Her Trafnidiaeth Cymru
Dechreuodd rhaglen sbarduno Labordy Trafnidiaeth Cymru drwy nodi rhestr o ddatganiadau herio yr oedd Trafnidiaeth Cymru am eu goresgyn er mwyn gwella profiad cwsmeriaid ar draws y sector rheilffyrdd. Yna, rhoddwyd y rhestr hon o ddatganiadau herio i fusnesau newydd a gofynnwyd iddynt roi ateb ymarferol.
Mae Briteyellow wedi bod yn mapio mannau dan do y byd ers 2003, gan obeithio dod â mwy o eglurder a dealltwriaeth i’r byd cyfagos drwy feddalwedd a chynnyrch technoleg, sy’n meithrin cysylltiadau gwell rhwng pobl a llefydd. Eu nod yw rhoi ateb cyflawn o’r dechrau i’r diwedd ar gyfer lleoli, llywio, ac olrhain, sydd wedi’i addasu’n llawn ar gyfer eich amgylchedd chi, wrth fod yn gost effeithiol ac wedi’i deilwra’n benodol i weithio ar eich cyfer chi.
Roedd eu hateb wedi sicrhau bod yna well cyfathrebu am gyfleusterau ac argaeledd gorsafoedd, er mwyn galluogi cwsmeriaid i ddod o hyd i staff a rhyngweithio â nhw’n rhwydd, wrth helpu i leihau straen i deithwyr a hybu hunan-wasanaeth ar yr un pryd. Fe wnaethant benderfynu y gallent ateb y broblem hon yn dilyn cyfweliadau darganfod gyda chwsmeriaid, aelodau o’r panel hygyrchedd a chynhwysiant, aelodau o dîm Trafnidiaeth Cymru yn amrywio o lysgenhadon cwsmeriaid i staff refeniw, a phartneriaid cymorth teithwyr (Journey Call).
Pam Labordy Trafnidiaeth Cymru?
Ymunodd y tîm yn Briteyellow â rhaglen sbarduno Labordy Trafnidiaeth Cymru, gan ei weld fel cyfle gwych i ddatblygu eu sgiliau datblygu cynnyrch, gyda’r gobaith o symud ymlaen i gontract i dreialu gyda Trafnidiaeth Cymru a chreu partneriaeth â Keolis Amey.
Datblygu a chefnogi
Drwy gydol y rhaglen, bu ein tîm cyflawni arloesedd yn gweithio gyda Briteyellow ar y cyd i’w helpu i ddeall y canlynol yn fwy manwl:
Dilysu cynnyrch
Pa mor addas yw’r cynnyrch i'r farchnad
Methu’n fuan, methu’n ddoeth, a methu’n rhad
Canolbwyntiwch ar y cwsmer, nid y cystadleuydd
Sut mae defnyddio’r Pyramid Cychwyn Busnes Main
Sut mae defnyddio’r Canfas Model Busnes
Sut i ddatblygu persona’r cwsmer perffaith
Pam mae cynnyrch yn methu (Er enghraifft, “Gweddi, nid strategaeth yw meddwl os yr adeiladwch ef, fe ddaw’r bobl”)
Drwy wneud hyn, llwyddodd Briteyellow i gynnal cyfweliadau darganfod cwsmeriaid er mwyn rhoi darlun dyfnach iddynt o fannau problemus Trafnidiaeth Cymru a’u helpu i ganolbwyntio ar y cyfleoedd i'w cynnyrch.
Yr ateb
Roedd y cynnyrch terfynol a gyflwynwyd gan Briteyellow i Trafnidiaeth Cymru’n brawf o gysyniad a ffurfiodd i fod yn AP a dangosfwrdd i wella profiad staff ac effeithlonrwydd i deithwyr. Mae’r cynnyrch hwn wedi helpu i ddatrys datganiad herio Trafnidiaeth Cymru drwy roi rhith-daith i gwsmeriaid o’r cyfleusterau cynllunio teithiau, gyda chanllawiau gweledol, lleisiol a chyffyrddiadol realiti estynedig mewn gorsafoedd i’w helpu i ganfod y ffordd yn well. Gyda mewnwelediad i leoliadau yn rhoi gwybodaeth i’r dorf a staff a chwsmeriaid yn gallu olrhain lleoliadau, byddai hyn yn gwella profiad cyffredinol y rheilffyrdd i gwsmeriaid a staff.
Roedd y posibilrwydd na fyddai defnyddwyr terfynol neu staff yn defnyddio'r cynnyrch os nad oedd yn addas iawn yn risg i Briteyellow. Ar ben hynny, gallai rhan allweddol o’u platfform technoleg gael ei disodli gan gystadleuwyr byd-eang, neu golli eu Heiddo Deallusol.
Cafodd prawf cysyniad yr AP a’r dangosfwrdd eu profi a’u dilysu’n llwyddiannus drwy ragor o arddangosiadau i gwsmeriaid a staff.
Y canlyniad
Erbyn diwedd y rhaglen, roedd Briteyellow yn falch iawn o fod ymysg y busnesau newydd buddugol ac yn edrych ymlaen at ddatblygu’r cynnyrch hwn i’w weithredu gyda Trafnidiaeth Cymru, ac i gydweithio ymhellach â Keolis Amey.
Ers cwblhau’r rhaglen, mae Briteyellow wedi dweud eu bod yn hapus â phopeth roeddent wedi’i gyflawni drwy gydol y rhaglen ac y byddent yn ei argymell i unrhyw fusnes newydd arall sydd â syniad i helpu i drawsnewid profiad rheilffyrdd Cymru.
Gwneud cais am garfan 5 |
Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol |