Estyniad Metro Aberdâr i Hirwaun

Rydyn ni’n gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i edrych ar sut gallwn ni ddefnyddio’r cledrau presennol rhwng Aberdâr a Hirwaun. Megis dechrau mae’r trafodaethau hyn ond mae astudiaethau cychwynnol wedi cael eu cynnal fel rhan o Fetro De Cymru.

Bydd agor rheilffordd Aberdâr i Hirwaun yn creu mwy o fynediad at swyddi, darpariaeth gofal iechyd ac addysg. Bydd yn trawsnewid bywydau ac yn lleihau effaith ein rhwydwaith trafnidiaeth ar yr amgylchedd.

Mae angen rhagor o arolygon ac ymchwiliadau i bennu cyflwr y llinell bresennol a gofynion y seilwaith yn y dyfodol. Bydd y prosiect yn agored i ymgynghoriad cyhoeddus a bydd adborth yn cael ei ystyried i wneud yn siŵr bod y gymuned leol wrth galon y cynlluniau.

Fel rhan o raglen Metro Plus Awdurdod Trafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, mae’r prosiect yn mynd drwy ofynion yr Arweiniad ar Arfarnu Trafnidiaeth Cymru (WelTAG) a osodir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn sicrhau bod dull cadarn yn cael ei ddilyn i ddadansoddi ac asesu problemau ac opsiynau, ac i ddatblygu atebion.

TfW Valley Lines Map