Mae Nadolig yng Nghymru’n llawn cymeriad. Meddyliwch am y Fari Lwyd yn curo ar y drws, taffi’n berwi ar y stôf, carolau cyn codi ac, i’r dewr, ymdrochi yn nŵr oer y môr. A Siôn Corn ar ben hynny, felly’r holl gynhwysion am Nadolig Cymreig go iawn. Nadolig Llawen!
Traddodiadau Nadolig Cymreig diddorol
Mae gan y Nadolig yng Nghymru hanes cyfoethog o draddodiadau, a’r dathlu unwaith yn para ymhell ar ôl Dydd Nadolig. Yn y 19eg ganrif, y Nadolig oedd dechrau’r ‘Gwyliau’, cyfnod pan fyddai gwaith y fferm yn dod i stop a chymunedau’n dod at ei gilydd i ddathlu. O arferion sy’n ganrifoedd oed i draddodiadau mwy modern dros yr ŵyl, dyma rai o’n hoff ffyrdd o fynd i ysbryd y Nadolig yng Nghymru.
Y Fari Lwyd
Traddodiad o Dde Cymru pan fydd pobl yn gwisgo penglog ceffyl, cynfas wen a rhubanau lliwgar. Mae’r ceffyl yna’n cael ei arwain o dŷ i dŷ a’r preswylwyr yn adrodd barddoniaeth i’w gilydd ac weithiau’n canu carolau. Y gred oedd bod croesawu’r Fari Lwyd i’ch cartref yn argoeli lwc dda am y flwyddyn i ddod.
Ymdrochi yn y môr ar Ddydd Nadolig a San Steffan
Ymunwch â’r torfeydd sy’n cofleidio’r oerni eleni drwy ymdrochi yn y môr ar Ddydd Nadolig neu San Steffan. Ar draws y wlad, mae cannoedd o bobl yn mynd i’r môr am nofiad sydyn, gyda phobl yn ymdrochi yn y môr ym Mhorthcawl ers hanner can mlynedd. Mae rhai’n ei wneud i godi arian i elusen, eraill am y profiad, a digon o bobl yn gwylio.
Ymweliad gan Siôn Corn
Yr enw Cymraeg ar Santa yw Siôn Corn neu ‘Mr Corn’ sy’n cyfeirio at y corn y mae’n ei ddefnyddio i fynd i mewn i gartrefi. Byddai Mr Corn yn sicrhau bod plant yn ymddwyn eu gorau ac yn eu gwelyau’n gynnar. Os byddent, byddai’n dod ag anrhegion i helpu i ddathlu.
Noson Gyflaith - gwneud taffi ar Noswyl Nadolig
Yn aml iawn ar Noswyl Nadolig, byddai teuluoedd yn dod at ei gilydd i wneud taffi. Roedd y taffi’n cael ei ferwi mewn sosban ar y tân, cyn ei ddarnio a’i fwynhau fel teulu. Dod â phobl at ei gilydd oedd pwrpas y noson daffi, gyda theuluoedd a ffrindiau’n ymgynnull i chwarae gemau, dweud straeon a mwynhau’r hwyl cyn Dydd Nadolig.
Weithiau, byddai’r noson yn parhau tan yr oriau mân pan fyddai pobl yn mynd i wasanaeth Plygain gyda’i gilydd.
Profi’r Plygain
Ar draws Cymru i lawer, Nadolig oedd codi’n gynnar neu noson hwyr cyn mynd i wasanaeth Plygain yn yr eglwys. Fe’i cynhelid fel arfer rhwng 3 a 6 y bore, gan gynnwys canu carolau digyfeiliant, yn aml yng ngolau cannwyll.
Teithio dros y Nadolig hwn? Prynwch docynnau trên yn uniongyrchol i osgoi ffi archebu.