Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd coch o wres eithafol rhwng 09:00 ddydd Mercher 24 Mehefin a 21:00 ddydd Iau 25 Mehefin ar draws rhannau o Ganolbarth Lloegr, De Cymru a De Lloegr.
Gallai'r tymheredd gyrraedd hyd at 38°C, sy'n debygol o achosi tarfu sylweddol i wasanaethau trenau.
Gwiriwch eich taith cyn cychwyn gan ddefnyddio ein map byw, ap neu wefan. Caniatewch amser ychwanegol gan y gall teithiau gymryd mwy o amser nag arfer a chofiwch ddod a photel o ddŵr gyda chi ag yfed digon o ddŵr hefyd. Os ydych chi'n teimlo'n sâl, gofynnwch am gymorth gan staff ar y trên neu staff yr orsaf.
Digwyddiadau Blackweir Live
Cynhelir cyfres o gyngherddau byw yn Blackweir yr haf hwn:
The Cure
Dydd Mercher 24 Mehefin 2026
Teddy Swims
Dydd Gwener 26 Mehefin 2026
Lewis Capaldi
Dydd Mawrth 30 Mehefin 2026
Dydd Mercher 01 Gorffennaf 2026
Pitbull
Dydd Sadwrn 04 Gorffennaf 2026
Disgwylir i wasanaethau fod yn hynod o brysur ar y dyddiadau uchod felly sicrhewch fod yna ddigon o amser ar gyfer eich teithiau.
Newidiadau gorsaf
Bydd gorsaf Cathays ar gau o 22:00 ar gyfer holl ddigwyddiadau Blackweir. Bydd y bont droed yn yr orsaf hefyd ar gau.
Trefniadau ciwio
Disgwylir i wasanaethau fod yn brysur, felly efallai y bydd angen i chi aros mewn rhes ar Sgwâr Canolog ger Gorsaf Caerdydd Canolog wedi’r digwyddiad. Gall cwsmeriaid Caerdydd, y cymoedd a Bro Morgannwg ddefnyddio naill ai Heol y Frenhines Caerdydd neu Gaerdydd Canolog.
Meysydd parcio
Ni fydd unrhyw feysydd parcio ar gau ar gyfer y digwyddiadau hyn.
Cyfnewidfa Fysiau Caerdydd
Bydd y gyfnewidfa yn parhau i fod ar agor ar gyfer holl ddigwyddiadau Blackweir, ond efallai y bydd dargyfeirio ar waith felly rydym yn eich cynghori i edrych ar wefan gweithredwyr unigol am fanylion.
Gwelliannau i'r gwasanaeth
Mae ein timau wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau gwasanaethau trên ychwanegol i'ch helpu cyrraedd adref yn ddiogel.
Dyma'r gwasanaethau ychwanegol a ddarperir ar gyfer digwyddiadau Blackweir rhwng 24/06/26-04/07/26.
- The Cure (24/06/26): nifer y gwasanaethau ychwanegol = 16
- Teddy Swims (26/06/26): nifer y gwasanaethau ychwanegol = 16
- Lewis Capaldi (30/06/26): nifer y gwasanaethau ychwanegol = 16
- Lewis Capaldi (01/07/26): nifer y gwasanaethau ychwanegol = 16
- Pitbull (04/07/26): nifer y gwasanaethau ychwanegol = 15
- CYFANSWM o 79 gwasanaeth ychwanegol ar gyfer y 5 digwyddiad Blackweir.
Ar ôl y digwyddiad
|
| Prynwch cyn teithioRhaid i chi brynu eich tocyn cyn mynd ar y trên. I arbed amser wedyn, prynwch docyn dwyffordd ar eich ffordd i mewn. Gallwch hefyd brynu’ch tocyn ar yr ap TrC neu ar wefan trc.cymru. Bydd Arolygwyr Diogelu Refeniw yn archwilio tocynnau cyn ac ar ôl y digwyddiad. |
|
| Diogelwch y cyhoeddBydd unrhyw un sydd dan ddylanwad alcohol sy'n cael ei ystyried yn fygythiad i'w diogelwch ei hun neu i ddiogelwch y cyhoedd yn cael ei atal rhag teithio. |
|
| Bydd unrhyw un sy’n defnyddio iaith ddifrïol neu ymddygiad bygythiol tuag ein cwsmeriaid neu ein cydweithwyr yn cael ei atal rhag teithio. |
Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau
Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.