Yn bwriadu teithio’r Nadolig hwn? Y trên mae’n debyg fydd un o’r opsiynau gorau i chi. Mae’n gyflym, cyfleus, fforddiadwy a ddim yn dod gyda’r hasl o yrru yn ystod un o’r cyfnodau prysuraf yn y flwyddyn.

Cyn teithio, cofiwch gynllunio eich siwrne - mae gan ein canllaw Nadolig lwyth o syniadau a chyngor, o gyrraedd ble’r ydych am fynd i arbed arian.

 

Amserlenni trên Nadolig

Gall amserlenni trên amrywio dros gyfnod y Nadolig. Defnyddiwch ein cynllunydd teithiau i gadarnhau’r gwasanaeth cyn prynu eich tocynnau trên. Gallwch hefyd gadarnhau unrhyw waith trwsio rheilffyrdd i weld a allai effeithio ar eich taith drên.

Oes trenau’n rhedeg ar Noswyl Nadolig?

Oes, mae’r rhan fwyaf o wasanaethau’n rhedeg ar Noswyl Nadolig, ond mae’r amseroedd trên olaf yn amrywio. Dylech wirio cyn teithio i weld pa drenau sydd orau i’w defnyddio.

Oes trenau’n rhedeg ar Ddydd Nadolig?

Na, nid oes trenau ar Ddydd Nadolig. Nid yw rhwydweithiau rheilffordd cenedlaethol na metros yn rhedeg o hwyr ar Noswyl Nadolig tan y 27ain.

Oes trenau’n rhedeg ar Ddydd San Steffan?

Nid yw’r rhan fwyaf o drenau’n rhedeg ar Ddydd San Steffan. Gallai fod rhai eithriadau: fodd bynnag, maen nhw’n anghyffredin.

 

Sut i arbed ar deithio ar drenau Nadolig

Dyma rai o’n cynghorion gorau i arbed arian wrth deithio adeg y Nadolig:

  • Prynu eich tocynnau’n gynnar - gallwch brynu tocynnau hyd at 12 wythnos ymlaen llaw
  • Edrych ar yr opsiynau cerdyn rheilffordd - gallwch arbed tua ⅓ ar deithiau trên gyda dewis anferth o gardiau rheilffordd gan gynnwys cardiau i bobl ifanc, teuluoedd a phobl 60+ oed
  • Mae gwahanol fathau o docynnau - gallwch arbed gyda’n Tocyn trên teulu, Tocynnau grŵp a mwy
  • Prynu’n uniongyrchol bob tro - prynwch docyn yn uniongyrchol i osgoi ffi weinyddol
  • Teithio ar adegau llai prysur - er bod teithio dros y Nadolig yn brysur, dewiswch docynnau adegau llai prysur i arbed

 

Syniadau am deithio ar drên dros y Nadolig

Dyma rai o’n cynghorion gorau i deithio ar drên y Nadolig hwn:

  • Prynu’n gynnar - prynwch docynnau hyd at 12 wythnos cyn teithio i sicrhau eich tocyn
  • Teithio’n ysgafn - ceisiwch osgoi mynd â gormod gyda chi, a llai o fagiau
  • Archebu eich sedd - ar wasanaethau lle y gallwch, cofiwch archebu sedd i osgoi sefyll
  • Cyrraedd yr orsaf yn gynnar - yn enwedig wrth deithio gyda phlant, gall cyrraedd yn gynnar i’r trên fod o fantais, yn enwedig ar adegau prysur
  • Archebu teithio gyda chymorth - os oes angen cofiwch archebu teithio gyda chymorth mor gynnar â phosib
  • Gwirio cyn teithio - gwiriwch unrhyw ddiweddariad trên cyn teithio a chwiliwch am unrhyw beth allai darfu ar eich siwrne
  • Cynllunio eich cysylltiad - p’un ai’n dal bws neu’n cael lifft o’r orsaf, cofiwch gadarnhau manylion eich siwrne gysylltu
  • Cadw pawb yn ddifyr - p’un ai’n teithio ar ben eich hun neu fel teulu, gallech lawrlwytho ffilm Nadoligaidd, trefnu gweithgaredd ddifyr i’r trên neu gynllunio gêm Nadoligaidd i gadw pawb rhag diflasu ar y siwrne

 

Pam teithio ar drên adeg y Nadolig?

Mae’r trên yn ffordd berffaith i fynd adref am y Nadolig neu i ymweld â ffrindiau a theulu. Dyna pam ei bod yn un o’r adegau prysuraf yn y flwyddyn. Dyma’r rhesymau gorau i gymryd y trên:

  • Osgoi’r traffig - cael blaen ar y traffig i deithio’n ddi-hasl
  • Dim cyfyngu ar fagiau - ni fyddwch mor brin o le, delfrydol os bydd gennych anrhegion
  • Suddo i’ch sedd ac ymlacio - gan fwynhau golygfeydd godidog Cymru a’r DU ar y daith
  • Mae’n ecogyfeillgar - mynd ar drên yw un o’r ffyrdd mwyaf ecogyfeillgar i deithio
  • Mwy o amser sbâr - gallwch ddefnyddio’r amser ar y trên i ysgrifennu cardiau Nadolig neu lapio ambell i anrheg munud olaf

 

Pryd alla i brynu tocyn trên am y Nadolig?

Mae tocynnau trên yn cael eu rhyddhau hyd at 12 wythnos ymlaen llaw, felly gallwch brynu eich tocyn Nadolig o tua’r 20fed Medi ymlaen.