Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru
Mae Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru yn arolwg mawr, blynyddol a gynlluniwyd i gasglu data ar agweddau ac ymddygiadau teithio gan bobl ledled Cymru ar hap. Mae'n cynnwys cwestiynau i ddefnyddwyr a rhai nad ydynt yn ddefnyddwyr gwahanol ddulliau trafnidiaeth, yn ogystal â dyddiadur teithio deuddydd.
Bydd ATCC yn darparu data dibynadwy a chadarn i Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru i olrhain cynnydd tuag at dargedau ac ymrwymiadau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Cyhoeddir y data hyn fel ystadegau swyddogol sydd wrthi'n cael eu datblygu.
Mae ein harfer ystadegol yn cael ei reoleiddio gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau (OSR).
Mae OSR yn gosod y safonau dibynadwyedd, ansawdd a gwerth yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau y dylai pob cynhyrchydd ystadegau swyddogol lynu wrthynt.
Mae croeso i chi gysylltu â ni'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau ynghylch sut rydym yn bodloni'r safonau hyn.
Fel arall, gallwch gysylltu ag OSR drwy e-bostio regulation@statistics.gov.uk neu drwy wefan OSR.