Gwaith ar reilffordd Treherbert

Byddwn yn cau’r rheilffordd rhwng Pontypridd a Threherbert o 29 Ebrill 2023 tan ddiwedd Ionawr/dechrau Chwefror 2024. Mae hyn er mwyn i ni allu cyflawni ein rhaglen waith fwyaf hyd yma fel rhan o’r gwaith o adeiladu Metro De Cymru.

Mae rhai o offer a seilwaith rheilffordd Treherbert ymhlith yr hynaf ar draws holl Linellau Craidd y Cymoedd, sy’n dyddio’n ôl i ddechrau’r 1930au. Yn ystod yr wyth mis pan fydd y rheilffordd ar gau, mae gennym lawer iawn o waith i’w wneud i foderneiddio’r rhan hon o’r rheilffordd.

 

Ein gwaith

  • Cael gwared ar yr hen ‘System Signalau Cyfnewid Tocynnau’ a gosod system signalau newydd sbon ar gyfer y llinell gyfan.
  • Dargyfeirio prif bibelli nwy a dŵr enfawr sy’n ein rhwystro rhag trydaneiddio’r rheilffordd.
  • Gosod cyfarpar i ganiatáu i drenau redeg gan ddefnyddio trydan, gan gynnwys gosod pyst sylfaen, ac ychwanegu mastiau a gwifrau.
  • Adeiladu platfformau newydd mewn gorsafoedd yn Nhreherbert, Ynys-wen a Dinas Rhondda.
  • Adeiladu cledrau newydd ar hyd y rheilffordd a dolenni pasio newydd rhwng Ynys-wen a Threherbert, Ton Pentre ac Ystrad Rhondda, a rhwng Porth a Dinas Rhondda.
  • Adeiladu pont droed newydd yn Ynys-wen a Dinas Rhondda.
  • Gosod mynediad gwastad mewn amryw o orsafoedd.
  • Gosod toiledau, ystafelloedd aros a llochesi newydd ac wedi’u hadnewyddu. Rydyn ni hefyd yn gosod neu’n uwchraddio mannau cymorth, camerâu teledu cylch cyfyng, peiriannau gwerthu tocynnau, dilyswyr tocynnau clyfar, Wi-Fi a systemau gwybodaeth i gwsmeriaid.

 

Gwybodaeth am fysiau yn lle trenau

Ni fydd trenau’n gallu rhedeg yn ystod y gwaith, felly rydyn ni’n gofyn i’n teithwyr wirio cyn teithio.

Rydyn ni’n rhedeg gwasanaeth bws yn lle’r trenau ledled y Rhondda.

O ddydd Llun 5 Mehefin ymlaen, bydd ein cynllun tymor hir ar gyfer bysiau yn lle’r trenau yn Nhreherbert yn dechrau:

  • Amserlen “graidd” - bws bob 30 munud yn stopio ym mhob gorsaf
  • Gwasanaeth AM a PM “lled-gyflym” ar gyfer y cyfnodau teithio prysuraf. Bydd hyn yn lleihau amseroedd teithio ac yn gwella capasiti
  • Cynllun bysiau ysgol penodedig ar gyfer Ysgol Gyfun Treorci.
  • Safle bws yn lle trên
    • I reoli symudiad bysiau yn lle trenau yn ddiogel yn orsaf Pontypridd, bydd y man gollwng a chodi ar flaen yr orsaf wedi i'w cau. Mynediad Anabledd dal ar agor, ac mae staff wedi i'w gosod ar flaen yr orsaf.

    • Rydyn yn ymddiheuro am yr anhawster.

    • Pontypridd - Treherbert
  • Mapiau bysiau yn lle trenau
    • Treherbert

    • Treherbert
    • Ynys-wen

    • Ynys-wen | Ynyswen
    • Treorci

    • Treorci | Treorchy
    • Ton Pentre

    • Ton Pentre
    • Ystrad Rhondda

    • Ystrad Rhondda
    • Llwynypia

    • Llwynypia
    • Tonypandy

    • Tonypandy
    • Dinas Rhondda

    • ​​Dinas Rhondda
    • Porth

    • Porth
    • Trehaford

    • Trehafod

Byddwn yn adolygu’r cynllun hwn yn barhaus ac yn ei ddiwygio yn ôl yr angen drwy gydol y gwaith hwn.

Er mwyn ei gwneud yn haws i’n cwsmeriaid, bydd gennym gydweithwyr wrth law mewn lleoliadau allweddol, yn gweithio’n agos rhwng cysylltiadau trenau a bysiau i gynnig cymorth a chyngor pan fo angen. Hefyd, bydd gwell arwyddion a dulliau o ganfod y ffordd ym mhob gorsaf ac arhosfan. Mae gennym gerbydau ychwanegol ar gael i ymateb i unrhyw broblemau gweithredol neu broblemau o ran capasiti wrth iddynt godi.

Bydd ein hadnodd gwirio teithiau yn cael ei ddiweddaru gyda’r wybodaeth am fysiau yn lle trenau.

Rydym bob amser yn chwilio am gyfleoedd i wella profiad y cwsmer. Bydd eich adborth gonest am yr arolwg yn ein helpu i lunio ein gwasanaethau bysiau yn y dyfodol.

 

Teithio am bris gostyngol

Yn ystod y cyfnod y byddwn ni’n gwneud y gwaith ar linell Treherbert, byddwn yn cynnig 50% oddi ar gostau teithio i bobl sy’n byw ac yn teithio yn y Rhondda. Bydd y cynnig yn berthnasol i deithiau sy’n gyfan gwbl ar reilffordd Treherbert a theithiau rhwng gorsafoedd ar y rheilffordd, a lleoliadau i Gaerdydd Canolog.

Bydd unrhyw gwsmer sydd â thocyn yn barod yn gallu defnyddio’r tocyn ar y gwasanaeth bws yn lle’r trên yn ystod y broses o gau’r llinell.

Bydd y cwsmeriaid y mae’r cyfyngiad hwn yn effeithio arnynt, sy’n byw ac yn teithio rhwng Treherbert a Threhafod, yn gallu cael gostyngiad o 50% ar Gerdyn Rheilffordd y Rhondda a fydd yn ddilys ar gyfer teithio yn ystod y tarfu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.

 

Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth?

Mae Llywodraeth Cymru a TrC wedi ymrwymo i raglen uchelgeisiol o welliannau i’r Metro, sef Trawsnewid Llinellau Craidd y Cymoedd. Mae’r prosiect trawsnewid hwn wedi’i ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.

 

Oeddech chi’n gwybod?

Oeddech chi’n gwybod bod rheilffordd Treherbert yn cael ei gweithredu gan System Signalau Cyfnewid Tocynnau ar hyn o bryd?

Gwrthrych ffisegol y mae’n rhaid i yrwyr trenau ei gael neu ei weld ar reilffordd yw tocyn cyfnewid, gan ei roi i mewn i’r uned tocynnau cyn teithio ar ran benodol o drac sengl. Mae’r tocyn yn cael ei ardystio gydag enwau’r adran y mae’n perthyn iddi, hynny yw, Treherbert, Tonypandy. 

Dyma'r peiriant sy'n gweithredu llinell Treherbert: