De/Gorllewin Cymru

Yn Ne a Gorllewin Cymru mae llawer o'n gorsafoedd yn gweithredu fel porth i Lwybr Arfordir Cymru. Rydym wedi nodi rhai llwybrau allweddol isod:

 

Gorsafoedd porth Llwybr Arfordir Cymru

Dinbych-y-pysgod

O’r orsaf, ewch i’r de i ddarganfod olion castell Dinbych -y-Pysgod ar y pentir a Thraeth y De, ac yna ymlaen i Benalun, Lydstep a Maenorbŷr. Os nad ydych chi eisiau cerdded y daith gron gallwch neidio ar y trên i ddychwelyd o Benalun neu Faenorbŷr.

Glanyfferi

Ewch oddi ar y trên yma i dreulio diwrnod yn crwydro bro amaethyddol wledig Sir Gaerfyrddin. Cyn gadael Glanyfferi, cofiwch fwynhau’r golygfeydd ar draws Aber Tywi i Lansteffan gyda’i draeth a’i gastell. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru ar y ffordd o flaen yr orsaf drenau.

Caerfyrddin

Mae llwybrau caeau tonnog, llwybrau gwledig ac isffyrdd yn bennaf yn arwain i lawr ochr orllewinol Aber Afon Tywi i bentref tawel Llansteffan gyda’i gastell adfeiliedig a’i draeth tlws. Yn y cyfamser mae ochr ddwyreiniol yr aber, a oedd unwaith allan o Gaerfyrddin, yn archwilio cymoedd ac ucheldiroedd cefn gwlad Sir Gaerfyrddin. Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru o flaen yr orsaf.

Abergwaun ac Wdig

Cerdded ysblennydd ar ben y clogwyni yw trefn y dydd ar Lwybr Arfordir Cymru yma, p’un a ydych yn mynd i’r gogledd drwy Bentref hardd Abergwaun tuag at Gasnewydd neu i’r gorllewin allan i’r pentir tuag at y goleudy godidog, anghysbell ym Mhen Strwmbwl.

Trowch i'r dde allan o'r orsaf i lawr Allt yr Orsaf. Pan gyrhaeddwch gylchfan trowch i'r chwith tuag at y môr a Llwybr Arfordir Cymru. Mae dim ond 0.1 milltir / 0.2 cilomedr o’r orsaf.

Abertawe

Ymunwch â Llwybr Arfordir Cymru yma i gael taith gerdded gwastad o Farina Abertawe o amgylch Bae Abertawe i bentref glan môr hyfryd y Mwmbwls.  Neu ewch i’r dwyrain drwy’r gwaith parhaus o ailddatblygu’r marina a’r brifysgol ac ar hyd Camlas Tennant, sy’n segur. I fynd ar y llwybr, cerddwch 0.9 milltir / 1.5 cilomedr yn syth o orsaf Abertawe i lawr y Stryd Fawr, gan fynd heibio olion Castell Abertawe ar y chwith i chi. Ewch ymlaen i lawr Wind Street, gan groesi dros yr A4067 brysur ac i lawr Somerset Place i groesi Afon Tawe dros y bont droed. Ewch yn syth ymlaen i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yng nghornel pigfain Doc Tywysog Cymru.

Gorsaf Bae Caerdydd

Dewch oddi ar y trên yn Bae Caerdydd ac ymuno â Llwybr Arfordir Cymru yn syth ar draws y ffordd ar Rodfa Lloyd George. O’r fan hon gallwch ddewis dilyn rhan boblogaidd o’r llwybr heibio Canolfan Mileniwm Cymru, y Senedd a thros y morglawdd llanw tuag at Benarth (lle gallwch ddal trên yn ôl i orsaf Caerdydd Canolog). Neu, gallwch groesi i Heol Hemingway i ymuno â’r llwybr sy’n mynd tuag at y morglawdd hir unig i Gasnewydd.

Ynys y Barri

Mae Llwybr Arfordir Cymru yn pasio o flaen gorsafoedd rheilffordd Ynys y Barri a’r Barri. O’r Barri, trowch i’r chwith i ddarganfod hyfrydwch Ynys y Barri, neu i’r dde i anelu tuag at Benarth. O Ynys y Barri, cerddwch i lawr i lan y môr a mwynhau teithiau cerdded pentir naill ai drwy droi i’r chwith neu i’r dde.

Cas-gwent

Mae Cas-gwent ym mhen deheuol Llwybr Arfordir Cymru, ac ni allai gorsaf reilffordd Cas-gwent fod yn fwy cyfleus fel pwynt mynediad i’r llwybr. Ewch yn syth i lawr Station Road o’r orsaf i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru ger archfarchnad Tesco. Mae castell gwych sy’n 600 mlwydd oed yn tremio dros dref farchnad hyfryd Cas-gwent, a gallwch gael mynediad 2 am bris 1 i safleoedd CADW gyda’ch tocyn trên, felly beth am fwynhau’r castell a Llwybr Arfordir Cymru ar yr un diwrnod?

Aberdaugleddau

O Aberdaugleddau, ewch i'r gorllewin tuag at Sandy Haven hardd neu i'r dwyrain ar ran annisgwyl o'r llwybr sy’n ymddangos pe bai’n osgoi llawer o ddiwydiant yr aber. I gyrraedd y llwybr, trowch i'r chwith allan o'r orsaf, gan sicrhau bod archfarchnad Tesco dros y ffordd ar y dde i ymuno â Llwybr Arfordir Cymru wrth y gylchfan mewn 0.1 milltir / 0.2 cilometr.

 

Llwybr Clawdd Offa TAITH BYR

Cas-gwent i Sedbury 

Golygfeydd gwych dros Aber Hafren o ddechrau/diwedd Clawdd Offa yng Nghlogwyn Sedbury a’r cyfle i archwilio hud a lledrith Castell Cas-gwent.

Taith gylchol Cas-gwent i Dyndyrn

Castell Cas-gwent hanesyddol, adfeilion Abaty Tyndyrn,  Diafol y Pulpud a dau lwybr cerdded hir, Llwybr Clawdd Offa a Dyffryn Gwy.