Cyn i gyflwr niwrolegol effeithio ar ei gydbwysedd, ei glyw a'i symudedd, roedd Rhys yn seiclwr rheolaidd ac yn defnyddio beicio fel ffordd ymarferol o deithio i'r gwaith. Ar ôl blynyddoedd lawer o driniaeth ac adferiad, nid oedd Rhys yn meddwl y byddai beicio'n bosibl iddo eto. Fodd bynnag, wrth gymryd rhan mewn digwyddiad ‘Para-TRY-Athlon’ i bobl â chyflyrau niwrolegol, defnyddiodd feic tair olwyn gorweddol a ddarparwyd gan Pedal Power. 

"Doeddwn i ddim wedi meddwl am eiliad y byddwn i'n gallu beicio eto, felly roeddwn i wrth fy modd, a dweud y lleiaf. Roedd y beic tair olwyn yn gyfforddus, yn sefydlog ac, yn bwysicaf oll, yn hwyl tu hwnt!"

Gan ei fod eisiau parhau i feicio, ymwelodd Rhys â Pedal Power i gael asesiad gydag un o'r swyddogion beicio. Wrth weld y beiciau wedi'u haddasu oedd ar gael, sylweddolodd y gallai beicio fod yn opsiwn o hyd, er gwaethaf yr heriau yr oedd yn eu hwynebu.

"Yr hyn a'm synnodd fwyaf am Pedal Power oedd gweld yr amrywiaeth o feiciau sydd ganddyn nhw - rhai nad oeddwn hyd yn oed yn gwybod eu bod yn bodoli. Dangosodd i mi y gall beicio fod yn hygyrch i lawer mwy o bobl nag yr oeddwn wedi'i feddwl."

Ers ei asesiad cyntaf, mae Rhys wedi prynu ei feic tair olwyn gorweddol ei hun. Bellach, mae beicio yn rhan bwysig o'i drefn ddyddiol, gan ei helpu i gadw’n heini, magu hyder a chymdeithasu ag eraill.

Mae Rhys wedi dod ar draws llwybrau beicio anhygyrch:

"Bu adegau pan wnaeth rhwystrau neu fannau mynediad cul ei gwneud hi'n anodd defnyddio llwybrau gyda beic tair olwyn gorweddol. Mae hyn wedi dangos i mi mor bwysig yw hi bod seilwaith teithio llesol yn gweithio i bawb."

"I Rhys, mae beicio wedi dod â buddion iechyd corfforol a meddyliol, gan hefyd ddarparu ffordd o deithio'n annibynnol a mwynhau bod yn egnïol yn yr awyr agored."

"Mae beicio a theithio llesol yn golygu cymaint i mi. Mae wedi gwella fy iechyd corfforol a'm hiechyd meddyliol, ac mae'n weithgaredd cymdeithasol hefyd."

Rhys riding a 3 wheel pedal
Rhys riding a 3 wheel pedal at Penarth Pier
Rhys riding a 3 wheel pedal