Spatial Cortext logo

Daeth technoleg Spatial Cortex i’r brig fel enillydd carfan 2 am eu cynnyrch arloesol, MOVA. Mae’r dechnoleg hon y gellir ei gwisgo wedi’i chynllunio i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu staff rheilffyrdd o ran tasgau codi a chario a thrin deunyddiau.

Cafodd nodweddion unigryw a photensial technoleg MOVA eu harchwilio fel rhan o raglen gyflymu TrC i chwyldroi’r diwydiant drwy leihau anafiadau codi a chario. Mae’r bartneriaeth rhwng Spatial Cortex a Labordy Trafnidiaeth Cymru, ynghyd â’u partneriaeth strategol ag Amey, yn tanlinellu arwyddocâd y dechnoleg a’i heffaith ar ddiogelwch staff rheilffyrdd.

 

 

 

Trosolwg MVP a datblygiadau yn y diwydiant

Mae system Technoleg Spatial Cortex, sef MOVA, yn dechnoleg arloesol y gellir ei gwisgo sydd wedi’i datblygu’n benodol ar gyfer staff rheilffyrdd. Ei nod yw lleihau’r risg o anafiadau codi a chario yn ystod tasgau amrywiol, gan gynnwys gwaith ar ochr y cledrau, gweithrediadau depos, a gweithgareddau cynnal a chadw. Mae cynnig unigryw MOVA yn ymwneud â’i gallu i ddarparu asesiadau meintiol a dealltwriaeth ddofn, gan ragori ar gyfyngiadau arferion asesu risg presennol.

 

Pecyn gwaith 1 a 2: Newid trawstiau a thasgau fflyd

Fe wnaeth y bartneriaeth rhwng Spatial Cortex a TrC gynnal Pecyn Gwaith 1 a 2 i werthuso effeithiolrwydd MOVA. Canolbwyntiodd Pecyn Gwaith 1 ar senario newid trawstiau, gan archwilio sut y gallai offer ychwanegol wedi’u hintegreiddio â MOVA leihau’r straen ar asgwrn cefn person yn ystod y dasg.

Roedd yr asesiad hwn yn dangos potensial MOVA o ran gwella diogelwch gweithwyr ac ergonomeg. Roedd Pecyn Gwaith 2 yn ehangu’r gwerthusiad i gynnwys tasgau fflyd, gan ganolbwyntio ar newidiadau i’r brêcs, gweithgareddau glanhau a siyntio. Roedd technoleg MOVA yn dangos ei hyblygrwydd a’i effeithiolrwydd ar draws amrywiaeth o dasgau rheilffyrdd cyffredin, gan roi cipolwg gwerthfawr ar leihau anafiadau codi a chario.

 

Partneriaeth strategol ag Amey

Arweiniodd llwyddiant Spatial Cortex a photensial MOVA at bartneriaeth strategol ag Amey. Mae’r cydweithrediad hwn yn arwydd bod y diwydiant yn cydnabod effaith bosibl y dechnoleg ar wella diogelwch staff rheilffyrdd.

Mae’r bartneriaeth ag Amey yn rhoi cyfle i Spatial Cortex ddatblygu MOVA ymhellach ac archwilio ei berthnasedd ar draws gwahanol sefyllfaoedd dros y 12 mis nesaf. Mae’r cydweithrediad rhwng Spatial Cortex ac Amey yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau parhaus ym maes diogelwch staff rheilffyrdd ac atal anafiadau codi a chario.

 

Rhagolygon ar gyfer y dyfodol gyda TrC

Arweiniodd llwyddiant Spatial Cortex a photensial MOVA at bartneriaeth strategol gydag Amey. Mae’r cydweithrediad hwn yn arwydd bod y diwydiant yn cydnabod effaith bosibl y dechnoleg ar wella diogelwch staff rheilffyrdd.

Mae’r bartneriaeth ag Amey yn rhoi cyfle i Spatial Cortex ddatblygu MOVA ymhellach ac archwilio ei berthnasedd ar draws gwahanol sefyllfaoedd dros y 12 mis nesaf. Mae’r cydweithrediad rhwng Spatial Cortex ac Amey yn paratoi’r ffordd ar gyfer datblygiadau parhaus ym maes diogelwch staff rheilffyrdd ac atal anafiadau codi a chario.

Mae Trafnidiaeth Cymru, sydd wedi’i ysbrydoli gan ganlyniadau cadarnhaol y bartneriaeth â Spatial Cortex, yn edrych ar gytundeb tebyg gyda nhw. Mae hyn yn dangos eu hyder yng ngallu MOVA i wella arferion codi a chario a gwella diogelwch gweithwyr. Mae’r cydweithrediad arfaethedig rhwng Spatial Cortex a TrC yn arwydd o ymrwymiad y sefydliad i flaenoriaethu llesiant a diogelwch eu staff rheilffyrdd.

 

 

 

 

 

Gwneud cais am garfan 5, dyddiad cau ar gyfer ceisiadau - 16 Mehefin.

Ymgeisiwch
nawr

 

 

 

 

Cysylltwch â ni ar gyfryngau cymdeithasol