Portffolio ffilmio a ffotograffiaeth
Bwrwch olwg ar ein detholiad o fannau amlbwrpas sydd ar gael ar gyfer ffilmio a ffotograffiaeth.
Gorsaf drenau Y Fenni
Safle hanesyddol ger bryniau hardd Sir Fynwy. Mae ei phensaernïaeth draddodiadol a’r platfformau llydan yn cynnig cefndir amlbwrpas ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu, gyda golygfeydd cefn gwlad.
Gorsaf drenau Y Barri
Dyma orsaf arfordirol fywiog gyda chymysgedd o nodweddion hanesyddol a modern. Wedi’i leoli ger y glannau, mae’n cynnig cefndir unigryw ar gyfer ffilmio gyda mynediad hawdd, platfformau llydan ac awyrgylch bywiog y dref.
Gorsaf drenau Caerdydd Canolog
Prif ganolfan reilffordd prifddinas Cymru. Mae’r orsaf hon yng nghanol y ddinas yn cyfuno pensaernïaeth hanesyddol â chyfleusterau modern. Mae ei chyntedd mawr, ei phlatfformau eang a’i blaen Art Deco unigryw yn creu lleoliad hyblyg ar gyfer amrywiaeth o gynyrchiadau teledu a ffilm.
Gorsaf drenau Caer
Adeilad rhestredig Gradd II sy’n cyfuno amwynderau modern â phensaernïaeth Fictoraidd hanesyddol. Mae ei chymeriad unigryw a’i hygyrchedd yn ei gwneud yn lleoliad delfrydol ar gyfer prosiectau ffilmio.
Gorsaf drenau Llanelli
Gorsaf ranbarthol groesawgar gyda chymysgedd o gyfleusterau modern a phlatfformau agored. Wedi’i leoli’n agos at arfordir de Cymru, mae’n lleoliad hyblyg a hygyrch ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ffilmio.
Gorsaf drenau Llandrindod
Gorsaf Fictoraidd yng nghanolbarth Cymru. Fe’i hadeiladwyd yn 1865, ac mae’n cynnwys platfformau clasurol a canopïau pensaernïaeth brics ac amgueddfa blychau signalau wedi’i hadfer. Mae’r orsaf yn cynnig cefndir godidog, sy’n ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau cyfnod neu gynyrchiadau ar thema wledig.
Gorsaf drenau Castell-nedd
Gorsaf ranbarthol sy'n cynnwys cymysgedd o amwynderau cyfoes a phlatfformau mawr. Mae wedi’i leoli yng nghanol Castell-nedd, ac mae’n lleoliad hwylus a hygyrch ar gyfer amrywiaeth o brosiectau ffilmio.
Gorsaf drenau Casnewydd
Canolfan drafnidiaeth fodern a phrysur gyda nodweddion pensaernïol unigryw a phlatfformau eang ac agored. Wedi’i lleoli yng nghanol y ddinas, mae’n cynnig lleoliad trefol amlbwrpas, sy’n ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau ffilm a theledu cyfoes.
Gorsaf drenau Parcffordd Port Talbot
Mae Parcffordd Port Talbot yn cynnig nodweddion modern sy’n agos at y dref a’r diwydiant lleol.
Gorsaf drenau Abertawe
Agorwyd yr orsaf yn wreiddiol ym 1850 ac ers hynny mae wedi cael ei hadnewyddu a’i hymestyn sawl gwaith dros y blynyddoedd. Mae’n cynnwys pedwar platfform ac yn darparu cysylltiadau allweddol â chyrchfannau fel Caerdydd Canolog a Llundain Paddington.
Gorsaf drenau Wrecsam
Canolfan drafnidiaeth hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Cymru, a agorwyd yn wreiddiol yn 1846 ac a ailadeiladwyd yn 1912. Mae’r orsaf yn cynnig cymysgedd o swyn hanesyddol a modern, sy’n ei gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau sy’n chwilio am leoliad rheilffordd trefol neu dreftadaeth amlbwrpas.