Mynediad cyn ei ryddhau i ystadegau swyddogol Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Mae’r addroddiad hyn yn amlinellu pwy oedd â mynediad cyn-rhyddhau at yr Ystadegau Swyddogol a gyhoeddwyd. Caiff yr adroddiadau hyn eu diweddaru yn rheolaidd.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn cael ei enwi yng Ngorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2017 fel corff sy’n cynhyrchu ystadegau swyddogol, fel y’i diffinnir gan Ddeddf Ystadegau a Gwasanaethau Cofrestru 2007.

Mae'r Ystadegydd Arweiniol yn Trafnidiaeth Cymru yn rhoi mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau Trafnidiaeth Cymru.

1. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau ar eu ffurf derfynol

Mae mynediad cyn-rhyddhau yn rhoi mynediad at ystadegau ar eu ffurf derfynol cyn iddynt gael eu cyhoeddi. Mae’r rheolau sy’n rheoli pwy gaiff fynediad cyn-rhyddhau a pham wedi’u nodi yng Ngorchymyn Mynediad Cyn-rhyddhau at Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2009.

Mae pob derbynnydd a enwir ar y rhestr mynediad yn cadarnhau o flaen llaw:

  • bod angen mynediad arnynt ar gyfer eu swyddogaethau swyddogol
  • byddant yn cydymffurfio â’r amodau ar gyfer mynediad cyn-rhyddhau

Caiff mynediad cyn-rhyddhau at ystadegau Trafnidiaeth Cymru ei ddarparu o fewn 5 diwrnod gwaith cyn i’r ystadegau gael eu cyhoeddi.

2. Pwy sydd â mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer dibenion cynhyrchu

Rhoddir mynediad cyn-rhyddhau hefyd i nifer fach o bobl sy'n ymwneud â chynhyrchu’r cyhoeddiad ystadegol. Mae hyn yn cynnwys:

  • Ystadegydd Trafnidiaeth Cymru
  • Cydweithwyr sy'n ymwneud â gwirio cynnwys
  • cyfieithwyr
  • ysgrifenyddion (sydd â mynediad at flwch post derbynnydd a restrir isod)
  • timau cyhoeddi ar y we

Nid yw'r rhai sy'n cael mynediad at ddibenion cynhyrchu wedi'u cynnwys yn y rhestr isod.

3. Rhestr o’r swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau Trafnidiaeth Cymru

Rydym yn cyhoeddi ac yn diweddaru'r rhestr ganlynol o swyddi sydd â mynediad cyn-rhyddhau i ystadegau Trafnidiaeth Cymru. Mae hyn yn unol â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

 

Mae'r rhestr mynediad cyn-rhyddhau ar gyfer datganiadau ystadegol cynharach ar gael ar gais.

Ystadegau Arolwg Teithio Cenedlaethol Cymru

Diweddarwyd ddiwethaf: 25 Tachwedd 2026

  • Cyfarwyddwr Gweithredol – Polisi Strategol, Trafnidiaeth Cymru
  • Prif Swyddog Cynllunio a Datblygu Trafnidiaeth, Trafnidiaeth Cymru
  • Rheolwr Cysylltiadau â'r Cyfryngau, Trafnidiaeth Cymru
  • Uwch Reolwr Cysylltiadau Llywodraeth,  Trafnidiaeth Cymru
  • Partner Busnes Cyfathrebu, Trafnidiaeth Cymru
  • Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Cyfarwyddwr - Trafnidiaeth a Chysylltedd, Llywodraeth Cymru
  • Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth a Chynllunio Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Arweinydd Data Trafnidiaeth Ranbarthol, Llywodraeth Cymru
  • Pennaeth Ystadegau'r Economi a Thrafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Dirprwy Pennaeth Cyfathrebu Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Rheolwr Cyfathrebu Trafnidiaeth, Llywodraeth Cymru
  • Prif Swyddog y Wasg, Llywodraeth Cymru
  • Uwch Swyddog y Wasg, Llywodraeth Cymru