Stryd Vincent, Abertawe: Creu stryd ysgol fwy diogel ar gyfer Ysgol Gynradd San Helen

Disgrifiad

Trawsnewidiodd Cyngor Abertawe Stryd Vincent yn Abertawe, y tu allan i Ysgol Gynradd San Helen. Ffordd heb allanfa a effeithiwyd gan lifogydd a pharcio anghyfreithlon oedd y stryd hon yn flaenorol. Bellach, mae'n ofod cyhoeddus mwy diogel a deniadol sy'n annog cerdded, olwynio a beicio.

Mae'r cynllun yn darparu llwybr mwy diogel ac uniongyrchol i bobl sy'n cerdded, olwynio a beicio i'r ysgol. Mae hefyd yn darparu gofod cyhoeddus gwell a gwelliannau amgylcheddol.

Y prosiect hwn oedd yr ymyriad cyntaf o fath ‘Stryd Ysgol’ yn Abertawe. Mae Stryd Ysgol yn cael gwared ar draffig ceir yn union y tu allan i'r ysgol. Mae’r rhain fel arfer yn ymyriadau sy’n weithredol ar adegau penodol, yn ystod yr amseroedd gollwng a chasglu yn y bore a'r prynhawn. Mae'n rhan o raglen ehangach i wella cysylltiadau cerdded, olwynio a beicio yn ardal Sandfields.

 

Nodau

Nod y prosiect oedd:

  • Atal parcio anghyfreithlon y tu allan i fynedfa'r ysgol.
  • Gwella diogelwch a chysur i blant sy'n teithio'n llesol i'r ysgol ac oddi yno.
  • Gwella'r amodau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio rhwng Stryd Vincent a Heol Burrows.
  • Darparu seddi newydd a chyfleoedd i gerddwyr allu gorffwys.
  • Creu gofod cyhoeddus deniadol i ddisgyblion a'r gymuned ehangach.
  • Cynyddu bioamrywiaeth a mesurau draenio cynaliadwy.

 

Cost

Ariannwyd y prosiect gyda £160,000 drwy'r Gronfa Teithio Llesol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Lleoedd Lleol ar gyfer Natur a Chronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

 

Gwersi a ddysgwyd

Mae'r gymuned leol wedi bod yn gefnogol i'r prosiect.

Roedd cydweithio agos rhwng y cyngor, yr ysgol, y contractwyr a Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei gwneud hi'n bosibl cynnwys cyfleusterau ar gyfer cerdded, olwynio a beicio, chwarae a systemau draenio cynaliadwy mewn un cynllun.

Mae'r cynllun wedi gwella golwg ac ymarferoldeb y gofod, gan leihau parcio anghyfreithlon ger giatiau'r ysgol ar yr un pryd.

 

Allbynnau a Chanlyniadau

Gwnaeth y gwaith hi'n haws ac yn fwy diogel cerdded, olwynio a beicio yn ardal Sandfields. Roedd y gwaith hwn yn cynnwys:

  • mesurau newydd i leddfu traffig
  • mannau pwrpasol heb geir
  • seddi newydd
  • seilwaith gwyrdd

Mae hyn wedi gwella ansawdd y gofod cyhoeddus, wedi annog cerdded ac wedi gwella mynediad i'r ysgol.

Mae'r ymyriad wedi gwella'r defnydd. Cofnododd arolwg camera 18 awr (06:00 tan hanner nos) a gynhaliwyd cyn y gwaith adeiladu 235 o gerddwyr a 14 o feicwyr yn mynd i mewn ac allan o Stryd Vincent. Cofnododd y gwaith monitro ar ôl y gwaith adeiladu 881 o gerddwyr a 24 o feicwyr.

 

Cydnabyddiaeth

Enillydd Gwobr Ystadau 2025.

 

Cysylltwch â:

activetravel@tfw.wales

 

A transformed Vincent Street, Swansea outside St Helen’s Primary School.
A transformed Vincent Street, Swansea outside St Helen’s Primary School.