Pont teithio llesol: Cysylltu cymunedau yn y Drenewydd, Powys
Cefndir
Mae Afon Hafren yn gwahanu Canal Road a Pool Road yn y Drenewydd. Yn y gorffennol, nid oedd cysylltiadau uniongyrchol ar gyfer cerdded, olwynio na beicio rhwng y ffyrdd hyn. Golygai hyn fod yn rhaid i bobl deithio ymhellach i gyrraedd gwasanaethau lleol a chanol y dref.
Adeiladodd Cyngor Sir Powys bont deithio llesol newydd dros yr afon. Cafodd trigolion lleol, grwpiau cymunedol ac ysgolion eu cynnwys drwy gydol y broses. Daeth y bont ar gael i'w defnyddio gan y cyhoedd ym mis Mehefin 2025.
Nod
Nodau'r prosiect oedd:
- Darparu llwybr diogel, uniongyrchol a hygyrch i bobl sy'n cerdded, yn olwynio ac yn beicio rhwng Canal Road a Pool Road
- Gwella mynediad at swyddi, siopau, gwasanaethau a chyfleoedd hamdden
- Cysylltiad â llwybrau cerdded, olwynio a beicio eraill yn yr ardal
- Annog dewisiadau teithio mwy cynaliadwy.
Costau
Costiodd y cynllun £3.8 miliwn. Cafodd ei ariannu drwy Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru dros gyfnod o bedair blynedd. Ariannodd hyn y gwaith o ddylunio ac adeiladu'r bont, y llwybrau mynediad a gwneud gwelliannau i'r goleuadau. Adeiladwyd campfa awyr agored hefyd fel rhan o'r cynllun ehangach.
Canlyniadau
Canfu arolwg a gynhaliwyd yn fuan ar ôl i'r bont agor y canlynol:
- Cofnodwyd 661 o groesiadau ar y bont dros gyfnod yr arolwg o ddeg diwrnod.
- Roedd 94% o'r 179 o ddefnyddwyr a holwyd yn fodlon iawn ar y bont.
- Defnyddiwyd y bont gan bobl ar gyfer siopa a gwneud tasgau bob dydd (41.5%), hamdden ac adloniant (44.8%), teithio i'r gwaith (7.8%) ac ymweld â ffrindiau a theulu (4.5%).
- Teithiodd y rhan fwyaf o ddefnyddwyr ar droed.
- Mae arwyddion cynnar o well hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, defnyddwyr cymhorthion symudedd a beicwyr, gyda 2.5% o'r bobl a holwyd yn defnyddio rhyw fath o gymorth symudedd.
Mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu bod y bont yn gwella teithiau lleol pobl. Rydym yn parhau i fonitro'r defnydd o'r bont. Mae synwyryddion wedi'u gosod ar y ffyrdd sy'n arwain at y bont i olrhain tueddiadau defnydd dros amser.
Cysylltwch â: