynd â beic ar drên?

Ydy, does dim costau ychwanegol i fynd â'ch beic ar y trên.

A allaf fynd â beic tandem ar drên?

Na, dydych chi ddim yn gallu mynd â beic tandem oherwydd problemau lle.

A allaf fynd â beic sy’n plygu ar y trên?

Gallwch, does dim gofynion os ydych chi'n teithio gyda beic sy’n plygu.

A allaf adael fy meic yn yr orsaf?

Gallwch, gallwch adael eich beic yn y rhan fwyaf o orsafoedd yng Nghymru a gweddill y DU. Gwnewch yn siŵr eich bod yn diogelu eich beic cyn ei adael.