Ymweld â’r Eisteddfod? 

Pontypridd, 3-10 Awst.
I osgoi’r ffws, ewch ar drên, beic neu’r bws.

Pleser o’r mwyaf yw croesawu’r Eisteddfod Genedlaethol i Bontypridd. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r Eisteddfod a'r cyngor lleol i sicrhau y gallwch gynllunio eich taith a chael yr opsiwn i adael y car gartref.

Am ragor o wybodaeth am yr Eisteddfod, cliciwch yma: Eisteddfod.

Bydd traffig a pharcio ym Mhontypridd yn anodd yn ystod y digwyddiad, gyda disgwyl i nifer fawr o geir fynd i mewn ac allan o’r dref. Rydym yn argymell defnyddio opsiwn trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy yn lle defnyddio’r car er mwyn osgoi'r straen o yrru.

 

Teithio yno ar y trên

O fewn ardal metro De Cymru, rydym yn darparu trenau ychwanegol yn ystod wythnos yr Eisteddfod a fydd yn rhedeg o Gaerdydd i Bontypridd tan ddiwedd y digwyddiad olaf bob nos.

Mae gorsaf drenau Pontypridd yn gwasanaethu'r ŵyl ac wedi’i lleoli 5 munud ar droed i/o’r Maes a 25 munud ar droed i / o Faes B.

Mae trenau'n rhedeg yn uniongyrchol o Gaerdydd Canolog i Ferthyr Tudful, Aberdâr a Threherbert, a phob un yn galw ym Mhontypridd, ac os ydych yn bwriadu teithio o Ben-y-bont ar Ogwr, Ynys y Barri, Penarth neu Rymni, bydd angen i chi newid yng ngorsafoedd Caerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

Archebwch eich tocyn yma.

 

Teithio yno ar y bws

Mae gorsaf fysiau Pontypridd 5 munud ar droed o'r ŵyl. Gwasanaethir y dref yn dda iawn gan wasanaethau bws lleol a rhanbarthol.

Gallwch gynllunio eich taith gyfan gan ddefnyddio cynllunydd teithiau Traveline Cymru.

 

Teithio yno ar feic neu ar droed

Os ydych chi'n byw neu’n aros yn lleol, beth am gerdded neu feicio i Barc Coffa Ynysangharad gan ddefnyddio'r llwybrau cerdded a beicio pwrpasol yn y dref a’r ardal gyfagos?

 

Hygyrchedd

Cynghorir pobl sydd â symudedd cyfyngedig sy'n cyrraedd mewn car i ddefnyddio maes parcio’r gogledd yn Abercynon, lle bydd cerbyd â llawr isel yn eich cludo i'r ŵyl. Gweler y dudalen parcio a theithio am ragor o wybodaeth am gadw lle yn y maes parcio.

Os ydych yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, gwiriwch eich trefniadau yma.

 

Map teithio

Eisteddfod Ticket Holder Map

Mae rhagor o wybodaeth ynglŷn â chyrraedd y digwyddiad ar gael ar wefan Rhondda Cynon Taf - Teithio i’r Eisteddfod | Eisteddfod 2024 Rhondda Cynon Taf (rctcbc.gov.uk).

 

Cadw ein cwsmeriaid yn ddiogel yn ystod digwyddiadau

Gall digwyddiadau mawr olygu bod mwy o bobl nag arfer yn defnyddio ein gwasanaethau. Byddwn yn cymryd camau ychwanegol i gadw ein cwsmeriaid i deithio’n ddiogel ac yn ddibynadwy.