Hyrwyddo Beicio Cynhwysol yng Nghaerdydd
Dechreuodd Pedal Power fel menter i adsefydlu cleifion Ysbyty Trelái. Ers hynny, tyfodd i fod yn sefydliad ffyniannus gyda lleoliadau ym Mhontcanna a Bae Caerdydd. Maent yn parhau i hyrwyddo beicio cynhwysol, sef eu cenhadaeth wreiddiol. Maent hefyd yn meithrin cysylltiad cymdeithasol, ac iechyd a lles yn gyffredinol.
Yn 2024, cyflwynwyd dros 900 o wersi i oedolion a phlant a dros 19,000 o feiciau (report.pdf).
Er mwyn sicrhau bod beicio yn hygyrch i bawb, mae PP yn cynnig asesiadau personol i argymell beiciau, treisiclau ac ategolion addas. Mae eu gwasanaethau yn cynnwys hurio a gwerthu beiciau, yn ogystal â chymorth wedi'i deilwra i ofalwyr, gan helpu i gael gwared ar lawer o'r rhwystrau y gall pobl ag anghenion ychwanegol eu hwynebu wrth geisio beicio.
Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar eu gwefan: https://www.cardiffpedalpower.org/
Profiad Teresa
Nid oedd Teresa wedi beicio ers dros 20 mlynedd, yn bennaf oherwydd ofn a brwydrau gyda fertigo sy'n effeithio ar ei chydbwysedd. Roedd profiadau blaenorol gyda beicio yn negyddol - opsiynau storio cyfyngedig a bu bron iddi gael damwain gyda cheir, a oedd wedi peri iddi deimlo'n anniogel. Roedd hi'n awyddus i gyfranogi i ymrwymiadau gwaith a byddai’n elwa o’r gallu i feicio, a gyda chefnogaeth ei rheolwr, ysgogwyd Teresa i ddechrau hyfforddiant i seiclo.
Yn gyntaf, ystyriodd Teresa ddefnyddio beic tair olwyn oherwydd ei phroblemau cydbwysedd, ond gydag anogaeth, ceisiodd beic safonol. Dechreuodd gyda sesiynau un-i-un gyda swyddog beicio, gan symud ymlaen yn raddol i hyfforddiant ar y ffordd. Roedd seiclo grŵp yn ymarfer gwerthfawr iddi.
Ers cwblhau'r hyfforddiant, mae Teresa yn beicio nifer o deithiau a oedd hi’n gyrru gynt, a beiciodd mewn dinas brysur ac anghyfarwydd ar gyfer ymweliad gwaith. Mae hi bellach yn teimlo'n fwy hyderus wrth lywio'r ffyrdd ond mae'n well ganddi ddefnyddio lonydd beicio ar wahân ble mae hynny’n bosib.
Mae Teresa yn parhau i fynychu grwpiau Pedal Power. Mae'r sesiynau hyn yn gymdeithasol, cefnogol ac yn ffordd wych o barhau i ymarfer. Mae Teresa hyd yn oed yn ystyried hyfforddi i arwain grwpiau ei hun, wedi'i ysbrydoli gan faint mae hi wedi cael budd o'r profiad:
"Roedd yr hyfforddiant gyda Pedal Power yn newid gêr. Rwy'n teimlo'n llawer mwy hyderus yn beicio a rhannu'r gofod gyda defnyddwyr eraill y ffyrdd. Fe wnaeth hefyd sbarduno fy niddordeb mewn beicio a nawr mae'n rhywbeth rwy'n edrych ymlaen at ei wneud ar fy niwrnod i ffwrdd. Yn y dyfodol, hoffwn ddod yn Arweinydd Taith fel y gallaf arwain grŵp Pedal Power fel gwirfoddolwr."
Profiad Damien
Mae gan Damien gyflwr asgwrn cefn sy'n effeithio ar ei gydbwysedd, ei symudedd a'i gryfder. Dros 13 mlynedd yn ôl, yn dilyn cyngor gan eraill ac oherwydd ei awydd i wella ei hyder, ei annibyniaeth a'i lefel o weithgaredd corfforol, ymwelodd Damien â Pedal Power i roi cynnig ar feic wedi'i addasu; mae wedi parhau i fod yn rhan o'r sefydliad ers hynny.
Dysgodd Damien reidio un o'u beiciau tair olwyn addasedig. Fe wnaeth y gefnogaeth a gafodd ei helpu i ddatblygu sgiliau newydd a hyder mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Doeddwn i erioed wedi beicio’n iawn cyn dod i Pedal Power, ond fe wnaethon nhw helpu i wneud i mi deimlo’n gyfforddus a’m dysgu sut i reidio un o'r beiciau tair olwyn yn ddiogel.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel cyfle i roi cynnig ar feicio bellach wedi dod yn rhan o fywyd Damien erbyn hyn. Mae beicio wedi helpu Damien i fod yn fwy heini ac annibynnol, gan ddarparu ffordd ymarferol o deithio a threulio amser yn yr awyr agored. Mae hefyd wedi ei alluogi i greu cysylltiadau cymdeithasol newydd drwy wirfoddoli a chymryd rhan mewn gweithgareddau grŵp.
"Mae Pedal Power wedi rhoi hyder a mwy o ryddid i mi. Mae defnyddio beic tair olwyn yn fy ngalluogi i symud o gwmpas yn haws nag wrth gerdded gyda ffyn baglau ac mae bod yn rhan o'r sefydliad wedi fy helpu i deimlo'n gysylltiedig ac yn rhan o bethau."
Yn dilyn llawdriniaeth yn 2016, cafodd Damien mwy o anhawster wrth ddefnyddio beic tair olwyn â llaw. Ar ôl trafod hyn gyda’r staff, cyflwynwyd ef i feic tair olwyn â chymorth trydan, a alluogodd iddo barhau i feicio er gwaethaf newidiadau o ran ei symudedd a’i gryfder.
"Cymerodd y staff yr amser i fy helpu i ddysgu sut i ddefnyddio beic tair olwyn trydan. Fe wnaeth wahaniaeth enfawr a chaniatáu i mi feicio o hyd."
I Damien, mae cael mynediad at feiciau wedi'u haddasu a chymorth personol wedi ei alluogi i barhau i fwynhau manteision beicio ers dros ddegawd a pharhau i gadw’n iach yn ei gymuned.
Gwersi a ddysgwyd
- Mae hyfforddiant beicio yn ffordd wych o fagu hyder ac i gael pobl i feicio.
- Gall hyfforddiant beicio helpu i gynhyrchu newid o geir i ddulliau mwy gweithredol.
- Mae sefydliadau fel Pedal Power yn cynnig ystod eang o fanteision ac yn helpu sicrhau beicio mwy cynhwysol.
Cyswllt: