A view of the Harlech landscape on a cloudy day

Peidiwch â gadael i'r car yrru eich diwrnod

Tref sy'n llawn hanes a harddwch naturiol. Lleolir Harlech o fewn Parc Cenedlaethol Eryri ac mae’n gartref i Safle Treftadaeth y Byd UNESCO, Castell Harlech.

 

Rhaid gweld

Castell Harlech  - Mae'n rhaid ymweld pan yn Harlech. Mae’r gaer arfordirol nerthol hon yn ymestyn dros dref Harlech, o fewn lleoliad arfordirol godidog Cymru. Ewch yno ar y trên a mwynhewch fynediad 2-am-1 pan fyddwch yn dangos eich tocyn trên diwrnod dilys yn y swyddfa docynnau.

Traeth Harlech - Eisiau ychydig o heddwch a thawelwch? Mae’r traeth heddychlon hwn, sydd wedi’i amgylchynu gan dwyni o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, yn lle perffaith i ymweld â hi boed law neu hindda. Mwynhewch olygfeydd panoramig o'r arfordir, dewrwch am dro ym Môr Iwerddon neu mwynhewch awyr iach y môr.

 

Oeddet ti'n gwybod?

Gallwch gael mynediad 2 am 1 ym mhob un o safleoedd Cadw y telir amdano gyda’ch tocyn trên, felly gallwch fwynhau mwy am lai pan ewch ar y trên. Peidiwch â gadael i'r car yrru eich diwrnod, darganfod mwy.

 

O’r rheilffordd i’r llwybr: Penwythnos cerddwyr yn Harlech

Llwybr Branwen - Mae llwybr dwy filltir Branwen yn ffordd berffaith o ddarganfod Harlech, gan fynd â chi drwy fryniau serth a lonydd troellog Harlech cyn cyrraedd Castell Harlech Edwardaidd. Os ydych am barhau ar ôl hynny, gallwch ddilyn y daith gerdded i ‘Morfa Harlech’, lle gallwch fwynhau darn syfrdanol o arfordir gyda thraethau godidog a golygfeydd mynyddig.

Llwybr Arfordir Cymru - Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi gael mynediad i Lwybr Arfordir Cymru o Harlech? Dilynwch y llwybr tuag at Bensarn i fwynhau golygfeydd o’r arfordir a’r wlad. Os ydych yn chwilio am daith gerdded hirach, gallwch gerdded y 12 milltir ymlaen i bentref Dyffryn Ardudwy, ymweliad perffaith i bobl sy’n dwli ar hanes. Mae gan y ddau lwybr orsafoedd rheilffordd, sy'n rhoi'r dewis i deithio yn ôl i Harlech ar y trên naill ai ar ddiwedd eich taith, neu cyn hynny.

Gellir dod o hyd i deithiau cerdded llawn yma.