Sut bydd y gwaith o drawsnewid y Metro yn effeithio ar eich cynlluniau teithio rhwng Awst a Medi 2025

Mae’r Metro yn cael ei adeiladu’n bwrpasol ar gyfer dyfodol Cymru. Bydd yn ffordd fodern, effeithlon a chynaliadwy o deithio, ond efallai y bydd cyfnodau o newid i’ch cynlluniau teithio dros dro tra byddwn yn ei adeiladu. Lle bo hynny’n bosibl, rydyn ni’n trefnu bod y gwaith trawsnewid yn digwydd yn ystod cyfnodau llai prysur er mwyn tarfu cyn lleied â phosibl. Rydyn ni’n cynnig cysylltiadau rhwng gwasanaethau rheilffyrdd a gwasanaethau bysiau.

 

Gwasanaethau bws yn lle’r trenau

Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad y cwsmer. Bydd eich adborth gonest am yr arolwg yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.

 

Newid i wasanaeth | Rhymni - Caerffili - Caerdydd Canolog

Bwriadu teithio ar lein Rhymni rhwng Ebrill - Hydref 2025?

Byddwn yn gwneud gwaith peirianneg fel rhan o waith Metro De Cymru, ac mae gennym gynlluniau i gau’r lein yn hwyr gyda’r nos, ar benwythnosau ac yn ystod yr wythnos ar sawl achlysur yn ystod y cyfnod hwn.

Gwiriwch eich cynlluniau cyn teithio.

O 24 Mawrth, bydd pob gwasanaeth o Gaerffili i Benarth yn rhedeg yn uniongyrchol rhwng Caerffili a gorsaf Caerdydd Heol y Frenhines fel arbrawf, er mwyn helpu i liniaru tarfu yn yr ardal. Os ydych yn teithio i orsaf Llys-faen, Llanisien neu Lefel Uchel y Mynydd Bychan, gwiriwch eich taith ar y sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid.

Rhagor o wybodaeth

Rhymni - Caerffili - Caerdydd Canolog
Rhymni - Caerffili - Caerdydd Canolog

Awst

Caerffili - Rhymni | Dydd Sadwrn 02 Awst - Dydd Gwener 08 Awst, trwy’r dydd
Caerffili - Rhymni
Caerffili - Ystrad Mynach | Dydd Gwener 08 Awst, yn hwyr yn y nos
Caerphilly - Ystrad Mynach
Radur - Caerdydd Canolog trwy Parc Ninian | Dydd Sadwrn 30 Awst - Dydd Llun 01 Medi, trwy’r dydd

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 61, 62 a 63.

Dim gwasanaeth bws yn lle trên ac eithrio yn hwyr nos Dydd Llun 01 Medi.

Radur - Caerdydd Canolog trwy Parc Ninian | Radur - Caerdydd Canolog trwy Llandaf
Canol dinas Caerdydd - Bae Caerdydd | Dydd Sadwrn 30 Awst - Dydd Gwener 05 Medi, trwy’r dydd¹

Bydd llinell Bae Caerdydd ar gau, ni fydd unrhyw drenau'n rhedeg rhwng Caerdydd, Heol y Frenhines a Bae Caerdydd.

 

  • Dydd Sadwrn 30 Awst²
  • Dydd Sul 31 Awst³
  • Dydd Llun 01 Medi - Dydd Gwener 05 Medi²

 

1. Gellir defnyddio tocynnau trên ar wasanaeth rhif 6 Baycar Bws Caerdydd.

2. Hefyd gwasanaeth bws yn lle trên yn y bore / yn hwyr y nos.

3. Hefyd gwasanaeth bws yn lle trên yn hwyr y nos.

 

Gwasanaethau llai aml rhwng Pontypridd a Chaerdydd Canolog:

Oherwydd cau lein Bae Caerdydd, ni fydd trenau rhwng Pontypridd a Bae Caerdydd yn rhedeg. Defnyddiwch wasanaethau eraill sy’n rhedeg rhwng Pontypridd a Chaerdydd Heol y Frenhines neu Gaerdydd Canolog.

Caerdydd Canolog - Bae Caerdydd

Medi

Caerdydd Canolog - Aberdâr / Merthyr | Dydd Llun 01 Medi, yn hwyr yn y nos
Caerdydd Canolog - Aberdâr / Merthyr
Caerdydd Canolog - Pontypridd | Dydd Llun 01 Medi - Dydd Iau 04 Medi, yn hwyr yn y nos
Caerdydd Canolog - Pontypridd
Radur - Caerdydd Canolog trwy Parc Ninian | Dydd Mawrth 02 Medi - Dydd Iau 04 Medi, yn hwyr yn y nos

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 61, 62 a 63.

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Caerdydd Canolog - Coryton | Dydd Sadwrn 06 Medi, trwy’r dydd

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 21, 23, 27.

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Caerdydd Canolog - Coryton
Radur - Caerdydd Canolog trwy Parc Ninian | Dydd Sul 07 Medi, tan ddechrau’r prynhawn

Gellir defnyddio tocynnau trên ar Bws Caerdydd, gwasanaethau 61, 62 a 63.

