Monitro a gwerthuso cynlluniau cerdded, olwynio a beicio yng Nghymru
Rydym wedi gweithio gyda Walk Wheel Cycle Trust i adeiladu pecyn cymorth i'ch helpu i fonitro a gwerthuso effaith eich cynlluniau cerdded, olwynio a beicio.
Mae'n adeiladu ar Ganllawiau'r Ddeddf Teithio Llesol trwy ddarparu cyngor ymarferol ar wella ansawdd a chysondeb casglu data. Bydd yn cefnogi awdurdodau lleol i fodloni eu gofynion adrodd o dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 a grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru.
Os hoffech gael rhagor o arweiniad ar fonitro a gwerthuso cynlluniau teithio llesol, gan gynnwys datblygu cynlluniau a gosod amcanion CAMPUS, cysylltwch ag activetravel@tfw.wales.