Dim gwasanaeth bws yn lle trên.

Radur - Caerdydd Canolog trwy Llandaf | Dydd Sul 14 Medi, tan ddechrau’r prynhawn
Radur - Caerdydd Canolog trwy Parc Ninian | Radur - Caerdydd Canolog trwy Llandaf
Teithio - Cwestiynau Cyffredin

Pa waith fydd yn cael ei wneud yn ystod y cyfnod hwn?

Y bwriad yw ymgymryd â phecyn cyfan o waith, gan gynnwys gwaith ar y cledrau a’r signalau yn ogystal â gwaith cynnal a chadw cyffredinol. Gwybodaeth am y Metro yma.

 

Pryd fydd yr amserlenni diwygiedig ar gael ar y systemau archebu ar-lein?

Yn sgil y Coronafeirws, rydym yn rhedeg llai o wasanaethau ar hyn o bryd a bydd amserlenni trenau yn cael eu llwytho i fyny i’r systemau archebu tocynnau ar-lein wythnos ymlaen llaw. Cofiwch fwrw golwg ar eich taith cyn teithio. Bydd amserlenni bysiau diwygiedig yn cael eu harddangos yn eich gorsaf leol o ddechrau mis Gorffennaf.

 

Beth alla i ei ddisgwyl pan fyddaf yn cyrraedd cyfnewidfa gorsaf Radur?

Bydd gorsaf Radur yn gweithredu fel y brif gyfnewidfa rhwng y gwasanaethau trenau a bysiau. Bydd timau gwasanaeth cwsmeriaid ar gael yng ngorsaf Radur i gyfeirio'r cwsmeriaid i’r gyfnewidfa ac ohoni yn y maes parcio gerllaw. Mae trafnidiaeth ffordd wedi cael ei threfnu i gyd-fynd â'r gwasanaethau trên fel nad oes yn rhaid i chi ddisgwyl yn rhy hir.

 

Ble fyddaf i’n cael fy nghasglu neu fy ngollwng yn fy ngorsaf leol?

Mae’r rhan fwyaf o bwyntiau casglu / gollwng y gwasanaethau bysiau y tu allan i’r orsaf. Bydd digon o arwyddion ond gallwch ddod o hyd i’r lle i chi fynd i ddal y bysiau fydd yn rhedeg yn lle'r trenau yma (dewiswch eich gorsaf yna Gwybodaeth Maes Parcio) neu ar y Poster Gwybodaeth Ddefnyddiol yn eich gorsaf.

 

Fel arfer rwy'n mynd â beic ar y trên am fy mod ei angen i barhau â'm taith - oes modd i mi fynd â’m beic ar y bws?

Fel arfer ni chaniateir mynd â beic ar wasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ond lle bo modd gellir mynd â’ch beic yn ddibynnol ar ddisgresiwn y gyrrwr a’r lle sydd ar gael. Chi fydd yn gyfrifol am eich beic ar ein gwasanaethau bysiau, ac ni all Trafnidiaeth Cymru dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros unrhyw ddifrod.

 

Alla’ i fynd â’m ci ar y gwasanaeth bysiau?

Fel arfer ni chaniateir cŵn ar y gwasanaethau bysiau sy'n rhedeg yn lle’r trenau, ac eithrio cŵn tywys.

 

Alla’ i fynd â phram ar y gwasanaeth bysiau?

Caniateir pramiau, ond gofynnwn i chi eu plygu cyn mynd ar y bws

 

Faint o amser ychwanegol fydd mynd ar y bws yn ychwanegu at fy nhaith?

I gael yr union amseroedd, bydd yn rhaid i chi edrych ar eich teithiau penodol, ond dyma ganllaw ar gyfer rhai teithiau allweddol. Mae’r rhain yn seiliedig ar amseroedd ar gyfartaledd ar gyfer yr adeg y teithir gyda’r nos.

LlwybrAmcan o amseroedd gwasanaethu bysiau
Radur - Pontypridd00:35 awr
Radur - Merthyr Tudful01:20 awr
Radur - Aberdare01:20 awr
Radur - Treherbert01:25 awr

 

Alla’ i brynu tocyn ar y bws?

Nid oes cyfleusterau i brynu tocynnau ar y bysiau. Mae’n rhaid i chi brynu tocynnau cyn mynd ar y bws o’ch swyddfa docynnau lleol, peiriannau tocynnau, ar-lein gan ddefnyddio ein hadnodd cynllunio teithiau neu ein ap.

 

Rwy’n defnyddio cadair olwyn, alla’ i ddefnyddio'r gwasanaeth bws sy'n rhedeg yn lle'r trenau?

Mae mynediad ar gyfer cadeiriau olwyn am fod lloriau llwytho isel. I gael cyngor ac i drefnu cymorth ymlaen llaw, ffoniwch ein tîm Cymorth i Deithwyr ar 03330 050 501.

 

Gwaith gwella yn y dyfodol

I gael gwybod am y gwaith gwella ar draws ein rhwydwaith a all effeithio ar yr amserlen, ewch i’r dudalen hon.

Gwaith Peirianyddol